Total Pageviews

Friday 21 September 2007

'Bad Girls - The Musical'


Y Cymro - 21/9/07


‘It’s so bad, it’s brilliant!’. Dyna oedd barn un adolygydd a ymunodd â mi ar noson agoriadol y sioe ddiweddara i gyrraedd y West End sef ‘Bad Girls- The Musical’.

Ymateb cymysg iawn oedd yn chwildroi yng nghelloedd y co’ cyn camu i mewn i Theatr y Garrick. Er imi wylio’r gyfres gynta o ‘Bad Girls’ ar ITV, allwn i ddim credu yn eu sefyllfa. Roedd bob un o’r genod drwg yn rhy berffaith; eu gwalltiau a’r colur o’r safon ucha’, eu dillad yn ddrudfawr a chwaethus, a’u straeon yn rhy dros-ben-llestri i fod yn gredadwy.

Ymateb cymysg hefyd oedd gan y beirniaid pan ddarlledwyd y gyfres gynta ym mis Mai 1999. Ond, roedd yna ryw hud ynglŷn â’r cyfan, a’r hud hwnnw a greodd dros gant o benodau dros yr wyth mlynedd o’i fodolaeth. Yr hud hwnnw hefyd a barodd i’r gyfres gael ei gweld nid yn unig ym Mhrydain, ond hefyd yn yr Amerig, Canada, Ffrainc, Sweden, Seland Newydd, Awstralia a De’r Affrig.

Sut felly oedd yr awduron Maureen Chadwick ac Ann McManus am drosglwyddo’r gyfres boblogaidd hon o’r sgrin i’r llwyfan?

O’r eiliad cynta, mi ges i’n swyno. Gyda’r glec o gloi drws y gell sy’n agor y sioe, a’r delweddau o’r carchar sy’n cael ei daflunio ar y gefnlen, roeddwn i yn HMP Larkhall. Cawsom ein cyflwyno i’r carcharorion fesul un yn y gân agoriadol ‘I shouldn’t be here’, a phawb - fel mae teitl y gân yn awgrymu, yn pledio’i achos, gan ddatgan eu rhesymau pam na ddylent fod yno. Ymlaen aeth y stori, gan gyfuno elfennau o’r tair cyfres deledu gynta. Fe gawson ni’r stori garu enwog rhwng y carcharor ‘Nikki Wade’ (Caroline Head) a’r rheolwr ‘Helen Stewart’ (Laura Rogers); fe gawson ni’r gwarchodwr twyllodrus ‘Jim Fenner’ (David Burt) yn camarwain y genod, ac yn cael ei haeddiant ar ddiwedd y sioe; a’r elfen fwya anghredadwy oedd cyrhaeddiad y cymeriad ‘Yvonne Atkins’ (Sally Dexter) sy’n wraig i arweinydd y ‘Maffia’, a thrwy ei bygythiadau, a’i chysylltiadau, yn llwyddo i ennill y dydd, ac yn ennill ei rhyddid ar ddiwedd y sioe.

Er mwyn plethu’r cyfan, roedd yma wynebau cyfarwydd o’r gyfres deledu - er mai prin iawn oedda nhw. Yr un mwya cyfarwydd, a dderbyniodd gymeradwyaeth wrth ddod ar y llwyfan oedd Helen Fraser oedd yn portreadu ‘Sylvia Bodybag Hollamby’, un o’r gwarchodwyr cas sy’n ceisio cadw trefn ar y genod. Un carcharor yn unig a adnabyddais o’r gyfres sef yr hen wraig ‘Noreen Biggs’ (Maria Charles). Ond roedd y cymeriadau cofiadwy o’r gyfres deledu yno i gyd; y ddwy gyn-butain oedd yn gyfrifol am y bwyd ‘Julie Saunders’ (Julie Jupp) a ‘Julie Johnston’ (Rebecca Wheatley); y ferch groen tywyll ‘Denny Blood’ (Amanda Posener) oedd yn gi bach i’r ‘top dog’ ‘Shell Dockley’ (Nicole Faraday).

Beth felly a barodd i’n nghyfaill alw’r cyfan yn ‘brilliant’? Mae’n anodd deud. Er mor anghredadwy ydi’r straeon, a’r eiliadau o wir ddrama yn cael ei lesteirio wrth i’r actorion ddechrau canu a dawnsio o flaen llenni gliter a sequins drostynt, yr hyn sy’n ennill y dydd ydi proffesiynoldeb y cynhyrchiad. Mae’r sioe yn llifo’n rhwydd o un olygfa i’r llall, gan gyfuno delweddau sy’n cael ei daflunio ar y gefnlen efo’r actorion ar y llwyfan. Er bod yma ambell i gân wnaeth imi wingo fel ‘All banged up with no bang bang’ a ‘Life of grime’, mae rhywun yn derbyn y cyfan yn ysbryd y sioe.

Tydi hi ddim y math o sioe y bydd plant bach Cymru yn canu unawdau ohoni yn ein heisteddfodau, nac ychwaith y math o sioe fydd yn y West End am flynyddoedd i ddod. Ond rhaid cyfaddef ei bod hi’n adloniant pur am ddwy awr a hanner, ac werth ei weld tae o ond i ryfeddu at weledigaeth a chyfarwyddo Maggie Norris.

Mae ‘Bad Girls - The Musical’ i’w weld ar hyn o bryd yn Theatr y Garrick.

Mwy o fanylion ar www.badgirlsthemusical.com


No comments: