Total Pageviews

Friday 1 July 2011

'Betty Blue Eyes'







Y Cymro – 01/07/11

Bu cryn dipyn o sôn am y ddrama gerdd ‘Betty Blue Eyes’ cyn imi gyrraedd Llundain nôl yn 2007, ac ymhell cyn i’r cynhyrchiad presennol ymgartrefu yn Theatr Novello, yn yr Aldwych, ar ben uchaf y Strand yma yn Llundain. Roedd y bartneriaeth greadigol Stiles and Drewe wedi bod yn cyd-weithio ar yr addasiad o ffilm enwog Alan Bennett a Michael Mowbray ‘ A Private Function’ ers blynyddoedd, a chyda chefnogaeth eu cyfaill cefnog Cameron Macintosh, a 2.5 o filiynau o bunnau, bellach mae’r sioe ar ei thraed, ac yn werth ei gweld.

Bu George Stiles ac Anthony Drewe yn cyd-weithio efo Cameron ers blynyddoedd, gan gynnwys cyfansoddi deunydd newydd ar gyfer y ddrama gerdd ‘Mary Poppins’ a welais rai blynyddoedd yn ôl. Yr hyn sy’n apelio am eu gwaith imi yw’r alawon canadwy a chofiadwy, sy’n felfed i’r glust a’r galon, ac sy’n aros yn y cof ymhell wedi gadael y theatr.

Mae’n stori fechan, glyd, sydd i’w brofi orau o resi blaen y theatr. Yr agosatrwydd a pherfformiadau cadarn, cynnil a comediol y cast cryf sy’n cynnal y stori Brydeinig hon. Wedi’i gosod ym 1947, a’r Rhyfel Byd ar ben, mae’r gymuned gyfan yn gorfod gneud y tro a’u llyfrau dogni, a’u dogn prin o gig sy’n arwain at galon y gloren flasus o’r clasur hwn. Yn gefnlen i’r cyfan, mae’r Briodas Frenhinol, y Dywysoges Elizabeth a Philip Mountbatten, ac awydd y crach i gael pryd enfawr o’r cig gorau, er mwyn dathlu achlysur arbennig hwn. Dyma sy’n arwain y cyfan at ‘Betty’, sef y mochyn pinc delia’ welsoch chi erioed, a’i llygaid glas sy’n ddigon i doddi calon y caletaf. ‘Betty’ y mae pawb yn brwydro drosti, ac sy’n ennill y dydd i bawb ar ddiwedd y dydd (gan gynnwys y Frenhines ei hun!)

Y meddyg traed ‘Gilbert Chilvers’ (Reece Shearsmith) a’i wraig bigog ‘Joyce’ (Sarah Lancashire) sy’n arwain y stori, sy’n byw’n llwm a’u prydau o Spam, wrth warchod mam ‘Joyce’ (Ann Emery). Canmol bysedd dewinol ‘Gilbert’ wna holl wragedd y gymuned, wrth iddo drin eu hanhwylderau traedol, ac mae’r gân ‘Magic Fingers’ ymhlith y gorau yn y sioe wrth i ‘Mrs Roach’ (Annalisa Rossi), ‘Mrs Lester’ (Gemma Wardle) a ‘Mrs Turnbull’ (Rachael Archer) ddianc o lymder a thristwch eu bywydau unig gan doddi yn ei ddwylo medrus.

Y dyn drwg, hanfodol, i bob drama dda yw ‘Inspector Wormold’ (Adrian Scarborough) neu’r ‘arolygydd cig’ sy’n ceisio dal unrhyw ffarmwr neu gigydd sy’n meiddio torri’r rheolau, gan fagu neu werthu unrhyw anifail, sydd ddim yn dod o dan y drefn dogni. Y gosb lywodraethol swyddogol yw paentio’r cig yn ‘regulation green’ sy’n ei wneud yn anfwytadwy. Sefyllfa hollol hurt, fel mae’r ddrama gerdd yn ei brofi.

Dyma ddarlun o gymuned ar ei chythlwng, yn fodlon gneud unrhyw beth er mwyn cael llond eu boliau a phryd blasus. Er mai bychan (ac efallai’n rhy wan i rai) yw’r stori graidd, yr hyn sy’n codi’r cyfan i dir uchel y ddrama gerdd yw dihangfa gerddorol y cymeriadau a’r munudau o fawredd theatrig o waith yr arch-gyfarwyddwr Richard Eyre a Choreograffi celfydd Stephen Mear. Rhowch y cyfan o fewn set liwgar a symudol Tim Hatley, a’u gwisgoedd cyfnod cywir, heb sôn am bresenoldeb ‘Betty’ sy’n werth pris y tocyn ynddo’i hun.

Gredwch chi ddim, ond mi welais y cynhyrchiad ddwywaith o fewn tridiau! Y tro cyntaf yn absenoldeb yr enw mawr Sarah Lancashire fel ‘Joyce’ a’i dirprwy Kirsty Hoiles yn serennu gan mil gwell yn ei lle. Mae portread y ddwy mor wahanol, ac roedd cynildeb ac anwyldeb Hoiles yn gweithio’n llawer gwell. Felly hefyd yr eildro yn absenoldeb Reece Shearsmith y tro hwn, wrth i Neil Ditt gymryd ei le fel ‘Gilbert’, ac roedd ei berfformiad gystal os nad gwell na’r gwreiddiol. Arwydd sicr bod y deunydd yn ddigon cryf ynddo’i hun, heb angen am yr enwau mawr .

Os ar ymweliad â’r ddinas, ceisiwch da chi i ddal y sioe hyfryd hon; mae tocynnau’r rhes flaen mor rhad ag £20, ac er na welwch chi gefn y llwyfan, mae’r agosatrwydd yn werth y profiad. Sioe gynnes, glyd a gwefreiddiol, mor flasus â rhost o’r porc gorau, ar bnawn dydd Sul!

Mae ‘Betty Blue Eyes’ yn Theatr y Novello. Mwy o fanylion a blas o’r sioe drwy ymweld â www.bettyblueeyesthemusical.com

No comments: