Diolch byth bod y ffars
o lecsiwn drosodd am bum mlynedd arall. Ffars lwyr fu’r cecru plentynnaidd a’r
camarwain di-fadde dros y pum wythnos diwethaf, a ddaeth i’w benllanw trasig
nos Iau a bore Gwener. Roedd aros am ‘y
dydd mawr’ fatha disgwyl am dolig, a’r siom o ganfod yr anrheg anghywir o dan y
goeden, fore’r ŵyl. Diolch byth am
galendr Adfent llawn melysion y Donmar Warehouse, a ddangoswyd ar chwaer Sianel
4, More4 rhwng 8.25 a 10.00 nos Iau, Mai’r 7fed.
‘The Vote’ o waith un o
fy hoff ddramodwyr, James Graham a chyfarwyddwr artistig y Donmar, Josie
Rourke, oedd yr arbrawf hynod o lwyddiannus, a gafodd ei ddarlledu’n fyw o
lwyfan y theatr. Roedd y ddrama yn digwydd ar noson yr etholiad, ar yr union un
amser, wrth ddisgwyl i ddrysau’r neuadd bleidleisio gau am ddeg, a’r cyfrif
gychwyn. Eironi’r cyfan oedd y llinyn
storïol oedd (fel y mwyafrif o drigolion y wlad yma) wedi ein camarwain yn
llwyr gan y pôl(au)-piniwn bondigrybwyll, oedd yn addo chwip o gystadleuaeth
agos rhwng y prif bleidiau. Oherwydd agosatrwydd y darpar ganlyniad
tyngedfennol, roedd pob un bleidlais yn holl bwysig, a chyfrifoldeb swyddogion
y bleidlais, ‘Kirsty ‘ (Catherine Tate), ‘Laura‘ (Nina Sosanya) a’r prif
swyddog ‘Steven’ (Mark Gatiss) yn
dyngedfennol.
Comedi a drodd yn ffars
a gafwyd, gyda’r deunydd crai a’r ymchwil helaeth (sydd mor nodweddiadol o
waith gwleidyddol James Graham - ‘This House’, ‘The Angry Brigade’ a ‘Little
Madam’) yn codi’r cyfan i dir uchel iawn.
Dwi’n siŵr fod tic ymhob bocs ar daflen lleiafrifoedd ethnig y cast, gan
fod pob cenedl, crefydd, lliw a llun wedi’i gynrychioli gan yr ensemble
helaeth, oedd yn cynrychioli’r cyhoedd. Ymysg yr enwau mawr roedd Judy Dench
a’i merch Finty Williams yn portreadu mam a merch (o’r un enw) oedd yn dadlau
dros yr un bleidlais oedd ganddynt. Jude Law, a’i gameo ddau funud ac un
llinell, yn derbyn cymeradwyaeth gan y gynulleidfa lawn, ac wynebau cyfarwydd
eraill fel Timothy West a Paul Chahidi.
Er bod y plot ei hun yn
eitha’ gwan, mawredd y cyfan oedd medru cynnwys cymaint o gyfeiriadau ac
esboniadau ynglŷn â’r broses bleidleisio, a hynny yn fyw ar noson yr etholiad.
Er mai drwy lygaid y cyfarwyddwr teledu y cawsom ni (adre) ein gwledd, roedd y
dewis bwriadol o luniau o’r llwyfan llawn, a’r cloc ar y wal yn dangos yr amser
cyfredol, yn ychwanegu ar lwyddiant yr arbrawf.
Oherwydd cytundebau masnachol y sianel, fe gawsom ni (adre) sawl toriad
hysbysebion, ond roedd y criw cynhyrchu wedi bod ddigon celfydd i sicrhau
perfformiad llwyfan di-dor am 90 munud i gynulleidfa'r theatr, heb i ninnau
golli eiliad o’r plot na’r ddrama. Clyfar iawn.
Os gewch chi gyfle (dros y mis nesa) i’w weld, cofiwch wneud.
No comments:
Post a Comment