Total Pageviews

Friday, 26 June 2015

'The Revlon Girl / Barren'

Y Cymro 26 Mehefin

Roeddwn i wedi bwriadu trafod West End Live yr wythnos hon, penwythnos rhad ac am ddim ynghanol Llundain, sy’n rhoi blas o rai o’r dramâu cerdd sydd i’w weld yn y ddinas. Ond, roedd hynny cyn imi weld dwy ddrama fer neithiwr, yn un o theatrau lleia’r ddinas.


Mamau Aberfan sydd dan sylw yn y ddrama fer ‘The Revlon Girl’, a hynny rai misoedd wedi’r gyflafan yn Hydref 1966. Er nad oeddwn i’n byw nac yn bod bryd hynny, fe arhosodd cysgod y ddamwain angheuol dros fy mhlentyndod. Dros ddeugain mlynedd wedi hynny, cefais gyfle i ymweld â’r pentref a’i resi o feddau gwyn fud.  Fe erys yr atgof o dawelwch poenus cenhedlaeth goll, efo fi am byth.


Mae’r ddrama o waith y dramodydd o Gymro Neil Anthony Docking yn ymweld ag un o’r nosweithiau cymdeithasol a drefnwyd gan y mamau, er mwyn ceisio dod i delerau gyda’u colled. Ar y noson dan sylw, y ferch o gwmni colur Revlon (Avon heddiw) (Terri Dwyer) sy’n ceisio annog y mamau i guddio’u digalondid dan bowdr a phaent. Ond buan iawn fe sylweddola nad oes digon o golur yn y byd all guddio creithiau colli plentyn, ac fe gafwyd atgofion poenus gwahanol iawn gan y bedair fam Gymreig – Bethan Thomas, Charlotte Gray, Sarah Jayne Hopkins a Michelle McTernan.  


Aros yn y byd cyfoes wnaeth yr ail-ddrama fer, eto gan yr un awdur, ac wedi’i gyfarwyddo unwaith eto gan ei wraig Maxine Evans, yn enedigol o Gwm Dulais. ‘Barren’ oedd ei theitl a colli plentyn oedd y thema, gan y cwmni newydd-anedig October Sixty Six.  Llanc ifanc (Will Norris) yn cyfarfod â seiciatrydd mewn ysbyty meddwl yw crynswth y ddrama, a hynny er mwyn trafod gwewyr meddwl ei wraig (Ruth Minkley) wedi iddi golli plentyn. Ond fe egyr yr awr a ddilyna ar un o’r dramâu gorau imi’i weld yn Llundain eleni. 

Gonestrwydd poenus y profiad, neu ddyfnder ymchwil a dealltwriaeth o iselder a cholled oedd yn cydio o’r cychwyn cyntaf, gyda’r ddwy ddrama.  Fe’m gadawyd yn gegrwth a hollol wag wrth adael y theatr, oherwydd dyfnder yr hyn a brofais oddi mewn i furiau bychan Theatr Tristan Bates, nepell o Covent Garden. Roedd portreadau pwerus y mamau, a’r ddau riant yn yr ail ddrama fel gwylio tân gwyllt ym mud losgi cyn ffrwydro’n llanast o flaen eich llygaid. Dwy ddrama ddylai’n sicr o gael eu haddasu (yn hawdd iawn) i donfeddi radio 4.

Yn gyfeiliant cynnil digonol i’r ddwy drasiedi mae set syml Elizabeth Smith, goleuo a thrac sain sy’n anwesu pob eiliad, ac eto’n dangos parch a dealltwriaeth o’r eiliadau dramatig hynny sy’n aros yn y cof.

Cwmni bychan ar gyflogau a chyllidebau llai yn dangos yn glir mai angerdd a phrofiadau byw sy’n cyfrif. Oedd, roedd yma ddiffyg hyder actio gan ambell un, ond fe’m hargyhoeddwyd i’n llwyr gan ddiffuantrwydd eu portreadau a’r daith emosiynol a rannodd bob un gyda ni’r gynulleidfa.
 
 

Dwy ddrama sy’n haeddu cynulleidfa a’n cymeradwyaeth cywiraf. Mae ‘The Revlon Girl’ a ‘Barren’ i’w weld heno (26ain o Fehefin) a nos fory yn unig yn Theatr Tristan Bates.

Friday, 19 June 2015

'The Harvest'

Cymro 19 Mehefin

Fues i’n edrych ar y llun ar boster  y ddrama ‘Harvest’ yn Soho Theatre am beth amser. ‘Ew, ma hwnna’n debyg i Dyfan Dwyfor’, meddwn i (yn fy llais monolog mewnol Radio Cymru dwysaf!). O weld mai cyfieithiad o ddrama gan y dramodydd Pavel Pryazhko o Felarws oedd y cynhyrchiad, a bod (yn yr ystyr orau posib) rhyw arlliw o ddwyrain Ewrop (ffodus iawn) yng ngwedd drwsiadus Mr Dwyfor, fe anwybyddais y cynhyrchiad tan yr wythnos hon.  Dwi di gweld Dyfan (sy’n hanu o Griccieth) mewn sawl cynhyrchiad yma yn Llundain yn ddiweddar o’r ‘Titus’ gwaedlyd yn y Globe i’r bwtler yn ‘Fortune’s Fool’ yn yr Old Vic.  Roedd o hefyd yn un o’r meibion gwrthryfelgar yn y ffilm wych ‘Pride’ – sydd, gyda llaw, am gael ei droi yn ddrama gerdd a’i lwyfannu yn yr Old Vic, cyn bo hir. Ond yn ôl at y cynhaeaf…


Pleser o’r mwyaf oedd derbyn cadarnhad ar daflen y cyd-gynhyrchiad yma rhwng Theatr Frenhinol Caerfaddon a Soho Theatre mai Dyfan yn wir, oedd yn portreadu ‘Valleri‘ un o’r pedwar cyfaill oedd wedi dod ynghyd i hel y cynhaeaf o afalau yn y berllan. Pleser hefyd oedd dysgu mai Cymro glân gloyw oedd ei gyd-actor, a’i gyfaill ‘Egor’ yn y sioe, Dafydd Llŷr Thomas.


Telyneg o ddrama a chynhyrchiad sydd yma gydag ystyron ac is-themâu mor niferus â’r afalau gwyrdd sy’n hedfan fry uwchben y pedwar actor. O’r eiliadau cyntaf o’r gerddoriaeth chwareus, a’r gofal a ddangoswyd wrth ostwng y golau ar y gynulleidfa (eiliadau hollbwysig ar gychwyn unrhyw gynhyrchiad) roedd profiad a dawn y cyfarwyddwr a chyn-bennaeth yr RSC Michael Boyd yn amlwg iawn. Roedd set drwsiadus a chlyfar Madeleine Girling (oedd wedi’i mentora gan gynllunydd y môr o babi coch yn Nhŵr Llundain, Tom Piper) yn wledd i’r llygaid, a dawns y ddau lanc a’r ddwy ferch wrth ddringo a gostwng y pedair ystôl wen, yn arwydd o’r tensiwn cariadus oedd i ddod, ymhell cyn i air o’r sgript gael eu hyngan. Gwych iawn. Gwych hefyd oedd y defnydd o’r gerddoriaeth yn dychwelyd dro ar ôl tro, er mwyn cwblhau’r cyfanwaith celfydd.


Mae’n amlwg fod gan Pryazhko lais unigryw a neges bwysig i’w rannu am sefyllfa ei famwlad, a’r llanast sydd yno er rhaid blynyddoedd. Roedd cynildeb yr eironi am orfod cael gwared â’r afalau drwg (neu’r rhai oedd wedi’i chleisio) rhag difetha’r gist bren gyfan yn adlais sicr o waith Pinter a Beckett. Ac yntau’n aelod o Theatr Rydd Belarws, sy’n nodedig iawn am eu angerdd tuag at waith Pinter, a sydd, yn fy marn i, yn un o’r cwmnïau theatrig mwyaf creadigol a welais erioed, does dim amheuaeth o le ddysgodd y dramodydd ei grefft.  Er i’r llanast fynd dros-ben-afal a llestri’n llwyr erbyn y diwedd (oedd yn gwbl fwriadol) efallai fod yr amwyster wedi’i drechu, a’r amlwg wedi boddi pob cynildeb.


Mwynheais y cyd-chwarae comig rhwng Dyfan a Dafydd, a’u cyd-actorion Lyndsey Campbell a Beth Park. Roedd hi’n amlwg fod oriau o waith wedi’i dreulio ar y berthynas rhwng y pedwar, ac roedd y gwrthdaro a’r rhamant, y cystadlu a’r cecru yn amlwg o’r cychwyn cyntaf.  Braf gweld pedwar actor mor hamddenol gartrefol ar lwyfan, ac yn defnyddio (a dinistrio) pob modfedd o’r berllan dawel a thaclus, erbyn y diwedd.

Cynhyrchiad fyddai’n ei gofio am beth amser am ei daclusrwydd a’i ddealltwriaeth o’r cyfrwng theatrig. Yn anffodus, mae’r cynhyrchiad bellach wedi dod i ben. Ond mae blas ohoni yma :

  

Friday, 29 May 2015

Pan Oedd Y Byd Yn Fach



Ein dwy Theatr Genedlaethol aeth â hi'r wythnos hon. National Theatre Wales ac ‘addasiad’ Ed (Y Gwyll) Thomas o ddrama Brecht, ‘Mother Courage and her Children’ ym Merthyr Tydfil, a drama newydd sbon danlli Siân Summers ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ gan Theatr Genedlaethol Cymru yn y Sherman. Dwy ddrama gwbl wahanol o ran thema a naws, un gan bump o fechgyn a’r llall gan naw o ferched.


Mae’n braf gweld y Theatr Genedlaethol Gymraeg yn rhagori am unwaith ar waith ei chwaer (llawer mwy cyfoethog) Cymreig.  I ganol yr 1980au aeth stori bwerus a sgript gyhyrog a chomig Siân Summers â ni, yn ‘Pan oedd y Byd yn Fach’. Fe gychwyn y ddrama pan fo’r pum ffrind gwrywaidd ynghanol afiaith ieuenctid, chwerwder a thrais streic y Glowyr yn y Cymoedd. Cyfnod yr oedd y cyfarwyddwr newydd a’r actor nodedig Aled Pedric yn gwbl gyfarwydd ag ef. Cafwyd awgrym o’r cychwyn cyntaf am ddiweddglo trasig y ddrama, heb ddadlennu namyn mwy, oedd yn rhoi grym ychwanegol i’r gynulleidfa yn ein chwilfrydedd i wybod am dranc y cymeriadau. Erbyn yr ail act, roedd y cymeriadau lawer yn hŷn, ac felly yn llawer mwy llonydd na’r rhan gyntaf, a dyna un o brif wendidau (anffodus) y cynhyrchiad imi.


Pan oeddwn i’n cystadlu fel actor mewn gwyliau dramâu cymunedol flynyddoedd lawer yn ôl, y wers gyntaf a ddysgais (gan J.O.Roberts) oedd bod yn ymwybodol iawn o’m breichiau. Cyngor sylfaennol yr hoffwn innau ei rannu gyda’r pum actor canlynol - Dyfed Cynan , Siôn Ifan, Ceri Murphy, Berwyn Pearce a Gareth Pierce. Wrth ganmol bwriad amlwg Aled Pedric i gadw afiaith yr ifanc ar gychwyn y stori ac i gael gwrthgyferbyniad amlwg yn yr ail ran, roedd yr or-frwdfrydedd weithiau’n fwrn, ac yn peri inni golli hadau pwysig o’r stori. Unwaith eto’r wythnos hon, roedd cynllun y set yn wan, blêr a chaeth iawn, ac yn cynnig dim cymorth i’r actorion fedru amrywio eu symud er mwyn creu darluniau diddorol i’r llygaid. Ar un cyfnod yn yr ail ran, sylwais fod tri o’r pedwar actor ar y llwyfan wedi mabwysiadu'r union un osgo, a’u breichiau mhleth, oedd yn tanlinellu’r gwendidau uchod.



Cefais fy mhlesio’n fawr gan bortreadau’r pum actor, yn enwedig angerdd Gareth Pierce a Siôn Ifan, a braf gweld wynebau newydd imi Dyfed Cynan a Berwyn Pearce yn cael lle ar y llwyfan Cenedlaethol.  Heb os, mae’r seiliau yma am chwip o gynhyrchiad, ond fel dywed yr hen fodryb grintachlyd, ‘nid da lle gellir gwell’.

Mi fydd ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ yn ail-gychwyn eu taith ar yr 2il o Fehefin gan ymweld â’r Lyric yng Nghaerfyrddin, Taliesin yn Abertawe, Mwldan yn Aberteifi, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Theatr Harlech a Galeri Caernarfon. Mwy o fanylion ar www.theatr.cymru


'Mother Courage and Her Children'

Ein dwy Theatr Genedlaethol aeth â hi'r wythnos hon. National Theatre Wales ac ‘addasiad’ Ed (Y Gwyll) Thomas o ddrama Brecht, ‘Mother Courage and her Children’ ym Merthyr Tydfil, a drama newydd sbon danlli Siân Summers ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ gan Theatr Genedlaethol Cymru yn y Sherman. Dwy ddrama gwbl wahanol o ran thema a naws, un gan bump o fechgyn a’r llall gan naw o ferched.



Clwb Llafur Merthyr oedd lleoliad cynhyrchiad NTW o un o ddramâu epig yr Almaenwr Bertolt Brecht. Wedi’i gyfansoddi ym 1939, a’i lleoli yn ystod y Rhyfel Ddeng Mlynedd ar Hugain enwog ganol Ewrop rhwng 1618-1648, mae’r ddrama yn ymateb ac yn feirniadaeth chwyrn ar Ryfel, ac yn cael ei chysidro yn ôl rhai fel un o ddramâu pwysicaf yr ugeinfed ganrif.  Dyma’r eildro imi weld cynhyrchiad o’r ddrama, gyda’r cyntaf yn Theatr yr Olivier yma’n Llundain gyda Fiona Shaw yn portreadu’r fam wrthryfelgar sy’n ceisio elwa o’r rhyfel drwy werthu pob nwydd posib o’i cherbyd lusgedig enwog.


Rhian Morgan oedd yr actores a ddewiswyd i bortreadu’r fam Gymreig, (ynghanol y cyd-destun gwreiddiol Ewropeaidd) a hynny o blith cast o actorion benywaidd blaengar Cymru gan gynnwys Eiry Thomas, Donna Edwards, Gaynor Morgan Rees a Sharon Morgan. A bod yn gwbl onest â chi, yr enwau a’r actorion deniadol yma a’m denodd i wneud y daith o Lundain i Ferthyr i gael profi’r wefr o’u gweld ar lwyfan, a gwers werthfawr iawn i weddill gwmnïau drama yng Nghymru bod yr ‘enwau mawr’ yn dal i dynnu sylw a gwerthu tocynnau.



Yn anffodus, siomedig oedd un o gynyrchiadau olaf i John E McGrath ei chyfarwyddo i’r cwmni, cyn bydd yntau yn newid aelwyd i arwain yr ŵyl ddrama ryngwladol ym Manceinion. Imi, roedd yr elfen epig (sy’n gwbl hanfodol) yn gwbl absennol, ac fe drodd y fam hyderus drasig yn fwy o fodryb (Meryl Mort) ffwndrus yn Tescos! (Modryb, gyda llaw, oedd yn chwaer agos iawn i’r anti-climax enwog!)  Nid bai Rhian Morgan yw hyn, gan iddi hithau (fel sy’n gwbl nodweddiadol o’i gyrfa) roi chwip o berfformiad tanbaid, dagreuol ac emosiynol o fewn yr hualau a osodwyd iddi, felly hefyd gyda’r wyth actores arall oedd yn ymdrechu’n gorfforol a phersonol i ddod â’r stori epig hon yn fyw.  Rhaid i beth o’r bai ddisgyn ar ysgwyddau addasydd diog y sgript Ed Thomas, oedd wedi llwyddo’n wych i roi blas ar dafodiaith y Cymoedd, ond heb ymdrechu i ail-leoli’r digwydd i’r byd cyfoes, er gwaetha’r delweddau ar y sgriniau teledu o raglenni newyddion a theledu cyfoes.

Ar ddiwedd y ddrama, fe’n tywyswyd fel cynulleidfa tu fas i’r clwb, i fod yn dyst i olygfa (oedd fod yn un hynod drasig), ond yn anffodus fe gollwyd yr ychydig hud a grëwyd yn ystod y ddwy awr a thri chwarter blaenorol, yn gyfan gwbl.  Ymgais siomedig gan gast talentog a brwdfrydig, ond adlais efallai fod hi’n hen bryd i Mr McGrath roi awenau’r cwmni mewn dwylo dramatig newydd.

Mae ‘Mother Courage’ bellach wedi dod i ben.


Friday, 22 May 2015

'To Kill A Machine'


Weithia, mae 'na bortread ar lwyfan sy’n eich cynhyrfu neu’ch cyffwrdd ac yn mynnu aros yn y co’. Dyma’r eildro i mi gael y profiad prin hwnnw yng nghwmni’r actor Gwydion Rhys. Y tro cyntaf o dan gyfarwyddyd medrus Lee Haven-Jones yn ‘Tir Sir Gâr’ a’r tro hwn yng nghyd-gynhyrchiad Scriptography ac Arad Goch, yn Theatr yr Arcola yma yn Llundain.

‘To Kill A Machine’ o waith y darlithydd o Adran y Gyfraith Aberystwyth, Catrin Fflur Huws  oedd dan sylw, sef hanes trasig yr athrylith Alan Turing (Gwydion Rhys). Mae ei stori yn wybyddus i lawer yn sgil y ffilm diweddar ‘The Imitation Game’, ond yr is-stori sy’n cael ei archwilio y tro yma, sef perthynas gariadus Turing gyda’i frawd a’i ffrind coleg ‘Christopher’ (Francois Pandolfo), a’r llanc penfelyn pedwar-ar-bymtheg oed, ‘Alfred’ (Rick Yale).  Robert Harper yw’r olaf o’r pedwarawd soniarus hwn.



Mae’r rhaglen chwaethus ddwyieithog sy’n cyd-fynd â’r cynhyrchiad yn gyforiog o gyfeiriadaeth a dadansoddiad o’r sgript. Gormod o bwdin, efallai, gan mai’r sgript a set gaeth Cordelia Ashwell oedd dau o hualau’r cynhyrchiad imi.  Mae’n amlwg fod cryn ddatblygu wedi bod ar y gwaith  a gall hynny fod yn wendid weithiau, gan or-gymhlethu’r gwir stori syml bwerus. Stori i ddau sydd yma yn y bôn, a byddai tri actor ar y mwyaf wedi bod yn fwy na digon i’n tywys ar y daith.  Ceisiwyd efelychu’r sioe ‘Cabaret’ drwy gynnwys golygfeydd swreal rhwng swyn y brif stori – golygfeydd diangen (ac eitha’ plentynnaidd) o’r cwis ‘The Imitation Game’ i or-danlinellu’r gwahaniaeth rhwng y meddwl dynol a’r cyfrifiadurol. Golygfeydd a dorrodd ar rediad llyfn y cyfanwaith, oedd yn anheg iawn ar lwybr storiol y cymeriadau. Adlais hefyd o ddrama Harper Lee yn nheitl y gwaith, sy’n ennyn cydymdeimlad tuag at ysglyfaeth y stori.  A bod yn deg â’r dramodydd, roedd yma ddialog da ac ymgais wych i wahaniaethu rhwng y ddau feddwl, ond fe’m gadawyd yn teimlo bod yma ddwy ddrama gwbl wahanol yn cwffio ar y llwyfan, a’r un emosiynol, bersonol roeddwn i am ei weld.

Cryfder y gwaith (ar ôl gweld y ffilm gyda Benedict Cumberbatch yn y brif ran) oedd yr ochor guddiedig a chysgodol o fywyd Turing, nas dilynwyd ar y sgrin.  Hoffwn fod wedi gweld llawer mwy o ddyfnder yma (llai o ddadansoddi yn y rhaglen a mwy o balu ar bapur efallai?) Yn anffodus, cefais fy atgoffa dro ar ôl tro o sawl golygfa (a geiriau) o’r ffilm, sy’n peri inni gymharu’r ddwy, gan droi’r cynhyrchiad yn efaill druenus dlawd. Petai’r ffilm heb ei rhyddhau cyn y ddrama, efallai y byddai’r canlyniad yn fwy pwerus.



Rwy’n dipyn o ffan o waith cyfarwyddo Angharad Lee, ac roedd gwylio ei gwaith corfforol o roi llun i’r llais a dawns i’r deud yng nghynhyrchiad Arad Goch o ‘SXTIO’ (fydd i’w weld yng Nghaeredin eleni) yn wledd weledol. Gwledd oedd yn absennol y tro hwn, oherwydd hualau’r set a phrinder lle yng ngofod yr Arcola.  Tybed oes posib dileu’r set yn gyfan gwbl, a chyflwyno’r stori gyda dim ond un neu ddwy fainc bren? Llawer tecach i’r actorion a mwy effeithiol na’r goeden lawn llanast tila.

Mae’n amlwg fod portread brydferth-fregus Gwydion Rhys wedi’i elwa o ddyfnder y datblygu, ac yn rhagori imi ar Mr Cumberbatch yn y ffilm. Fyddai’n ddig iawn os na welwn ni ei waith caled yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Theatr Cymru eleni.  Yr un modd gyda’r tri aelod arall sy’n cwblhau’r cast cadarn hwn.


Ymgais galonogol iawn a phortreadau o safon uchel. Cynhyrchiad sy’n dangos talent actio Cymru, ar ei orau. Llongyfarchiadau mawr i’r actorion.

Bydd ‘To Kill a Machine’ i’w weld yn Theatr Hafren, Y Drenewydd heno (22ain o Fai) ac yn yr ŵyl ffrinj yng Nghaeredin fis Awst. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.tokillamachine.co.uk




Friday, 15 May 2015

'The Vote'



Diolch byth bod y ffars o lecsiwn drosodd am bum mlynedd arall. Ffars lwyr fu’r cecru plentynnaidd a’r camarwain di-fadde dros y pum wythnos diwethaf, a ddaeth i’w benllanw trasig nos Iau a bore Gwener.  Roedd aros am ‘y dydd mawr’ fatha disgwyl am dolig, a’r siom o ganfod yr anrheg anghywir o dan y goeden, fore’r ŵyl.  Diolch byth am galendr Adfent llawn melysion y Donmar Warehouse, a ddangoswyd ar chwaer Sianel 4, More4 rhwng 8.25 a 10.00 nos Iau, Mai’r 7fed.

‘The Vote’ o waith un o fy hoff ddramodwyr, James Graham a chyfarwyddwr artistig y Donmar, Josie Rourke, oedd yr arbrawf hynod o lwyddiannus, a gafodd ei ddarlledu’n fyw o lwyfan y theatr. Roedd y ddrama yn digwydd ar noson yr etholiad, ar yr union un amser, wrth ddisgwyl i ddrysau’r neuadd bleidleisio gau am ddeg, a’r cyfrif gychwyn.  Eironi’r cyfan oedd y llinyn storïol oedd (fel y mwyafrif o drigolion y wlad yma) wedi ein camarwain yn llwyr gan y pôl(au)-piniwn bondigrybwyll, oedd yn addo chwip o gystadleuaeth agos rhwng y prif bleidiau. Oherwydd agosatrwydd y darpar ganlyniad tyngedfennol, roedd pob un bleidlais yn holl bwysig, a chyfrifoldeb swyddogion y bleidlais, ‘Kirsty ‘ (Catherine Tate), ‘Laura‘ (Nina Sosanya) a’r prif swyddog ‘Steven’ (Mark Gatiss)  yn dyngedfennol.




Comedi a drodd yn ffars a gafwyd, gyda’r deunydd crai a’r ymchwil helaeth (sydd mor nodweddiadol o waith gwleidyddol James Graham - ‘This House’, ‘The Angry Brigade’ a ‘Little Madam’) yn codi’r cyfan i dir uchel iawn.  Dwi’n siŵr fod tic ymhob bocs ar daflen lleiafrifoedd ethnig y cast, gan fod pob cenedl, crefydd, lliw a llun wedi’i gynrychioli gan yr ensemble helaeth, oedd yn cynrychioli’r cyhoedd. Ymysg yr enwau mawr roedd Judy Dench a’i merch Finty Williams yn portreadu mam a merch (o’r un enw) oedd yn dadlau dros yr un bleidlais oedd ganddynt. Jude Law, a’i gameo ddau funud ac un llinell, yn derbyn cymeradwyaeth gan y gynulleidfa lawn, ac wynebau cyfarwydd eraill fel Timothy West a Paul Chahidi.




Er bod y plot ei hun yn eitha’ gwan, mawredd y cyfan oedd medru cynnwys cymaint o gyfeiriadau ac esboniadau ynglŷn â’r broses bleidleisio, a hynny yn fyw ar noson yr etholiad. Er mai drwy lygaid y cyfarwyddwr teledu y cawsom ni (adre) ein gwledd, roedd y dewis bwriadol o luniau o’r llwyfan llawn, a’r cloc ar y wal yn dangos yr amser cyfredol, yn ychwanegu ar lwyddiant yr arbrawf.  Oherwydd cytundebau masnachol y sianel, fe gawsom ni (adre) sawl toriad hysbysebion, ond roedd y criw cynhyrchu wedi bod ddigon celfydd i sicrhau perfformiad llwyfan di-dor am 90 munud i gynulleidfa'r theatr, heb i ninnau golli eiliad o’r plot na’r ddrama. Clyfar iawn.


Os gewch chi gyfle (dros y mis nesa) i’w weld, cofiwch wneud.






Friday, 8 May 2015

'American Buffalo'


Fues i rioed yn ffan o’r dramodydd Americanaidd David Mamet. Wedi gweld gormod o gynyrchiadau gwan o’i waith mae’n siŵr! Ei ogoniant i rai yw ei lonyddwch a’i ddyfnder, ei lais aflafar lliwgar ‘lygredig’, sy’n peri iddo gael ei gydnabod (ymysg rhai) fel ‘Shakespeare'r iaith frwnt, ddinesig’. Mae’n sialens fawr i gyfarwyddwr, cynllunydd ac actorion  fedru goresgyn yr hualau uchod, gan greu gwledd i’r llygaid, i’r galon ac i’r glust. Wel, braf ydi medru cyhoeddi fod Daniel Evans, yr actor a’r cyfarwyddwr o’r Rhondda, wedi llwyddo unwaith eto gyda champwaith o gynhyrchiad o ddrama Mamet, ‘American Buffalo’ sydd newydd agor (yn swyddogol) yn Theatr y Wyndham’s, yma yn Llundain. Theatr, gyda llaw, ble y gwelais Daniel ei hun, bron i ddeng mlynedd yn ôl, yn cipio’i ail wobr Olivier am ei bortread o’r artist Seurat yn nrama gerdd Sondheim, ‘Sunday in the Park with George’.


Tri sydd ar y llwyfan godidog, sydd wedi’i drawsnewid i fod yn siop llawn llanast yn Chicago, tua 1975. Pan gododd y llen, roedd ymateb y gynulleidfa i wledd liwgar weledol o waith y cynllunydd Paul Wills yn argyhoeddi’n dda. A chawsom ni mo’n siomi. Mae’r stori ei hun yn eitha gwan. ‘Don Dubrow’ (John Goodman) yn cadw siop o hen bethau anghofiedig y byd, ac yn cael cwmni’r llipryn pen moel ‘Bob’ (Tom Sturridege). Mae’r hen ‘Dubrow’ crintachlyd yn flin iawn ei fyd, am ei fod wedi gwerthu hen ddarn o arian yr ‘american buffalo’ i gwsmer, am lawer llai o arian na’i werth masnachol, ac mae’r dihiryn yn benderfynol o ddwyn y darn arian yn ôl. I mewn i’r potes, daw’r arch-ddihiryn pengoch ‘Teach’ (Damian Lewis) yn ei siwt biws swel a’i sideburns blewog, ac o glywed am y cynllun i ddwyn yn ôl y darn arian, (a chyfle ‘hawdd’ am geiniog neu ddwy o elw iddo fo’i hun) mae’n llwyddo i berswadio ‘Dubrow’ mai ef yw’r dyn addas i’w gynorthwyo, ac nid ‘Bob’ druan.


Gogoniant y cynhyrchiad heb os ydi dyfnder y berthynas pell-ac-agos, gymhleth a chwbl chwareus rhwng y tri dihiryn yma. Perthynas sy’n gwneud i ni fel cynulleidfa gydymdeimlo gyda’r drwgweithredwyr anifeilaidd hyn. Mae gwylio'r ddau enw ‘mawr’ o fyd y ffilmiau a theledu Lewis a Goodman yn trin a thrafod dialog cyhyrog ac amrwd Mamet yn werth ei weld, a’r brwydrau o dan yr wyneb sy’n bwysig, ac sy’n cael eu cyfleu’n wych gan amrywiaeth cyfarwyddo manwl, Daniel Evans. Mae’r tri actor yn portreadu ac yn byw angst eu cymeriadau o’u hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan. Poen meddwl diniwed (ta cyfrwys?) ‘Bob’, hyder (ta gwiriondeb?) ‘Teach’, aeddfedrwydd (ta gwendid?) ‘Dubrow’. Dyfnderoedd di-ben-draw wrth i’r dihirod ddawnsio ar y dibyn.

O wybod arch y stori wan, ac i ba gyfeiriad mae’r gwch yn hwylio, roeddwn yn gallu ymlacio a gwerthfawrogi ymgais y tri i gael y cwch i’r dŵr a’i chadw’r cyfan rhag suddo. Dwi’m yn meddwl fod pob aelod o’r gynulleidfa wedi llwyr werthfawrogi’r dyfnder di-bendraw ym mhorteradau’r tri, ac oherwydd prinder a gwendid y prif stori iddynt, mae’r rhegfeydd a’r iaith liwgar yn merwino’r glust. Clywais un cwpl oedrannus yn yr egwyl yn datgan yn dalog ‘Wel, mae bobol y Wasg ‘ma yn dwli ar y math yma o beth!’


Wel, yn sicr iawn, dwli wnes i, gan ddiolch unwaith eto i Daniel am adfer fy ffydd yn yr hen gelfyddyd annwyl hon.

Mae American Buffalo i’w weld yn y Wyndham’s tan 27ain o Fehefin. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy ymweld â’r wefan www.AmericanBuffaloThePlay.com neu ar y trydar @AmBuffaloPlay

 Gyda llaw, mae’n neis bod nôl! Dwi di ildio i’r gofyn a’r crefu am ‘farn onest’ felly dwi’n edrych ymlaen i fedru gweld yr amrywiaeth o waith ar hyd ac ar lled y wlad (ac nid dim ond yng Nghymru!)