Cyfle i ail-ymweld ag un o’r theatrau llai'r wythnos yma, wrth fentro yn ôl i Theatr y Finborough yn ardal Earls Court. Braf gweld bod bar y theatr wrthi yn cael ei adnewyddu a’i droi i fod yn Brasserie fydd yn agor ddiwedd y mis. Yn anffodus, ni chafwyd rhybudd o hyn, ac o’r herwydd, bu’n rhaid mynd i wastraffu hanner awr go dda ar y strydoedd oer cyn cael mynediad i’r theatr. Braidd yn llychlyd a di-drefn oedd yr adeilad, ac yn sgil ymweliad y cwmni trydan yn gynharach yn y dydd, bu’n rhaid ail-gychwyn y ddrama, wedi i’r ddesg oleuo ffwndro’n lân, gan adael yr actorion mewn duwch! Buan iawn y rhoddwyd trefn ar bethau, a dechreuwyd o ddifri ar gynhyrchiad o ddrama Howard Brenton, ‘Weapons of Happiness’ - y ddrama gomisiwn gyntaf, gyda llaw, i’w llwyfannu ar y Southbank a hynny yn Theatr y Lyttelton, ym mis Gorffennaf 1976.
Mae’r ddrama wedi’i leoli mewn ffactri gneud creision yn Ne Llundain yn y Saithdegau, ble mae’r gweithwyr yn dechrau dod o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth. Ymysg y gweithwyr, mae’r ‘Josef Frank’ (Hilton McRae) sydd wedi ffoi i Lundain o Tsiecoslofacia, er mwyn dianc rhag ei orffennol. Bum mlynedd ar hugain wedi iddo ffoi, mae’n cael ei ddychryn a’i dristau gan agwedd rhai o’r ieuenctid sy’n gweithio yn y ffactri. Fel yr ‘Wylan’ wyllt yn nofel Islwyn Ffowc Elis, ‘Cysgod y Cryman’, mae’r cymeriad ‘Janice’ (Katie Cotterall) wedi’i meddiannu gan y ddelfryd o Gomiwnyddiaeth, ac yn gwybod yn iawn am gefndir yr ymwelydd. Drwy ddefnyddio ei rhywioldeb, mae’n ceisio’i gore i ddenu’r hen ŵr yn ôl at ei ddaliadau. Gweddill ‘plant y chwyldro’ yn y ffactri ydi ‘Ken’ (Benjamin Davies), ‘Liz’ (Abigail Hood) ac ‘Alf’ (Christopher Terry) sydd, er ymdrechion Rheolwr y ffactri ‘Ralph Makepeace’ (Anthony Keetch), y fforman ‘Mr Stanley’ (Mike Aherne) a chynrychiolydd yr Undeb, ‘Hicks’ (Martin Pirongs), am geisio achub eu gwaith a newid eu bywydau. Er gwaethaf profiadau trawmatig ‘Frank’ yn nyddiau Stalin, tydi’r ieuenctid ddim am wrando, gan ddewis i feddiannu’r ffactri ac ymladd yn erbyn y llywodraeth sydd wedi cefnu arnynt. Ond drwy gyfres o ôl-fflachiadau, buan iawn y mae ‘Frank’ yn gneud i’r rhai ifanc sylweddoli na ddaw dim da o’u gweithredoedd. Ar ddiwedd y ddrama, wedi iddynt ffoi i Gymru, maent yn gweld mai’r un yw’r problemau yno hefyd, ac yn dyheu am eu bywyd dinesig.
Angor y cynhyrchiad, drwy ei bortread sensitif a chynnil ond hynod gredadwy ydi Hilton McRae sy’n hawlio’r llwyfan, ac yn daearu’r cynhyrchiad. Yn anffodus, mae pob actor yn gweithio ar ei liwt ei hun, ar wahanol lefel i’w gilydd, ac roedd hyn yn amharu ar y ddrama. Ar gychwyn yr ail-Act, wrth inni gael ein hatgoffa o ‘orffennol ‘Frank’ wedi’i garcharu gyda gweinidog tramor gwlad Tsiec ‘Clementis’ (Hayward Morse) roedd y gwahaniaeth rhwng arddull y ddau actor yn amlwg; McRae yn gynnil a chredadwy tra bod Morse yn gorwneud. Roedd yr un diffyg yn nefnydd y cast o’u lleisiau – rhai yn gorlefaru mewn gofod bychan tra bod eraill ddim yn taflu’u lleisiau ddigon.
Wedi dweud hynny, dyma gynhyrchiad sy’n werth ei weld, petai ond i brofi sut mae posib gwasgu deuddeg actor i ofod bychan, gyda fawr ddim o set, oni bai am un ar bymtheg o gratiau pren. Clod i’r cynllunydd Alistair Turner am ei ddefnydd creadigol o’r llwyfan, ac am lwyddo i gyfleu’r saith degau a’r pumdegau mor llwyddiannus.
Heb os, drama ei gyfnod ydi ‘Weapons of Happiness’ a hawdd ydi gweld pa fath o ymateb cafodd y ddrama gan ‘blant y chwyldro’ yn y Saithdegau. Difyr yw nodi bod y dramodydd, Howard Brenton wedi achosi peth helynt efo drama arall o’i eiddo bedair blynedd yn ddiweddarach hefyd wrth i’r Theatr Genedlaethol fynd ati i lwyfannu ei ddrama ‘The Romans in Britain’ ym 1980. Yn sgil golygfeydd o dreisio rhwng dynion, bu swyddogion o Scotland Yard yn ymweld â’r theatr a derbyniwyd bygythiadau gan Gyngor y Ddinas ac erledigaeth i’r cyfarwyddwr Michael Bogdanov gan y diweddar ymgyrchydd Mary Whitehouse.
Go brin y bydd y ddrama hon yn ddigon i ennyn chwyldro ym Mhrydain y dyddiau yma, ac er gwaetha’r anhawsterau, mae’n flas o’r hyn a fu, ac yn wers rhag yr hyn all fod . Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn y Finborough tan Chwefror 23ain. Mwy o wybodaeth ar www.finboroughtheatre.co.uk
No comments:
Post a Comment