Y Cymro - 7/9/07
Mae’n talu weithiau i ddarllen yr adolygiadau, gan fod ambell i sioe sy’n ymddangos yn ddi-sôn-amdani yn y rhaglen swyddogol, ac eto’n troi allan i fod yn hynod o lwyddiannus. Felly oedd hi efo cynhyrchiad cwmni Kenmac o ddrama gerdd Sondheim, ‘Company’. A bod yn onest, wedi gweld cymaint o waith Sondheim yn ddiweddar, o ‘Sunday in the Park’, ‘Passion’ a ‘Sweeney Todd’, dwi wedi dod yn ffan mawr ohono, ac yn mwynhau gwrando ar ei eiriau cofiadwy a’i alawon canadwy.
Hanes gŵr ifanc o’r enw ‘Robert’ (Antonio Mcardle) yn ceisio cymar ar ddiwrnod ei ben-blwydd, ydi hanfod y ddrama gerdd. Mae’n cwrdd â thair merch sy’n ceisio’u gorau glas i gipio’i galon, ond mae gan y tair eu problemau, sydd ddim yn plesio, ac felly does 'na ddim llawer o obaith am gwmnïaeth ar ddiwedd y sioe!
Mawredd yr ŵyl yng Nghaeredin ydi gweld cynyrchiadau o amrywiol safon; rhai yn amrwd ac amatur iawn, eraill fel ‘Company’ yn barod am lwyfannau’r West End. Roedd popeth am y sioe yn plesio; o gyfarwyddo a choreograffu crefftus Michael Strassen, i oleuo cynnil Philip Coote a cherddorfa swynol Jenny Kent.
No comments:
Post a Comment