Ein dwy Theatr
Genedlaethol aeth â hi'r wythnos hon. National Theatre Wales ac ‘addasiad’ Ed
(Y Gwyll) Thomas o ddrama Brecht, ‘Mother Courage and her Children’ ym Merthyr
Tydfil, a drama newydd sbon danlli Siân Summers ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ gan Theatr
Genedlaethol Cymru yn y Sherman. Dwy ddrama gwbl wahanol o ran thema a naws, un
gan bump o fechgyn a’r llall gan naw o ferched.
Clwb Llafur Merthyr
oedd lleoliad cynhyrchiad NTW o un o ddramâu epig yr Almaenwr Bertolt Brecht.
Wedi’i gyfansoddi ym 1939, a’i lleoli yn ystod y Rhyfel Ddeng Mlynedd ar Hugain
enwog ganol Ewrop rhwng 1618-1648, mae’r ddrama yn ymateb ac yn feirniadaeth
chwyrn ar Ryfel, ac yn cael ei chysidro yn ôl rhai fel un o ddramâu pwysicaf yr
ugeinfed ganrif. Dyma’r eildro imi weld
cynhyrchiad o’r ddrama, gyda’r cyntaf yn Theatr yr Olivier yma’n Llundain gyda
Fiona Shaw yn portreadu’r fam wrthryfelgar sy’n ceisio elwa o’r rhyfel drwy
werthu pob nwydd posib o’i cherbyd lusgedig enwog.
Rhian Morgan oedd yr
actores a ddewiswyd i bortreadu’r fam Gymreig, (ynghanol y cyd-destun
gwreiddiol Ewropeaidd) a hynny o blith cast o actorion benywaidd blaengar Cymru
gan gynnwys Eiry Thomas, Donna Edwards, Gaynor Morgan Rees a Sharon Morgan. A
bod yn gwbl onest â chi, yr enwau a’r actorion deniadol yma a’m denodd i wneud
y daith o Lundain i Ferthyr i gael profi’r wefr o’u gweld ar lwyfan, a gwers
werthfawr iawn i weddill gwmnïau drama yng Nghymru bod yr ‘enwau mawr’ yn dal i
dynnu sylw a gwerthu tocynnau.
Yn anffodus, siomedig
oedd un o gynyrchiadau olaf i John E McGrath ei chyfarwyddo i’r cwmni, cyn bydd
yntau yn newid aelwyd i arwain yr ŵyl ddrama ryngwladol ym Manceinion. Imi,
roedd yr elfen epig (sy’n gwbl hanfodol) yn gwbl absennol, ac fe drodd y fam
hyderus drasig yn fwy o fodryb (Meryl Mort) ffwndrus yn Tescos! (Modryb, gyda
llaw, oedd yn chwaer agos iawn i’r anti-climax enwog!) Nid bai Rhian Morgan yw hyn, gan iddi hithau
(fel sy’n gwbl nodweddiadol o’i gyrfa) roi chwip o berfformiad tanbaid,
dagreuol ac emosiynol o fewn yr hualau a osodwyd iddi, felly hefyd gyda’r wyth
actores arall oedd yn ymdrechu’n gorfforol a phersonol i ddod â’r stori epig
hon yn fyw. Rhaid i beth o’r bai ddisgyn
ar ysgwyddau addasydd diog y sgript Ed Thomas, oedd wedi llwyddo’n wych i roi
blas ar dafodiaith y Cymoedd, ond heb ymdrechu i ail-leoli’r digwydd i’r byd
cyfoes, er gwaetha’r delweddau ar y sgriniau teledu o raglenni newyddion a
theledu cyfoes.
Ar ddiwedd y ddrama,
fe’n tywyswyd fel cynulleidfa tu fas i’r clwb, i fod yn dyst i olygfa (oedd fod
yn un hynod drasig), ond yn anffodus fe gollwyd yr ychydig hud a grëwyd yn
ystod y ddwy awr a thri chwarter blaenorol, yn gyfan gwbl. Ymgais siomedig gan gast talentog a
brwdfrydig, ond adlais efallai fod hi’n hen bryd i Mr McGrath roi awenau’r
cwmni mewn dwylo dramatig newydd.
Mae ‘Mother
Courage’ bellach wedi dod i ben.
No comments:
Post a Comment