Total Pageviews

Friday 31 May 2013

'Say it with flowers'





Y Cymro 31/05/13

Caerdydd oedd fy nghartref dros dro'r wythnos hon, a chyfle i weld rhai o’r cynyrchiadau sy’n swyno cynulleidfa Sherman Cymru, ar hyn o bryd. ‘Say it with flowers’ o waith Johnny Tudor a Meic Povey oedd yr ymweliad cyntaf, ac enw Ruth Madoc, seren Gymreig y gyfres gomedi ‘Hi-de-Hi’ yn denu, yn ogystal â gwrthrych y ddrama, y gantores unigryw Dorothy Squires.

Wyddwn i fawr amdani cyn mynd, ddim ond yr enw, a’r ffaith ei bod hi’n gyn-wraig i’r 007 golygus Roger Moore.  Cyn i’r hwyrddyfodiaid gyrraedd eu seddi, roedd Madoc eisoes ar gychwyn.  Yn ei chôt a’i chesys yn gwmni, camodd y difa diflanedig ar y llwyfan, yn ymgorfforiad sicr o’r Squires segur sur. Wedi cefnu ar ei theulu, a’i gyrfa, yn fethdalwr ac yn fethiant, mae’n derbyn lloches yng nghartref un o’i ffans mwyaf, ‘Maisie’ (Lynn Hunter). Yn finiog ei thafod, yn feirniadol ac yn flin,  darlun didosturi o‘r Dot a gafwyd.

Drwy’r gyfres o ôl fflachiadau, dadlennir ei chefndir trasig, o’i pherthynas anodd â’i brawd ‘Freddie’ (Aled Pedrick), ei pherthynas tanbaid obsesiynol â ‘r actor di-nod Roger Moore (Matt Nalton), a’i nith ‘Emily’ (Heledd Gwynn).  Achubiaeth y cynhyrchiad yw portread penigamp Gillian Kirkpatrick o’r Dot ifanc, a’i llais unigryw a’i phartis meddwol, yn ogystal â dawn comediol diguro Lynn Hunter. 

Er bod cynhyrchiad Pia Furtado yn uchelgeisiol tu hwnt, roedd cynllun set Georgia Lowe yn caethiwo a gwahanu’r ddau fyd, a dyhead am eu priodi drwy ddawns a dychymyg yn boenus o amlwg. Fe wellodd pethau tua’r ail ran, ond rhygnu’n mlaen yn flêr wnaeth y cynhyrchiad sigledig hwn.
 
Os yw brwdfrydedd a’r nifer o gynulleidfa hŷn a hwyliodd i mewn i gragen sgleiniog y Sherman yn adlewyrchiad o apêl yr eicon lleol yma, yna mae’r sioe yn llwyddiant sicr. Os mai i godi ymwybyddiaeth a chynulleidfa newydd i’w gwaith yw’r bwriad, yna mi rydw innau bellach, yn ffrind i Dorothy! Ond os mai coffâd, a chynrychioli ei bywyd ar lwyfan yw’r nod, yna darlun un ochrog, didostur a siomedig iawn a gafwyd.  

Bydd ‘Say it with flowers’ ar daith i’r Wyddgrug, Aberdaugleddau a Llanelli dros yr wythnosau nesaf. 

No comments: