Total Pageviews

Friday 14 September 2007

Edrych mlaen...



Y Cymro - 14/9/07

Wrth i dymhorau newydd gychwyn yn ein hysgolion, cyhoeddwyd hefyd fanylion am dymhorau newydd ein theatrau, gyda phawb dros ei gilydd, yn ceisio hawlio’r penawdau.

Theatr unigryw'r Donmar Warehouse yn Soho sydd ar flaen y gâd ar hyn o bryd efo’r newyddion bod Jude Law wedi cytuno i bortreadu ‘Hamlet’ iddyn nhw, dan gyfarwyddyd Kenneth Branagh. Bydd y cynhyrchiad yma yn rhan o dymor newydd y Donmar, sydd am y tro cyntaf, yn mynd i gael ei lwyfannu yn Theatr y Wyndham’s o fis Medi 2008 ymlaen. Bydd Derek Jacobi yn portreadu ‘Malvolio’ mewn cynhyrchiad arbennig o ddrama Shakespeare ‘Nos Ystwyll’, gyda chyfarwyddwr artistig y cwmni, Michael Grandage yn cyfarwyddo, a Kenneth Branagh hefyd yn troedio’r llwyfan mewn fersiwn newydd gan Tom Stoppard o ddrama Chekhov ‘Ivanov’.

Yn y tymor byr, mae Ewan McGregor a Chiwetel Ejiofor yn cyd-weithio ar gynhyrchiad o’r ddrama ‘Othello’ fydd yn agor ar y 29ain o Dachwedd tan y 23ain o Chwefror 2008, ac Andrew Buchan ymysg eraill mewn drama o waith Arthur Miller ‘The Man who had all the Luck’ rhwng yr 28ain o Chwefror a’r 5ed o Ebrill 2008.

Yn sgil bod y Donmar wedi cyhoeddi’r newyddion uchod, fe gadarnhaodd cwmni’r Royal Shakespeare bod seren y gyfres ‘Dr Who’, David Tennant hefyd wedi cytuno i bortreadu ‘Hamlet’ iddyn nhwtha mewn cynhyrchiad arbennig wedi’i gyfarwyddo gan Gregory Doran, gyda Patrick Stewart fel ‘Claudius’. Bydd y cynhyrchiad yma yn agor ar y 5ed o Awst 2008 tan y 15fed o Dachwedd.

Parhau i ddenu’r enwau mawr mae’r West End yma yn Llundain wrth i Christian Slater ddychwelyd fis nesaf mewn addasiad o’r ffilm ‘Swimming with Sharks’ yn theatr y Vaudeville o’r 16eg o Hydref ymlaen. Parhau hefyd i agor mae’r dramâu cerdd, gyda chynyrchiadau o ‘Rent’, ‘Desperately Seeking Susan’, ‘Hairspray’ a ‘Bad Girls’ yn agor dros y misoedd nesaf.

Yng Nghymru, bydd cyfle i weld cynhyrchiad cyntaf y cwmni Sherman Cymru o ddrama newydd Gwyneth Glyn ‘Maes Terfyn’ wedi cyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, a bydd Theatr Bara Caws yn cyflwyno tair monolog gan Alan Bennett dan y teitl ‘3/3’ gydag Owen Garmon, Valmai Jones ac Olwen Rees yn addasu gwaith Bennett o’r gyfres ‘Talking Heads’. Gwaith Emyr Humphreys fydd yn cael ei addasu gan Glwyd Theatr Cymru, ar gyfer eu cynhyrchiad newydd o ‘A Toy Epic’ wedi’i gyfarwyddo gan Tim Baker, tra bydd Terry Hands yn cyflwyno addasiad newydd o ddrama Chekhov ‘Y Gelli Geirios’ yn Saesneg.

No comments: