Total Pageviews

Friday 7 September 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Venus as a Boy'


Y Cymro - 7/9/07

O’r ysgafn at y dirdynnol, a hanes trasig bachgen ifanc a drodd yn butain, ac a fu farw yn ei fflat yn Soho, sydd i’w gael yng nghyd-gynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban ‘Venus as a Boy’. Mae’r sioe yn seiliedig ar nofel gynta’r awdur Luke Sutherland, sydd hefyd yn cyfeilio ar amrywiol offerynnau. Derbyniodd Luke becyn o dapiau gan y bachgen sy’n cael ei adnabod gan yr enw ‘Desiree’. Cafodd y tapiau eu recordio ar ei wely angau, ac mae’n adrodd hanes ei fywyd o’i fagwraeth ar ynysoedd yr Orkney, hyd bryntni strydoedd Llundain. Ond yr hyn sy’n rhyfeddol am ei stori yw’r ffaith fod y gŵr ifanc yn credu ei fod, wrth farw, yn troi’n aur; fod ganddo’r gallu rhyfeddol i agor drws y nefoedd trwy’i gusan neu’i gyffwrdd. “Doeddwn i byth am ennill gwir gariad...” meddai, “... Fy ngwobr i, yw gwybod, bod pawb a gwrddais, yn gwybod, mai'r hyn oeddwn i, yw’r hyn sy’n ddwyfol”

Tam Dean Burn yw’r actor sy’n portreadu’r gŵr unigryw yma, ac mae ei angerdd a’r angen i ddweud y stori yn creu awr o theatr bwerus iawn. Mae’r ddrama i’w gweld ar hyn o bryd yn Theatr Soho, Llundain tan yr 22ain o Fedi.

No comments: