Y Cymro - 7/9/07
Pwy ‘sa’n meddwl y byddai hanes claddu cwningen yn Llangefni yn ystod y nawdegau yn esgor ar sioe aml-gyfrwng ynghanol yr ŵyl yng Nghaeredin?! Dyna yw man cychwyn sioe ddiweddara Cwmni Hoipolloi a Chynyrchiadau Hugh Hughes, ‘Story of a Rabbit’. Falle i’r rhai craff ohonoch gofio imi sôn droeon yn y gorffennol am sioe flaenorol y cwmni sef ‘Floating’ sy’n sôn am Sir Fôn yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth y tir mawr, ac yn arnofio tuag at fôr yr Iwerydd a thu hwnt. Yr un tîm sy’n gyfrifol am y cynhyrchiad yma sef ‘Hugh Hughes’ (Shôn Dale-Jones) a’r cerddor dechnegydd ‘Aled’ (Williams).
Marwolaeth yw thema’r sioe, a thrwy blethu hanes marwolaeth y gwningen druan o eiddo ei gymydog ‘Sian’, gyda’r onestrwydd personol am farwolaeth ei dad, chwe blynedd yn ddiweddarach, mae’r actor Shôn Dale-Jones yn llwyddo i greu sioe gofiadwy, emosiynol ond hefyd sy’n llawn comedi. Allwch chi’m peidio hoffi’r cymeriad sy’n cael ei greu ganddo - o’r ysgwyd llaw wrth ddod i mewn i’w seicoleg ramantus am farwolaeth ei dad, ac am ystyr bywyd. Gobeithio’n wir y caiff y ddwy sioe eu gwahodd i Gymru yn y dyfodol agos.
No comments:
Post a Comment