Total Pageviews

Friday 29 May 2015

Pan Oedd Y Byd Yn Fach



Ein dwy Theatr Genedlaethol aeth â hi'r wythnos hon. National Theatre Wales ac ‘addasiad’ Ed (Y Gwyll) Thomas o ddrama Brecht, ‘Mother Courage and her Children’ ym Merthyr Tydfil, a drama newydd sbon danlli Siân Summers ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ gan Theatr Genedlaethol Cymru yn y Sherman. Dwy ddrama gwbl wahanol o ran thema a naws, un gan bump o fechgyn a’r llall gan naw o ferched.


Mae’n braf gweld y Theatr Genedlaethol Gymraeg yn rhagori am unwaith ar waith ei chwaer (llawer mwy cyfoethog) Cymreig.  I ganol yr 1980au aeth stori bwerus a sgript gyhyrog a chomig Siân Summers â ni, yn ‘Pan oedd y Byd yn Fach’. Fe gychwyn y ddrama pan fo’r pum ffrind gwrywaidd ynghanol afiaith ieuenctid, chwerwder a thrais streic y Glowyr yn y Cymoedd. Cyfnod yr oedd y cyfarwyddwr newydd a’r actor nodedig Aled Pedric yn gwbl gyfarwydd ag ef. Cafwyd awgrym o’r cychwyn cyntaf am ddiweddglo trasig y ddrama, heb ddadlennu namyn mwy, oedd yn rhoi grym ychwanegol i’r gynulleidfa yn ein chwilfrydedd i wybod am dranc y cymeriadau. Erbyn yr ail act, roedd y cymeriadau lawer yn hŷn, ac felly yn llawer mwy llonydd na’r rhan gyntaf, a dyna un o brif wendidau (anffodus) y cynhyrchiad imi.


Pan oeddwn i’n cystadlu fel actor mewn gwyliau dramâu cymunedol flynyddoedd lawer yn ôl, y wers gyntaf a ddysgais (gan J.O.Roberts) oedd bod yn ymwybodol iawn o’m breichiau. Cyngor sylfaennol yr hoffwn innau ei rannu gyda’r pum actor canlynol - Dyfed Cynan , Siôn Ifan, Ceri Murphy, Berwyn Pearce a Gareth Pierce. Wrth ganmol bwriad amlwg Aled Pedric i gadw afiaith yr ifanc ar gychwyn y stori ac i gael gwrthgyferbyniad amlwg yn yr ail ran, roedd yr or-frwdfrydedd weithiau’n fwrn, ac yn peri inni golli hadau pwysig o’r stori. Unwaith eto’r wythnos hon, roedd cynllun y set yn wan, blêr a chaeth iawn, ac yn cynnig dim cymorth i’r actorion fedru amrywio eu symud er mwyn creu darluniau diddorol i’r llygaid. Ar un cyfnod yn yr ail ran, sylwais fod tri o’r pedwar actor ar y llwyfan wedi mabwysiadu'r union un osgo, a’u breichiau mhleth, oedd yn tanlinellu’r gwendidau uchod.



Cefais fy mhlesio’n fawr gan bortreadau’r pum actor, yn enwedig angerdd Gareth Pierce a Siôn Ifan, a braf gweld wynebau newydd imi Dyfed Cynan a Berwyn Pearce yn cael lle ar y llwyfan Cenedlaethol.  Heb os, mae’r seiliau yma am chwip o gynhyrchiad, ond fel dywed yr hen fodryb grintachlyd, ‘nid da lle gellir gwell’.

Mi fydd ‘Pan Oedd y Byd yn Fach’ yn ail-gychwyn eu taith ar yr 2il o Fehefin gan ymweld â’r Lyric yng Nghaerfyrddin, Taliesin yn Abertawe, Mwldan yn Aberteifi, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog, Theatr Harlech a Galeri Caernarfon. Mwy o fanylion ar www.theatr.cymru


No comments: