Total Pageviews

Friday, 31 May 2013

'Diary of a Madman'



Y Cymro 31/05/13

Ac yn ôl i’r Sherman es i ar ddiwedd fy nau ddiwrnod dedwydd yn y ddinas. ‘Diary of a Madman’, monolog bwerus a hynod fregus Robert Bowman o Living Pictures oedd yr arlwy y tro hwn, a phrofi dosbarth meistr, heb os, ar sut i fyw bywyd eich cymeriad ar lwyfan.  Yn seliedig ar stori fer o Rwsia, mae portread Bowman o ddirywiad meddyliol ‘Poprishchin’ yn gafael o’r cychwyn cyntaf. Yn gynnil, yn gelfydd ac wedi’i gyfarwyddo’n wledd i’r llygaid a’r glust, dyma gynhyrchiad y byddwn i’n annog bawb i’w weld, i brofi symlrwydd theatr ar ei orau. O’r bwlb golau unig yn crogi uwch ei ben i’r pedwar crât o dan draed, sy’n cuddio myrdd o ryfeddodau, mae cyfarwyddo Sinead Rushie a cynllunio Sarah Beaton, yn ogystal â goleuo effeithiol Katy Stephenson yn rhoi inni saithdeg munud swynol a swreal.

Bydd ‘Diary of a Madman’ ar daith pellach drwy Gymru ac i Gaeredin.


Caneuon i'r Newydd Fyd


Y Cymro 31/05/13

Diolch i Goleg Y Drindod, cefais flas sydyn, ond melys iawn o’u cyflwyniad o gadwyn gerddorol Jason RobertBrown, ‘Caneuon i’r Newydd Fyd’. Er mai byrbryd a brofais, roedd blas mwy yn sicr ar y cyfan a thalent y criw dawnus yma’n amlwg. O dan gyfarwyddyd cerddorol medrus Eilir Owen Griffiths, ac i gyfeiliant band cerddorol yn gudd o dan risiau’r set, ar yr allweddell o lawr, roedd graen amlwg ar eu gwaith. Nid gwaith hawdd yw mynd i’r afael â chymhlethdod cerddorol JRB, ond roedd llyfnder eu mynegiant a’u rheolaeth feistrolgar o’r miwsig yn amlwg iawn. 

Mae taith fer y Drindod yn dod i ben yr wythnos hon.

'Say it with flowers'





Y Cymro 31/05/13

Caerdydd oedd fy nghartref dros dro'r wythnos hon, a chyfle i weld rhai o’r cynyrchiadau sy’n swyno cynulleidfa Sherman Cymru, ar hyn o bryd. ‘Say it with flowers’ o waith Johnny Tudor a Meic Povey oedd yr ymweliad cyntaf, ac enw Ruth Madoc, seren Gymreig y gyfres gomedi ‘Hi-de-Hi’ yn denu, yn ogystal â gwrthrych y ddrama, y gantores unigryw Dorothy Squires.

Wyddwn i fawr amdani cyn mynd, ddim ond yr enw, a’r ffaith ei bod hi’n gyn-wraig i’r 007 golygus Roger Moore.  Cyn i’r hwyrddyfodiaid gyrraedd eu seddi, roedd Madoc eisoes ar gychwyn.  Yn ei chôt a’i chesys yn gwmni, camodd y difa diflanedig ar y llwyfan, yn ymgorfforiad sicr o’r Squires segur sur. Wedi cefnu ar ei theulu, a’i gyrfa, yn fethdalwr ac yn fethiant, mae’n derbyn lloches yng nghartref un o’i ffans mwyaf, ‘Maisie’ (Lynn Hunter). Yn finiog ei thafod, yn feirniadol ac yn flin,  darlun didosturi o‘r Dot a gafwyd.

Drwy’r gyfres o ôl fflachiadau, dadlennir ei chefndir trasig, o’i pherthynas anodd â’i brawd ‘Freddie’ (Aled Pedrick), ei pherthynas tanbaid obsesiynol â ‘r actor di-nod Roger Moore (Matt Nalton), a’i nith ‘Emily’ (Heledd Gwynn).  Achubiaeth y cynhyrchiad yw portread penigamp Gillian Kirkpatrick o’r Dot ifanc, a’i llais unigryw a’i phartis meddwol, yn ogystal â dawn comediol diguro Lynn Hunter. 

Er bod cynhyrchiad Pia Furtado yn uchelgeisiol tu hwnt, roedd cynllun set Georgia Lowe yn caethiwo a gwahanu’r ddau fyd, a dyhead am eu priodi drwy ddawns a dychymyg yn boenus o amlwg. Fe wellodd pethau tua’r ail ran, ond rhygnu’n mlaen yn flêr wnaeth y cynhyrchiad sigledig hwn.
 
Os yw brwdfrydedd a’r nifer o gynulleidfa hŷn a hwyliodd i mewn i gragen sgleiniog y Sherman yn adlewyrchiad o apêl yr eicon lleol yma, yna mae’r sioe yn llwyddiant sicr. Os mai i godi ymwybyddiaeth a chynulleidfa newydd i’w gwaith yw’r bwriad, yna mi rydw innau bellach, yn ffrind i Dorothy! Ond os mai coffâd, a chynrychioli ei bywyd ar lwyfan yw’r nod, yna darlun un ochrog, didostur a siomedig iawn a gafwyd.  

Bydd ‘Say it with flowers’ ar daith i’r Wyddgrug, Aberdaugleddau a Llanelli dros yr wythnosau nesaf. 

Friday, 24 May 2013

'Merrily We Roll Along'





Y Cymro 24/05/13

Fe ŵyr dilynwyr selog y golofn hon am fy hoffter o waith y dewin cerddorol Stephen Sondheim. Yn Theatr Harold Pinter, ar ochor ddeheuol Leicester Square, mae'r cynhyrchiad 'delfrydol' o'i ddrama gerdd drafferthus 'Merrily We Roll Along'. Yn wahanol i hanes creu a llwyfannu'r gwreiddiol, mae taith cynhyrchiad cyntaf yr actores Maria Friedman fel cyfarwyddwr wedi bod yn llon a llwyddiannus tu hwnt, o dan adain o adolygiadau pum seren. Wedi mudo o'r ffwrnais felys y Menier Chocolate Factory, sydd wedi esgor ar gynyrchiadau llwyddiannus o waith Sondheim fel 'Sunday in the Park with George' a enillodd Wobr Olivier i Daniel Evans, 'A Little Night Music' a 'Road Show', dyma bluen haeddiannol arall yn eu het hyderus.

Jenna Russell, (a fu'n cyd actio â Daniel yn y sioe uchod) yw 'Mary Flynn', seren sur a thew gan fywyd a diod, y stori ben ei waered hon, am gariad coll a pherygl chwant llwyddiant. O gartref chwaethus y cyfansoddwr Frank Shepard (Mark Umbers ) yn Bel Air, California ym 1976, gwibiwn am yn ôl at ddyddiau cynnar ei goleg yn Efrog Newydd ym 1957, er mwyn bod yn dystion distaw i'r gwenwyn sydd wedi chwalu ei berthynas â Mary, a'i gyfaill barddonol 'Charley' (Damian Humbley).

Yn seiliedig ar ddrama George S Kaufman a Moss Hart, ac wedi'i chreu ar gyfer cwmni yn eu harddegau, mae'n amlwg iawn fod angen cwmni hŷn fel hwn i gyfleu poen a brynti'r blynyddoedd brau. Mae gwylio actor hŷn yn ail brofi ieuenctid coll yn llawer haws na'r ifanc dall yn ffugio ffawd eu henaint.

Cyfoeth yr actio a'r cyfarwyddo, yn ogystal â chanu cadarn a thaclus, sy'n byw bob nodyn o gelf gerddorol Sondheim, sy'n cydio a'n cyfareddu. ‘Do everything Maria tells you', oedd cyngor Sondheim i'r cast ar gychwyn y cyfnod ymarfer flwyddyn ddiwethaf, '… and I’ll come over in November to correct it. Steve.’. Prin fod angen mwy o gadarnhad na hynny!

Mae 'Merrily We Roll Along' yn prysur werthu ar hyn o bryd yn Theatr Harold Pinter. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.merrilywestend.com neu eu dilyn @merrilywestend



Ble mae'r dail yn hedfan




Y Cymro 24/05/13

Wedi'r tywydd garw, priodol iawn yw teitl sioe ddiweddaraf Arad Goch, a welais yn Sherman Cymru dro yn ôl.  'Ble mae'r dail yn hedfan' sydd ar y poster, ac mae'n amlwg iawn, ble mae'r dalent gyfarwyddo, actio ac i greu theatr syml ond hynod o drawiadol. 

Wedi'n cofleidio oddi mewn i babell o gylch cynfas a'i frigau o freichiau, mae'r ddau actor hudolus yn denu'r gynulleidfa i ryfeddu at rifyddeg a chreu swyn mewn sain geiriau. Byd natur yn troi'n bethau materol, wrth i ddrws dychymyg a dysg droi bloc o bren yn fwrdd, deilen yn blât, mesen yn fwg, a changhennau yn gyllell a ffyrc, gan ddal sylw'r gynulleidfa ifanc o'r cychwyn cyntaf. 

O drefn daclus y ferch, Ffion Wyn Bowen i anrhefn swnllyd y llanc, Gethin Evans, ymgollais, nid yn unig yn eu byd dychmygol o ddysg a dawns, ond fwyfwy yn hudoliaeth syml yr hen gelfyddyd annwyl hon. 

Yn ôl y daflen liwgar, dyma 'ail gynhyrchiad rhyngweithiol arbenigol Arad Goch i blant bach 2 - 8 oed' wedi'i chreu gan JeremyTurner a'r actores Ffion Wyn Bowen. Cryfder y cyfan yw llwyddo i ddal sylw pob oed, ac roedd gwylio wynebau annwyl fy nghyd noddwyr theatraidd, ddeng mlynedd ar hugain yn 'fengach na mi, yn hwb mawr i'n nghalon hen.

Mae'r sioe ar gael i deithio i ysgolion neu unrhyw ganolfan feithrin, ac os am awr o adloniant addysgol, cysylltwch â post@aradgoch.org neu drwy ffonio 01970 617998. Cofiwch hefyd am daith Haf ddiweddara'r cwmni 'Cerdyn Post o Wlad y Rwla' o waith Angharad Tomos sy'n ymweld â Chanolfan Dysg Gartholwg, Casnewydd, Caerdydd, Y Rhyl, Bangor, Dyffryn Banw, Llanelli, Caerfyrddin, Felinfach ac Aberystwyth cyn diweddu ar Faes yr Eisteddfod yn Ninbych fis Awst.

Friday, 3 May 2013

'This House'






Y Cymro

Cynhyrchiad arall a fwynheais yn fawr, dro yn ôl, oedd drama wleidyddol y llanc ifanc James Graham, ‘This House’, sydd i’w weld ar hyn o bryd yn y Theatr Genedlaethol. Digwydd y ddrama ym 1974, rhwng muriau derw’r Tŷ’r Cyffredin ac o dan gysgod wyneb Big Ben (y gloch enwog gafodd ei enwi ar ôl Syr Benjamin Hall, gŵr arglwyddes Llanofer). Fel plant yn chware, mae’r dadlau a’r dyrnu rhwng y ddwy brif blaid, a’r ‘odds and sods’ eraill, yn ddoniol a deifiol tu hwnt. ‘Cân di gân fach fwyn i’th nain...’ ac fe gei di garped neu gyrten newydd i’th swyddfa!  Bydd ‘This House’, drwy garedigrwydd NT Live i’w weld mewn sinemâu drwy Gymru rhwng Mai 16eg a’r 18fed.

‘The Curious Incident of the dog in the night-time’




Y Cymro

Gwobrau’r Oliviers fu’r testun trafod mawr yn y West End, wrth i addasiad  y Theatr Genedlaethol o nofel  Mark Haddon  ‘The Curious Incident of the dog in the night-time’ gipio saith gwobr, gan gynnwys yr actor gorau i Luke Treadway. Fo sy’n portreadu llanc ifanc pymtheg oed, wel  ‘fifteen, three months and two days’ yn ei eiriau ei hun, sy’n cwffio’i iechyd meddwl, ac yn gweld y byd yn ei ffordd unigryw ei hun. Er mai awtistig yw’r diagnosis swyddogol am ei gyflwr, tydi Haddon ddim am inni labelu’r salwch na’r cyflwr, gan fod un o bob pedwar ohonom erbyn hyn yn dioddef o ryw arlliw o salwch meddwl.  Fues i’n ffodus iawn i weld y cynhyrchiad yr wythnos ddiwethaf, ac mae symlrwydd y llwyfannu, goleuo a pherfformiad gwefreiddiol Treadway yn werth ei weld.