Total Pageviews

Friday 22 February 2008

'Being Harold Pinter'



Y Cymro – 22/02/08

Dathliad o waith un o fy hoff ddramodwyr yr wythnos yma sef Harold Pinter. Mae ei waith i’w weld mewn o leia’ un theatr gydol y flwyddyn yma yn Llundain, ond go brin y gwelwch chi gynhyrchiad tebyg i’r un weles i'r wythnos hon. Sôn yr ydw’i am gynhyrchiad Theatr Rydd Belarus o ‘Being Harold Pinter’ sydd i’w weld yn Theatr Soho ar hyn o bryd. Byrdwn y cynhyrchiad ydi dathlu gwaith Pinter drwy gyfuno detholiad o’i ddramâu ynghyd â dyfyniadau o’i araith wedi iddo ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth yn 2005. Drwy’r dyfyniadau cawn flas o sut mae Pinter yn mynd ati i gyfansoddi ei ddramâu, ynghyd â’r hyn mae’n ceisio ei ddweud mewn llawer ohonynt. Cwestiynau pellach sy’n cael eu codi yw sut mae rhywun yn esgor ar ddrama ac ydi artist i fod i ddelio gyda gwleidyddiaeth?

O ran y detholiad o ddramâu, mae’r cyfan yn ymwneud â thrais; trais yn y cartref yn y golygfeydd o ‘The Homecoming’ ac ‘Ashes to Ashes’, trais sefydliadol yn ‘The New World Order’ a ‘One for the Road’ a thrais mewn gwrthdaro rhyngwladol efo’r ddrama ‘Mountain Language’.

Ond nid dathlu gwaith Pinter yw unig nod y cwmni. Mae’r ffaith bod y cwmni eu hunain yn perfformio yn Llundain yn gamp ynddo’i hun. Wedi’u sefydlu ym mis Mawrth 2005, gan y dramodydd Nikolai Khalezin a’r rheolwr theatr Natalia Koliada, mae gan y cwmni ar hyn o bryd ddeg actor, dau gyfarwyddwr, pedwar dramodydd, dau gerddor, un gohebydd, pedwar rheolwr a dau dechnegydd. Ond tydi’r Theatr Rydd ddim yn bod yn swyddogol o dan drefn wleidyddol Belarus. Does ganddynt ddim cartref parhaol, nag unrhyw gyfleusterau. Mae’r holl ymarferion a pherfformiadau yn cael eu cynnal yn y dirgel mewn tai preifat, tai bwyta neu yn y goedwig. Mae aelodau’r cwmni yn cael eu haflonyddu’n gyson a chollodd llawer ohonynt eu gwaith o fewn theatrau sy’n cael eu rheoli gan y wladwriaeth. Ond diolch i gefnogaeth dramodwyr fel Tom Stoppard ac Arthur Kopit, ynghyd ac amrywiol sefydliadau mae’r cwmni yn llwyddo i gael lleisio eu pryderon, a’u profiadau.

Yr unig anfantais efo’r cynhyrchiad yma ydi’r ffaith fod y cyfan yn iaith y wlad - Belarus. Gogoniant Pinter i mi ydi’r dewis gofalus a’r chwarae ar eiriau, gyda’r seibiau yn adrodd cyfrolau rhwng y cyfan. Collwyd hynny yn gyfangwbl yn y Rwsieg, ac er i’r cyfieithiad gael ei daflunio ar y sgrin uwchben yr actorion, doedd yr hyn a glywyd o enau’r actorion ddim byd tebyg i’r hyn oedd ar y sgrin! Wedi awr o’r 'Rwsieg wen', roeddwn i’n dechrau sigo, nes i’r cwmni ddechrau ar y ddrama fer ‘Mountain Language’. Dyma ddrama sy’n datgelu pŵer unrhyw iaith. Yn dilyn dyfarniad milwrol sy’n gwahardd pobol ‘y mynydd’ rhag defnyddio eu hiaith eu hunain, maent yn gorfod defnyddio ‘iaith y brifddinas’, sydd tu hwnt i allu llawer ohonynt, ac felly yn amhosib iddynt lefaru. Ond wedi dileu’r dyfarniad, ac wedi iddynt glywed am y dileu yn ‘eu hiaith eu hunain’, mae’r hen wraig yn dewis i aros yn fud; dewis sy’n tanio pob math o resymeg wleidyddol a diffiniadau gwahanol. Er i’r ddrama gael ei ysbrydoli gan daith Pinter i wlad Twrci gyda’r dramodydd o America, Arthur Miller, mae Pinter yn gwrthod yr awgrym mai drama am dynged y Cwrdiaid ydi hi, ond yn hytrach am yr holl ieithoedd sydd wedi’u gwahardd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Yn naturiol, fe drodd y cwmni'r ddrama yn ddameg o’u profiad hwy ym Melarus, a thrwy gyfuno tystiolaeth o’u profiadau personol, mae’r canlyniad yn ddirdynnol.

Symlrwydd amrwd ac onest y cynhyrchiad sy’n plesio, ac er nad oedd perfformiad bob aelod o’r cast yn serennu, allwn i’m peidio teimlo parch o’r mwyaf i bob un ohonynt am eu dewrder a’u dyfalbarhad. 

Yn sgil eu llwyddiant yn Llundain, a’r adolygiadau rhagorol yn y Wasg, mae’n debyg y bydd sawl aelod o’r cwmni yn cael ei aflonyddu eto wedi i’r cwmni ddychwelyd i Belarus.

O ran y llwyfannu a’r cyfarwyddo, roedd y weledigaeth theatrig yn gan mil gwell na sawl cynhyrchiad weles i yng Nghymru; doedd na ddim ofn pechu yma, mentro ydi’r unig nod. Gwthio’r ffiniau a herio’r sefydliad. Fel na ddylai’r theatr fod.

Mae’r Theatr Rydd Belarus i’w weld yn Theatr Soho tan Chwefror 23. Mwy o fanylion ar www.sohotheatre.com

No comments: