Cymro 19 Mehefin
Fues i’n edrych ar y llun ar boster y ddrama ‘Harvest’ yn Soho Theatre am beth
amser. ‘Ew, ma hwnna’n debyg i Dyfan Dwyfor’, meddwn i (yn fy llais monolog
mewnol Radio Cymru dwysaf!). O weld mai cyfieithiad o ddrama gan y dramodydd
Pavel Pryazhko o Felarws oedd y cynhyrchiad, a bod (yn yr ystyr orau posib)
rhyw arlliw o ddwyrain Ewrop (ffodus iawn) yng ngwedd drwsiadus Mr Dwyfor, fe
anwybyddais y cynhyrchiad tan yr wythnos hon.
Dwi di gweld Dyfan (sy’n hanu o Griccieth) mewn sawl cynhyrchiad yma yn
Llundain yn ddiweddar o’r ‘Titus’ gwaedlyd yn y Globe i’r bwtler yn ‘Fortune’s
Fool’ yn yr Old Vic. Roedd o hefyd yn un
o’r meibion gwrthryfelgar yn y ffilm wych ‘Pride’ – sydd, gyda llaw, am gael ei
droi yn ddrama gerdd a’i lwyfannu yn yr Old Vic, cyn bo hir. Ond yn ôl at y
cynhaeaf…
Pleser o’r mwyaf oedd derbyn cadarnhad ar daflen
y cyd-gynhyrchiad yma rhwng Theatr Frenhinol Caerfaddon a Soho Theatre mai
Dyfan yn wir, oedd yn portreadu ‘Valleri‘ un o’r pedwar cyfaill oedd wedi dod
ynghyd i hel y cynhaeaf o afalau yn y berllan. Pleser hefyd oedd dysgu mai
Cymro glân gloyw oedd ei gyd-actor, a’i gyfaill ‘Egor’ yn y sioe, Dafydd Llŷr
Thomas.
Telyneg o ddrama a chynhyrchiad sydd yma gydag
ystyron ac is-themâu mor niferus â’r afalau gwyrdd sy’n hedfan fry uwchben y
pedwar actor. O’r eiliadau cyntaf o’r gerddoriaeth chwareus, a’r gofal a
ddangoswyd wrth ostwng y golau ar y gynulleidfa (eiliadau hollbwysig ar gychwyn
unrhyw gynhyrchiad) roedd profiad a dawn y cyfarwyddwr a chyn-bennaeth yr RSC Michael
Boyd yn amlwg iawn. Roedd set drwsiadus a chlyfar Madeleine Girling (oedd
wedi’i mentora gan gynllunydd y môr o babi coch yn Nhŵr Llundain, Tom Piper) yn
wledd i’r llygaid, a dawns y ddau lanc a’r ddwy ferch wrth ddringo a gostwng y
pedair ystôl wen, yn arwydd o’r tensiwn cariadus oedd i ddod, ymhell cyn i air
o’r sgript gael eu hyngan. Gwych iawn. Gwych hefyd oedd y defnydd o’r
gerddoriaeth yn dychwelyd dro ar ôl tro, er mwyn cwblhau’r cyfanwaith celfydd.
Mae’n amlwg fod gan Pryazhko lais unigryw a
neges bwysig i’w rannu am sefyllfa ei famwlad, a’r llanast sydd yno er rhaid
blynyddoedd. Roedd cynildeb yr eironi am orfod cael gwared â’r afalau drwg
(neu’r rhai oedd wedi’i chleisio) rhag difetha’r gist bren gyfan yn adlais sicr
o waith Pinter a Beckett. Ac yntau’n aelod o Theatr Rydd Belarws, sy’n nodedig
iawn am eu angerdd tuag at waith Pinter, a sydd, yn fy marn i, yn un o’r
cwmnïau theatrig mwyaf creadigol a welais erioed, does dim amheuaeth o le
ddysgodd y dramodydd ei grefft. Er i’r
llanast fynd dros-ben-afal a llestri’n llwyr erbyn y diwedd (oedd yn gwbl
fwriadol) efallai fod yr amwyster wedi’i drechu, a’r amlwg wedi boddi pob
cynildeb.
Mwynheais y cyd-chwarae comig rhwng Dyfan a Dafydd, a’u cyd-actorion
Lyndsey
Campbell a Beth Park. Roedd hi’n amlwg fod oriau o waith wedi’i dreulio ar y
berthynas rhwng y pedwar, ac roedd y gwrthdaro a’r rhamant, y cystadlu a’r
cecru yn amlwg o’r cychwyn cyntaf. Braf
gweld pedwar actor mor hamddenol gartrefol ar lwyfan, ac yn defnyddio (a
dinistrio) pob modfedd o’r berllan dawel a thaclus, erbyn y diwedd.
Cynhyrchiad
fyddai’n ei gofio am beth amser am ei daclusrwydd a’i ddealltwriaeth o’r
cyfrwng theatrig. Yn anffodus, mae’r cynhyrchiad bellach wedi dod i ben. Ond
mae blas ohoni yma :
No comments:
Post a Comment