Total Pageviews

Friday 15 February 2008

Y Pair






Y Cymro – 15/2/08

Fues i’n pendroni’n hir pam y bu i’r Theatr Genedlaethol ddewis i lwyfannu cyfieithiad o ddrama ‘enwog’ Arthur Miller, ‘The Crucible’. Ro’n i’n meddwl fod ‘Tymor y Clasuron’ wedi hen ddarfod, a dyma ddwy ddrama ‘glasurol’ arall (ynghyd â ‘Siwan’) yn nhymor y ‘Bradwriaeth’. Wedi cyrraedd Theatr Gwynedd, a chael fy hun ynghanol fflyd o fyfyrwyr, buan iawn y daeth hi’n amlwg fod y ddrama hon, fel ‘Cysgod y Cryman’ gynt, ar faes llafur addysgol llawer ohonynt. Dyna un ffordd o sicrhau cynulleidfa ac i gadw athrawon yn hapus! Dim ond gobeithio mai nid marchnata a gwerthiant sy’n llywio’r dewis artistig!

Roedd hi’n amlwg hefyd, o ddarllen ei golofn yn Barn yn Awst 2006, fod Gareth Miles wedi gwirioni ar y ddrama, a hynny wedi iddo weld cynhyrchiad Cwmni’r Royal Shakespeare ohoni dan gyfarwyddyd Dominic Cooke a hawliodd chwe seren gan adolygydd Time Out ar y pryd. Yn ôl Miles, llwyddodd Cooke i gyfuno ‘y testun, y cyfarwyddo, y llwyfannu a’r actio i roi profiad theatrig gwefreiddiol a bythgofiadwy i gynulleidfa’r Gielgud Theatre’. Aeth yn ei flaen i sôn am ‘gyfieithiad rhagorol y diweddar John Gwilym Jones ohoni’ dan ei theitl ‘Y Crochan’. Mi wn y bu cryn drafod dros yr wythnosau diwethaf am y newid yn nheitl y ddrama o’r ‘Crochan’ i’r ‘Pair’, a fynnwn i ddim rhoi tro yn y cawl hwnnw sy’n mudferwi oddi mewn! Yr unig beth ofynnai ydi hyn; os mai ‘rhagorol’ oedd cyfieithiad John Gwilym Jones, ac yn amlwg ddigon da i’w ail-gyhoeddi (fel y noda Miles yn ‘Barn’) gan Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ac Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru, pam comisiynu cyfieithiad arall ohoni, a hynny gan Gareth Miles ei hun, oedd yn aelod o’r Bwrdd Artistig ar y pryd?

A dyma ddod at y cynhyrchiad ei hun, 'un o'r cynyrchiadau theatr mwyaf erioed yn y Gymraeg’ yn ôl y cwmni, gyda 17 actor yn rhan o’r cast. Roeddwn i wedi gobeithio medru canmol bob un, ond yn anffodus unwaith eto, cafwyd cam-gastio anffodus, a barodd i’r cynhyrchiad fod yn sigledig ac mor brenaidd â Set ddiflas Sean Crowley oedd yn fy atgoffa i o un siediau ‘rardd B&Q! Sylwedd dros synnwyr unwaith eto, gyda’r mur cefn enfawr yn ychwanegu dim at y cynhyrchiad oni bai am ambell i ddrws neu ffenest. Parhau i gludo’r dodrefn ar y llwyfan wnaeth yr actorion, ac mewn drama sydd eisoes bron yn dair awr o hyd, roedd hyn yn arafu’r cwbl. Methiant mawr y cynhyrchiad oedd goleuo Iestyn Griffiths a’r diffyg rheoli o’r peiriant mwg sydd i fod i roi naws i’r olygfa nid i foddi’r actorion. Yn yr Ail Act, wrth gludo canhwyllau i’r llwyfan, mae ‘Elizabeth Proctor’ (Catrin Powell) yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi’n nosi, ac eto roedd môr o olau dydd yn ffrydio drwy’r drws. Roedd yr Act Olaf mor dywyll nes imi gael cryn drafferth i weld yr actorion, gyda Fraser Caines a’i glogyn hir a’i goler uchel yn debycach i Dracula na un o Swyddogion y Llys!.

Ymysg yr anobaith, fe gafwyd chwip o berfformiad gan Owen Arwyn fel ‘John Proctor’ - y calla’ yn y pentref, sydd oherwydd hysteria’r trigolion yn troi’n ferthyr ar ddiwedd y ddrama. Roeddwn i’n poeni bod Arwyn llawer rhy ifanc a llipa i’r rhan, ond mae’n amlwg ei fod wedi aeddfedu fel actor, ac fe’m hargyhoeddodd yn llwyr. Mae’r un peth yn wir am Betsan Llwyd fel ‘Ann Putnam’, Owen Garmon fel ‘Giles Corey’ a Lowri Gwynne fel ‘Martha Corey’ a oedd mor naturiol gredadwy yn eu portreadau, ac yn amlwg yn byw pob emosiwn o’r ddrama. Boddhaol oedd Jonathan Nefydd fel ‘Samuel Parris’ oedd yn tueddu i droi’r cyfan yn ffars ar adegau, ac er i Dyfan Roberts fel ‘Danforth’, Llion Williams fel ‘Thomas Putnam’ a Richard Elfyn fel ‘John Hale’ wneud eu gorau glas o fewn hualau eu cymeriadau, chefais i ddim fy argyhoeddi’n llwyr y tro hwn. Hoffwn i’n fawr petai actorion o Gymru yn rhoi’r gorau i’r ‘actio’ ffug yma, gan fod yn llawer mwy naturiol. Troi a chanfod y cymeriad yn rhan ohonynt yn hytrach na cheisio creu cymeriad arwynebol. Rhaid i’r cyfarwyddwyr hefyd ysgwyddo rhan o’r baich yn hyn o beth.

Roeddwn i hefyd wedi edrych ymlaen yn fawr i weld pa actor o Gymru fyddai’n cael duo ei wyneb â blacin gwyn er mwyn portreadu’r forwyn groenddu ‘Tituba’ sy’n rhan allweddol o’r stori. Y hi sy’n cael ei beio am ddysgu’r merched ifanc am wrachyddiaeth. Ond fe gastiwyd actores ddi-gymraeg i’r rhan, Maxine Finch, a oedd, chwarae teg iddi wedi dysgu i ynganu’r Gymraeg, nes i hwnnw’n amlwg ei llethu, ac fe ganiatawyd iddi lefaru talpiau mawr o’i hymsonau yn y Saesneg. Daw hyn a mi’n ôl at y cwestiwn gwreiddiol. Pam llwyfannu unrhyw gynhyrchiad os nad ydi’r adnoddau cywir ar gael? Welwch chi neb yn gneud cacen heb flawd!

O’r olygfa agoriadol, roeddwn i wedi dechrau amau’r cynhyrchiad gan na welso ni ddim o’r ‘dawnsio fel anwariaid’ gan y morynion liw nos, nac ychwaith unrhyw ferch noeth y meddyliodd Parris iddo weld. Do, fe gafwyd y tân, ond yn anffodus weles i ddim ohono oherwydd i un o’r actorion fasgio’r digwydd rhag rhan helaeth o ganol y gynulleidfa. Boring, ond boddhaol ydi’r unig ffordd medrai ddisgrifio’r cynhyrchiad. Ymysg y ddialog acen-gymysyglyd roedd yna eiriadur o eiriau amrywiol o’r hynafol ‘gyfathrachu’ i’r ‘dwnjwn’ a’r ‘ffansio hi’ cyfoes yng nghyfieithiad Miles, ac roedd stiffrwydd y ddialog lenyddol tu hwnt i allu ambell i actor.

Diolch am weledigaeth theatrig Judith Roberts sy’n chwa o awyr iach ar lwyfannau Cymru, ac sydd, fel sy’n gwbl amlwg o’i hanes byr yn y rhaglen, yn deillio o’i phrofiad helaeth yn gweithio yn Llundain a’r Iwerddon. Newyddion diweddara’r cwmni yw’r ffaith mai Judith fydd hefyd yn cyfarwyddo cynhyrchiad nesa’r cwmni sef cyflwyniad ‘cyfoes o ddrama adnabyddus Saunders Lewis’ - ‘Siwan’. ‘Cyfoes’ sylwer, i efelychu llwyddiant ‘Esther’ o bosib? Siomedig iawn na wahoddwyd cyfarwyddwr gwadd i ymgymryd â’r gwaith yma; siawns nad oes ganddo ni ddigon yma’n Gymru neu du hwnt sy’n segur ar hyn o bryd? Gair o gyngor. Gwyliwch rhag defnyddio yr un actorion ymhob cynhyrchiad!

Ac wele, o’r diwedd, gyhoeddi rhestr o aelodau newydd Bwrdd y Theatr, ynghyd â’u Cadeirydd newydd, Yr Athro Ioan Williams. Mae’r hen wynebau cyfeillgar yn dal yno wrth gwrs : Linda Brown, Eleri Twynog Davies, Gwyneth Glyn, Garry Nicholas ac Elinor Williams, gan fawr obeithio y bydda nhwtha yn ymddeol y flwyddyn nesaf, yn ôl trefn gyfansoddiadol anghofiedig y cwmni. Ac yna’r wynebau a’r lleisiau newydd (rhai ohonynt yn newydd iawn i mi!) : Dylan Rhys Jones, Susan Jones, Lee Haven Jones, Jonathan Pugh a Traude Rogers. Dim ond gobeithio y bydd eu profiad helaeth o Fyd y Ddrama yn fantais fawr i Gymru, ac y byddant, un ac oll, yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am waddol y cwmni mewn blynyddoedd i ddod.

Mi orffennai gyda geiriau Gareth Miles, nôl o fis Awst 2006, sy’n dweud mai un o ‘swyddogaethau’r theatr’ a’r hyn a wnaeth Arthur Miller efo ‘The Crucible’ ydi ‘dwyn ger bron cynulleidfaoedd anhwylderau a chroestyniadau’r gymdeithas gyfoes, waeth pa mor ddirdynnol. Dyna ddull y theatr o hyrwyddo iechyd meddyliol ac emosiynol y gymdeithas a wasanaetha.’ Gresyn na chafwyd drama wreiddiol Gymraeg a all wneud hyn, wedi bron i bum mlynedd o fodolaeth y cwmni, a bron i bum miliwn o arian cyhoeddus...

Mae ‘ Y Pair’ ar daith tan Mawrth 14eg. Mwy o fanylion ar www.theatr.com

No comments: