Total Pageviews

Friday 28 September 2007

'A Disappearing Number'


Y Cymro - 28/9/07

Roedd yn gas gen i fathemateg yn ‘rysgol. Ddeallais i ‘rioed pam bod cymaint o bwyslais yn cael ei roi ar rifau a thablau. Cofio eistedd adre fin nos yn ceisio dysgu’r ‘un dau dau, dau dau pedwar...’ fel parot, a dechrau stryglo go iawn o gyrraedd y ‘ chwe saith...ymmmm, a’r saith saith...’ Pan glywais i mai ‘mathemateg’ a ‘rhifau’ oedd sail sioe ddiweddara’r cwmni unigryw Complicite, roeddwn i’n bryderus iawn wrth gamu mewn i’r Barbican, ynghanol dinas Llundain.



Byth ers eu sefydlu yn 1983 gan Simon McBurney, Annabel Arden a Marcello Magni, bu Complicite yn gwmni o berfformwyr a chydweithwyr sydd wastad wedi gwthio’r ffiniau dramatig, gan greu cynyrchiadau theatrig ac unigryw. Bellach o dan arweiniad eu cyfarwyddwr artistig Simon McBurney, maent yn parhau i swyno a denu’r gynulleidfa gyda chynyrchiadau sy’n gyfuniad o theatr gorfforol a gweledol. Yn y gorffennol, mae’r cwmni wedi addasu clasuron llenyddol yn ogystal â chreu gweithiau newydd, ac wedi mentro gyda sawl cyfrwng gan gynnwys gwaith radio a gwaith aml-gyfrwng mewn hen orsaf danddaearol. Beth bynnag fo’r prosiect, mae popeth yn cael ei greu yn ôl symbyliad gwreiddiol y cwmni sef : ‘i gyfannu geiriau, cerddoriaeth, delwedd a’r digwydd i greu theatr annisgwyl ac aflonyddgar’. Yng ngeiriau’r cwmni, ‘Does yna ddim dull o ddysgu Complicite. Cydweithrediad yw’r cwbl sydd angen’.

A chydweithredu sydd wrth wraidd eu cynhyrchiad diweddara sef ‘A Dissappearing Number’, sy’n bwrw golwg ar berthynas y mathemategydd o Loegr, G. H. Hardy, yng Nghaergrawnt ym 1914, gyda’r gŵr Indiaidd ryfeddol Scrinivasa Ramanujan. Yr hyn sy’n plethu hanes y ddau, a’r ddwy wlad, a’r amodau byw mor wrthgyferbyniol, yw gallu’r ddau i ddelio gyda damcaniaethau rhifyddeg a dadansoddiadau mathemategol. Cafodd Hardy ei swyno gan allu anhygoel Ramanujan, a phan ofynnwyd iddo mewn cyfweliad, beth oedd ei gyfraniad mwyaf i fyd mathemateg, atebodd ar unwaith mai darganfod yr athrylith ifanc o’r India oedd hynny, darganfyddiad a fu hefyd ‘yr unig ddigwyddiad rhamantaidd’ yn ei fywyd.

Mae’r stori’n cychwyn mewn ystafell ddarlith ble mae’r Saesnes ‘Ruth’ (Saskia Reeves) yn llenwi’r bwrdd gwyn sydd ar y mur efo theorïau mathemategol. Mae hi’n rhaffu, ac yn wir yn fy nallu i’n bersonol, efo’r fath rifyddeg; patrymau o ffigyrau sy’n pentyrru hyd anfeidroldeb, nes i’r ffisegwr Americanaidd ( Paul Bhattacharjee) dorri ar ei thraws. Pwrpas yr olygfa hon yw dangos dylanwad y ddau athrylith fathemategol ar addysg a damcaniaethau’r presennol, ond hefyd i gyflwyno’r stori garu sy’n digwydd rhwng ‘Ruth’ a’i chymar (Firdous Bamji).

Drwy ddefnydd hynod o effeithiol o sawl taflunydd yn ogystal â set syml sy’n troi a chodi, gwahanu a diflannu, mae’r ddrama yn symud mor rhwydd rhwng y presennol a’r gorffennol; rhwng y darlithwyr a’r ffisegwyr a’r ddau athrylith sef Hardy (David Annen) a Ramanujan (Shane Shambhu).

Rhyw jig-so o gynhyrchiad ydi hwn, fel un o ddramâu Povey, sy’n gneud i’r gynulleidfa weithio’n galed er mwyn rhoi’r darnau at ei gilydd. Er imi deimlo ar brydiau bod y ddrama rhyw hanner awr rhy hir, a’r sôn parhaol am fathemateg yn drysu fy meddwl, cefais fy ngwefreiddio gan yr hyn a welais ar y llwyfan. Roedd y modd y llifai’r cynhyrchiad o un olygfa i’r llall yn agoriad llygad, a’r ganmoliaeth uchel i’r actorion a’r criw cynhyrchu am wneud y defnydd helaethaf o driciau llwyfan, ac amseru perffaith.

Faswn i’n annog unrhyw un i geisio gweld o leiaf un cynhyrchiad gan y cwmni yma, petai ond i weld yr arddull unigryw, sy’n cyflawni gwir ystyr y gair ‘theatrig’ yn ei holl ogoniant.

Mae ‘A Dissappearing Number’ i’w weld yn y Barbican tan Hydref 6ed. Am fwy o fanylion, ymwelwch â www.barbican.org.uk/bite neu www.complicite.org

No comments: