Total Pageviews

Friday 18 October 2024

Ateb "cŵyn y Theatr Genedlaethol"

Mae nhw’n deud bod dau ben yn well nag un! Wel, dwi’n ama hynny’n fawr erbyn hyn.

 

Gesh i nodyn gan Olygydd Golwg heddiw yn deud bod un o’r ddau-ben y Theatr Genedlaethol wedi “cwyno” am fy mynegiant o farn yn y rhifyn cyfredol. Poeni mae’r ddau sy’n cael eu cyflogi o arian cyhoeddus am semantics fy newis o eiriau. Biti na fasa nhw’n poeni mwy am yr hyn mae nhw fod i lwyfannu yn hytrach na’r hyn sy’n cael ei nodi amdanynt ar bapur! Mae eu naïfrwydd nawddoglyd yn anhyhoel.

 

Cyn imi ddod at y gŵyn, a gan fod y bocs Pandoraidd theatrig bellach ar agor, dyledus ichi wybod faint o arian cyhoeddus mae'r ddau bennaeth yma yn ei gael, am greu theatr i blant. Yn y "flwyddyn ariannol 2022/2023" - "Derbyniodd Mr Steffan Donnelly gyflog o £49,669 yn sgil ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig yr elusen sy'n cynnwys taliad un-tro o £650 tuag at gostau byw [...] Derbyniodd Mrs Angharad Jones-Leefe gyflog o £58,681", yn ôl yr adroddiadau ariannol ar wefan Tŷ’r Cwmnïau.  

 

Mae yna lawer o gwestiynau yn codi o hyn, felly gan fod y Theatr Genedlaethol yn ddigon parod i gwestiynnu fy marn innau, beth am ofyn cwestiynau pwysicach iddynt hwy. O be ddeallais i, hysbysebu am "arweinydd artistig" ddaru'r Theatr Genedlaethol. Un swydd. Ond yn sydyn iawn, mae'r pwrs cyhoeddus yn talu am ddau swydd, a hynny ar gost blynyddol o £110,000 yn lle hanner hynny. A gafodd swydd Mrs Jones-Leefe ei hysbysebu? Os ddim, pam ddim? Dyma arian cyhoeddus. O be wela i o wefan Tŷ'r Cwmniau, "ysgrifennydd y Cwmni" oedd Mrs Jones-Leefe, ac yna yn 2022, fe newidiwyd Cyfansoddiad y Cwmni i greu y swydd newydd yma o "Gyfarwyddwr Gweithredol" iddi hi. 



Falla mai yn y bocs costus yma mae'r ateb i lawer o'm cwestiynnau sylfaenol yn yr erthygl gyntaf. Sut aflwydd mae caniatau talu bron i £60,000 i Mrs Jones-Leefe a £50,000 [£10,000 yn llai] i'r Cyfarwyddwr Artistig? Meddyliwch o ddifrif am faint o wahaniaeth byddai £60,000 yna yn ei wneud i'r hyn sydd i fod ar y llwyfan. Ai dyma'r gwir reswm pam fod Theatr Fach y Maes a'r Pentref Drama wedi diflannu o'r Eisteddfod?Roedd Cefin Roberts yn medru gneud y swydd ei hun, ac felly hefyd Arwel Gruffyddpam felly bod angen dau bennaeth erbyn hyn? Ac os mai Mrs Jones-Leefe sy'n amlwg yn ysgwyddo'r baich mwyaf, beth aflwydd mae Mr Donnelly yn ei "gyfarwyddo" ta? Hyd yn oed ar Rhinoseros er mai ef oedd i fod i "gyfarwyddo'r" cynhyrchiad, roeddent yn talu i DDAU gyfarwyddwr arall i weithio ar y sioe!!:



Felly ar wahan i'r "llais" a "symud", beth yn union oedd rôl Mr Donnelly ar y cynhyrchiad? Felly hefyd gyda swydd £60,000 y flwyddyn Mrs Jones-Leefe. Roedd yna DRI arall yn yr ochor "gynhyrchu" i UN cynhyrchiad - 



Mae'r peth yn hollol abswrd. Ydi'r Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn deall hanfodion swyddi yn y Theatr?. Oes, mae yna ddadl dros benodi dau gyfarwyddwr ar gyfer Sefydliadau mawr fel Cwmni'r Royal Shakespeare, neu'r National Theatre yn Llundain neu Chichester, am bod yna THEATR weithredol ynghlwm â'r swyddi. Cwmni ydi Theatr Genedlaethol Cymru, ac nid oes adeilad o Theatr yn perthyn iddi, felly pam bod angen y ddwy swydd, a phwy ddaru awdurdodi a chytuno i hynny?

 Ond yn ôl at y cwynion, sef diben cychwynol y llith. Gadewch imi gychwyn gydag alegori neu drosiad. Petawn i’n gofyn i’r cynllunydd dillad Paul Smith i wneud siwt imi, ac yn rhoi miloedd o bunnau iddo am y fraint; yn prynu’r brethyn gorau a’r botymmau gloywaf, ac yn trefnu parti o gynulleidfa i’w gwisgo hi am y tro cyntaf, allwn i fyth, [a feiddiwn i fythhonni wrth neb mai "siwt Paul G" ydi hi. Siwt Paul Smith YW hi, a fydd hi am byth. Oherwydd ei ddawn o a greodd y siwt; ei arbenigedd o sydd ar waith, ei enw fo sy’n rhoi urddas a gwerth iddi, wedi blynyddoedd o brofiad, o ddeall ei ddefnydd a’i allu unigryw o greu. Dyna sy’n gyfrifol am ei enwogrwydd. Allai wisgo’r siwt â balchder, allai ddangos hi i bawb. Allai ofyn i eraill ei gwisgo hi a  chreu lluniau hyfryd i Instagram a Tic Toc. Allai neud bob dim, OND meiddio honni, mai fi ddaru ei chreu hi.

 

Felly beth am gychwyn dadansoddi cwynion y Theatr Genedlaethol sy’n amlwg yn eithaf sensatif dros fy nefnydd o “ddyfynodau”!

 

Cyhuddo golygydd Golwg o “ddiffyg sylw golygyddol” mae’r ddeuben gostus am bod o “wedi gadael i anwireddau ymddangos yn Golwg”, a thrwy hynny “rydych wedi gadael i’r awdur hwn [fi] awgrymu bod ffeithiau solet yn anwireddau,” meddai’r neges glogyrnaidd. 

 

Y gŵyn gyntaf oedd:


  • “Nid cynhyrchiad ‘Cwmni Krystal S. Lowe’ oedd Swyn. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru oedd hwn, a Krystal oedd yr awdur.”


Yn Awst 2023, llwyfannodd y ThGen y cynhyrchiad Swyn “i blant hyd at 7 oed yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe".  [dim ond egluro'r defnydd o ddyfynodau eto, gan mai "dyfynnu" o'u gwefan nhw 'dwi!]



Felly dewch inni edrych yn fwy manwl ar wefan wych ac ysbrydoledig Krystal S Lowe sy'n disgrifio ei hun fel "Bermuda-born, Wales-based dancer, choreographer, writer, and director performing and creating dance theatre works for stage, public space, and film that explore themes of intersectional identity, mental health and wellbeing, and empowerment to challenge myself and audiences toward introspection and social change." 

Mwy na dim ond "awdur" fel mae'r Theatr Genedlaethol yn honni. Mae Krystal yn mynd ymlaen i ddatgan: "I’m passionate about integrating access and exploring multilingual work with a specific focus on British Sign Language, Welsh, and English."

 

Mae’n rhaid mai cyd-ddigwyddiad anffodus yw’r ffaith bod Krystal wedi creu “sioe” neu "gynhyrchiad" yn 2019 o’r enw “Whimsy” ac wedi “ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio’r” cyfan gyda chymorth ysgol gynradd Jubilee Park.



"Jubilee Park Primary year 6 pupils and their teachers collaborated with me in 2019 to create a 25-minute dance theater show with the year 6 pupils, University of South Wales dance degree students, and Ballet Cymru Pre-professionals co-creating and performing this work together at the Ballet Cymru studio."

 

Yn 2022, bu iddi deithio'r cynhyrchiad hwnnw gan ymweld â Maes yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd, yn ogystal â nifer o ganolfanau eraill drwy Gymru. A phwy oedd yn gyfrifol am lwyfannu'r cynhyrchiad gwreiddiol hwnnw? Wel dyma nhw.
 
Whimsy                         Krystal S Lowe
Storïwr BSL                  Sarah Adedeji
Storïwr Cymraeg         Aisha-May Hunte
Awdur a Coreograffi    Krystal S Lowe
Cyfarwyddydd BSL
     Donna Mullings

Cynllunydd Set            Ruth Stringer


Cyfarwyddwr Tecst Ffion Bowen sydd bellach yn Arweinydd Artistig Arad Goch - cwmni sydd wedi arbenigo mewn Theatr Ryngwladol i Blant ers degawdau ac wedi bod yn ran allweddol o greu a chynnal Gŵyl Agor Drysau ar draws y byd o dan arweiniad yr athrylith theatrig Jeremy Turner.



A beth am "gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru" yn 2023? Beth am gymharu?

 

Cynhyrchiad Krystal S Lowe 2022

Cynhyrchiad Theatr Gen 2023

Whimsy                            Krystal S Lowe
Storïwr BSL                     Sarah Adedeji
Storïwr Cymraeg            Aisha-May Hunte
Awdur a Coreograffi      Krystal S Lowe

Cyfarwyddydd BSL       Donna Mullings

Cynllunydd Set               Ruth Stringer


Cyfarwyddwr Tecst       Ffion Bowen

Swyn                              Krystal S Lowe

Storïwr BSL                  Sarah Adedeji

Storïwr Cymraeg         Aisha-May Hunte

Awdur a Coreograffi    Krystal S Lowe

 

Cyfarwyddwr            Rhian Blythe 

Cyfansoddwr             Kizzy Crawford

Cynllunydd Goleuo   Elanor Higgins

Set a Gwisgoedd        Stella-Jane Odoemelam

Dramatwrg a 

Chyfieithydd              Melangell Dolma

 

 

 A beth am y cynnwys? 

 

Cynhyrchiad Krystal S Lowe 2022

Cynhyrchiad Theatr Gen 2023

"Whimsy is the story of a young girl who sees beauty in everything but herself. Through her love of nature, and her adventures flying with birds, running with squirrels, and gliding with ducks, Whimsy comes to see the beauty that has been inside her all along. 

 

 

 

 

 

 

 

Whimsy is a multilingual dance theatre work that sparks young audiences’ imaginations through storytelling and dance through the mediums of British Sign Language, Welsh and English."

 

"Dewch gyda Swyn ar siwrne trwy fyd natur… O’r cwningod cyfeillgar i’r hwyiaid hwyliog, mae Swyn yn caru natur! Ond wrth iddi hi geisio chwarae gyda’r creaduriaid clen, mae ganddyn nhw eu syniadau eu hunain ar sut gael hwyl! Gyda help ambell i anifail arbennig ar hyd y ffordd, mae Swyn yn dysgu mai nid trwy arwain neu ddilyn eraill y mae gwneud ffrindiau, ond trwy ddathlu y pethau hynny sy’n gwneud bob un ohonom ni yn unigryw.

 

Lapiwch yn gynnes ac ymunwch â Swyn a’i ffrindiau ar gyfer sioe swynol yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe. Yn cyfuno’r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL), dyma gynhyrchiad arbennig fydd yn tanio dychymyg cynulleidfaoedd ifanc gyda stori a dawns."

 

 

Gewch chi benderfynu "cynhyrchiad" pwy gafodd ei lwyfannu yn 2023, a pha mor wir ydi honiad y ddau-ben nawddoglyd mai “Nid cynhyrchiad ‘Cwmni Krystal S. Lowe’ oedd Swyn. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru oedd hwn, a Krystal oedd yr awdur.”

 

Yr ail "gŵyn"...

  • "Nid oedd Yr Hogyn Pren yn sioe fenthyg gan Small World Theatre. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru oedd hwn, a dim ond comisiynu Small World Theatre i greu pyped ar gyfer ein cynhyrchiad wnaethom ni."

Reit, beth am fynd ati gyda'r un dycnwch i weld pwy da chi am gredu ynglŷn â'r datganiad yma, ta? 

 

Ar wefan y Theatr Genedlaethol, yr unig eiriau sy'n digrifio'r sioe blant Yr Hogyn Pren [gafodd ei lwyfannu ar faes Eisteddfod Boduan yn 2023] ydi:

 

 "'O ddarn o bren y gwnaed o, o’i gorun moel i’w draed o…'  Mae bywyd yn gallu bod yn anodd pan ti wedi dy greu o froc môr, ond tybed a fydd hud Yr Hogyn Pren yn golchi i’r lan unwaith eto? Antur hudolus i’r teulu i gyd, wedi’i hysbrydoli gan gerdd I. D. Hooson." 

 

Mae'r Theatr Gen yn honni eto mai nhw fu'n gyfrifol am  greu yr holl gynhyrchiad ac yn fy nghywiro drwy ddweud "dim ond comisiynu Small World Theatre i greu pyped ar gyfer ein cynhyrchiad wnaethom ni". 

 

Felly dowch inni dreiddio yn ddyfnach tu ôl i'r geiriau. Mi gychwynai efo'r cefndir a hanes y cwmni Small World Theatre [Theatr Byd Bach]. Dyma gwmni sy'n arbenigo mewn creu "pypedau anferth, theatr amgylcheddol a phrosiectau." Dathlodd y cwmni theatr eu penblwydd yn 40 oed yn 2019, o greu "bypedwaith yn rhychwantu gyrfaoedd Ann Shrosbree a Bill Hamblett. O waith cynnar fel Dandelion Puppets ym 1979, i waith Celfyddydau a Datblygu yn Affrica, Asia a'r Dwyrain Canol i Theatr Byd Bach a'r dydd presennol."

 

"Rydym yn gwneud pypedau o bob graddfa a pherfformiadau pypedau anferth yw ein harbenigedd. Mae ein perfformiadau pypedau anferth yn bennaf yn yr awyr agored, mewn gwyliau neu ddigwyddiadau. Maen nhw’n cynnig golygfa a ‘showtopper’, yn ogystal â thynnu sylw at themâu amgylcheddol a diwylliannol cryf."



All neb wadu'r profiad amlwg sydd gan Theatr Byd Bach o wneud yr union math yma o gynyrchiadau ers 45 mlynedd. Fel gyda'r Handspring Puppet Company a fu'n cyd-weithio efo'r National Theatre yn Llundain i greu y sioe fyd enwog WarHorse. Seren y sioe honno, fel gyda Yr Hogyn Pren, ydi'r pyped, ac fel y National Theatre gynt, mae holl lwyddiant y cynhyrchiad yn gyfangwbl ddibynnol ar y pypedau. Mae honni mai "dim ond comisiynu Small World Theatre i greu pyped ar gyfer ein cynhyrchiad wnaethom ni" yn un o'r pethau mwyaf nawddoglyd a thanseiliol a glywais i erioed. Rhag eu cywilydd am ddweud y fath beth. Pam mod i mor flin am hyn, wel dyma'r cast i gychwyn yng "nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru"

 

Y Fam Heledd Gwynn

Pypedwyr Owain Gwynn, Bettrys Jones a Rebecca Killick.



Ydi'r olygfa uchod o'r "pyped" yn cyfiawnhau'r datganiad mai "dim ond comisiynu Small World Theatre i greu pyped" yn adlewyrchiad teg o gyfraniad, gweledigaeth ac arbenigedd Theatr Byd Bychan? Bod angen TRI actor / pypedwr i weithredu'r pyped, fel gyda'r ceffylau yn War Horse?

Nid dim ond derbyn "y pyped" mewn pecyn drwy'r post sydd dan sylw yma [fel yn awgrym ddihidio'r ThGen] mae angen dysgu'r sgiliau sydd wedi gneud Theatr Byd Bychan yn fyd enwog ers dros ddeugain mlynedd i greu cynhyrchiad o'r math yma. 


Yn union fel fy alegori am y siwt ar gychwyn yr erthygl. Do, falla bod Owain Gwynn wedi "creu" y syniad o ddefnyddio gwaith I.D Hooson, a bod ganddo brofiad o weithio'r pypedau ar War Horse Life of Pi [difyr yw nodi mai Nick Barnes and Finn Caldwell (dau bypedwr profiadol o gynhyrchiad y West End o Life of Pi) oedd ei gyd-bypedwyr pan ail-lwyfannwyd y sioe yng Ngŵyl Agor Drysau Arad Goch eleni]; a falla bod Elidir Jones wedi creu y "sgript" a bod Melangell Dolma wedi "cyfarwyddo", ond fel yn achos fy nghyfraniadau innau i fy siwt, fyddwn i fyth yn honni mai fy siwt i oedd hi. Cyfrannu tuag at lwyddiant y cynnyrch terfynol yr ydym, a cywaith ydi'r cyfanwaith, fel mae Theatr Byd Bychan yn falch o arddel ar eu gwefan.




"Cyd-weithio" yw'r gair mae Theatr Byd Bach yn ei ddewis nid "comisiynnu" ac mae'n warthus nad yw'r Theatr Genedlaethol yn cydnabod hynny yn fwy amlwg yn eu dewis gofalus o eiriau a drychau a mwg! Ym mis Chwefror 2024, ar eu tudalen Facebook, mae'r geiriau "Datblygwyd Broc - y pyped eco-gyfeillgar sydd wrth galon y cynhyrchiad - gyda chwmni clodfawr Small World Theatre..." felly mae eu hymateb o gŵyn eto'n ddi-sail.

Y cynhyrchiad un-noson Kiki Cymraeg oedd y gŵyn nesaf, a'u un mwyaf pitw!


  • "Nid oedd Kiki Cymraeg yn sioe fenthyg. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru oedd hwn ar y cyd â’r Gymuned Ddawnsfa Cymru. Nid oedd chwaith yn sioe yn benodol i bobl ifanc (yn wir, roedd y canllaw oed yn 14+)."

Gan eu bod nhw mor bryderus mod i wedi camarwain y Genedl dros bwysigrwydd y cynhyrchiad un-noson yma, beth am fwrw golwg ar beth yn union ydi'r holl helynt.

 

Dyma gofnod o'r digwyddiad ar wefan Sherman Cymru. Sylwer ar drefn y geiriau ac mae'n amlwg eto pwy sy'n arwain y cynhyrchiad yma. 



"As part of an exciting new collaboration between the Welsh Ballroom Community and Theatr Genedlaethol Cymru, Kiki Cymraeg features original spoken word performances by artists Lauren MoraisNina Bowers and Leo Drayton, exploring what it means to be queer in Wales today.

Directed by Duncan Hallis and Theatr Gen’s Artistic Director Steffan Donnelly, this scratch performance will be hosted by the Voice of Wales, Kwabena 007, and will star members of the Welsh Ballroom Community, including Leighton Rees MilanSupreme MilanOpulence Milan and Hollywood 007, alongside DJ Raven 007."

 

Eto, sylwch - DAU gyfarwyddwr. Pwy yw'r prif un tybed? 


Fel dyn hoyw, does gen i ddim byd yn erbyn y fath gyd-weithio, er nad ydi'r cynhyrchiad neu ddigwyddiad yn apelio o gwbl ata i yn bersonol, ond tybed os mai dyma'r math o gynhyrchiad mae mwyafrif o oedolion Cymru am ei weld gan ein Theatr Genedlaethol? A dim ond yng Nghaerdydd wrth gwrs.

 

Ac ymlaen at y gŵyn nesaf...


  • "Pam bod “92 perfformiad” mewn dyfynodau? Hwn yw rhif cywir y nifer o berfformiadau. Mae’r dyfynodau yn awgrymu ein bod yn dweud anwiredd am nifer ein perfformiadau. Mae hefyd yn aneglur pam bod nifer y lleoliadau a enwebiad hefyd mewn dyfynodau gan eu bod hwythau hefyd yn realiti. Fel y mae diffyg sylw golygyddol wedi gadael i anwireddau ymddangos yn Golwg, felly hefyd rydych wedi gadael i’r awdur hwn awgrymu bod ffeithiau solet yn anwireddau."

O diar, mae'n amlwg bod yr holl eiriau mae'r ddeu-ben bwysig yn gorfod delio â nhw yn peri dryswch iddynt! Pan dwi'n dyfynnu, dwi'n defnyddio "dyfynodau". Dim byd mwy sinistr na hynny, ac mi gyfrais i bob perfformiad o'u "blwyddyn" dewisol nhw sef  "14 Awst 2023 – 28 Awst 2024". Mae hynny hefyd yn ateb eu cŵyn nesa, ac sy'n gneud i rywun amau pam bod nhw wedi dewis "blwyddyn" mor benodol o gynyrchiadau i ymgeisio am wobr, yn hytrach na'u "blwyddyn newydd" arferol nhw!

  • "Nid yw Fy Enw i Yw Rachel Corrie a Dawns y Ceirw yn gynyrchiadau o fewn “blwyddyn newydd” o waith y cwmni. Dyma ddau o gynyrchiadau olaf 2024, a’r ddau wedi’u cyhoeddi yn flaenorol. Bydd cyhoeddiad blwyddyn newydd o waith y cwmni yn digwydd mewn rhai misoedd. "

Dyma fanylder cwyfanllyd y ddau, sy'n amlwg yn poeni gormod am fanylion y geiriau yn hytrach na'r darlun ehangach a'r pwynt sy'n cael ei wneud...

 

  • "Os mai Rhinoseros, Parti Priodas, Ha/Ha a Brên. Calon. Fi sy’n cael eu cyfri fel y ‘pedwar cynhyrchiad i oedolion’ (er, fel nodir uchod, roedd Kiki Cymraeg yn sioe oedolion), nid yw’n wir bod dau o’r rhain yn ail-lwyfaniadau (‘dau o’r rheiny yn gawl-eildwym o’r Eisteddfod’). Dim ond un, Parti Priodas, gall gael ei ystyried yn ail-lwyfaniad - ond hynny wedi ei gynhyrchu ar raddfa llawer mwy ac yn deithiol."


Hyd yn oed os ydi rhywun yn honni bod Kiki Cymraeg yn sioe i "oedolion" tydio ddim yn newid y pwynt pryderus a sylfaenol,  sef bod 52 perfformiad allan o'r 92 [yn hytrach na 53] yn sioeau i blant. Un perfformiad oedd Kiki Cymraeg. 


Wyddwn i ddim ein bod ni wedi newid Cyfansoddiad ein Theatr Genedlaethol i fod yn Theatr Genedlaethol i Blant Cymru.

 

Ers i Mrs Jones-Leefe ddyrchafu ei hun yn bennaeth ar y Theatr Genedlaethol, mae'r cwmni wedi troi'n Theatr Weinyddol yn hytrach na chreadigol. Dwi heb ymdrechu i weld unrhyw un o gynyrchiadau'r Theatr ers cyn 2022, am nad wyf yn barod i wario fy arian i ddod i weld cynyrchiadau sydd â dim apêl imi. Fel un sy'n mynychu'r theatr yma'n Llundain o leiaf unwaith yr wythnos, mae hynny yn dorr-calon imi. Ond mae'n amlwg fod pawb yng Nghymru yn hapus efo'r sefyllfa fel ag y mae hi, felly dyna ni; os am newid pethau, rhaid i hynny ddod o Gymru a Chymry eu hunain. Chwi actorion allan o waith, ddramodwyr, cyfarwyddwyr, garedigion y theatr, gweithredwch, neu byddwch fodlon ar theatr i blant am byth.

 

Er mwyn eich helpu i leisio'ch barn, dwi wedi cychwyn deiseb ichi. Arwyddwch os yda chi am weld newid ac ail-hawlio ein Theatr Genedlaethol i Gymru a Chymry, ac nid i Loegr a phlant ac ieuenctid y wlad. Gallwch ymweld â'r ddeiseb yma neu sganio'r testun QR isod.









No comments: