Y Cymro – 23/09/11
Dwi di sôn droeon yn y golofn hon, am bwysigrwydd gweld y cynyrchiadau gorau posib o ddramâu Shakespeare, er mwyn gwerthfawrogi dawn y dewin drama i’n hudo a’i straeon hud a lledrith neu i lawr llwybrau hanes. Gyda phob cynhyrchiad gwahanol, daw haenau newydd i’r golwg, yn ôl dadansoddiad yr actor neu’r cyfarwyddwr. Dyna yn wir sydd wedi cadw gwaith y bardd yn fyw dros yr holl flynyddoedd, a’i neges Oesol yn cael anadl newydd, yn sgil y dechnoleg ddiweddara neu stad Wleidyddol y byd sydd ohoni.
Dwy ddrama'r wythnos hon, dau begwn o’i waith, dau ‘seren’ adnabyddus yn y prif rannau a dau gynhyrchiad sydd wedi sicrhau adolygiadau canmoladwy yn y Wasg Genedlaethol.
Fy addysgu am hanes y dihiryn o Frenin ‘Richard III’ oedd fy mhrofiad cyntaf, a hynny ar lwyfan dwfn yr Old Vic, gyda neb llai nag arweinydd artistig y theatr, Kevin Spacey, yn annerch y gynulleidfa, gyda’r agoriad enwog “Now is the winter of our discontent, Made glorious summer by this sun of York”. Gorwedd yn ddiog o dan goron bapur o gracer wna ‘Richard, Dug Caerloyw’ yn cellwair am ei fwriad o gael dwyn y frenhiniaeth oddi wrth ei deulu, a’r dras Frenhinol. Addysgu’r werin am hanes eu gwlad oedd un o brif fwriadau Shakespeare, gyda chyfresi o ddramâu am y Brenhinoedd megis Harri’r IV, Harri V a Harri’r VI yn cael eu cyflwyno bron fel penodau o opera sebon i selogion theatrau Llundain. Hawdd y gallwn ninnau ddeall yr atynfa, yn sgil cyfresi tebyg i ‘The Tudors’ sy’n rhamantu a dramateiddio’r cyfnodau lliwgar hyn. Clod i’r Bnr Shakespeare a barodd i’r llanc hwn o Ddyffryn Conwy orfod creu dogfen o’r dras Frenhinol dros y canrifoedd, er mwyn deall lle, a sut y perthynai’r dihiryn hwn, ymysg y cewri coronog!
Heb os, mae gan Spacey ddawn hudolus a thrydanol i hawlio sylw unrhyw un, wrth hercian yn gloff o gwmpas y llwyfan, wrth arwain y stori at Frwydr enwog Bosworth ble y collodd y frwydr a’i fywyd, i fyddin Harri Tudur. Mawredd y ddrama a’r cynhyrchiad ydi tywys meddwl y gynulleidfa at arweinwyr unben megis Gadaffi a Mugabe, a’r gyffelybiaeth enfawr rhwng eu hawydd i lwyddo, er gwaetha pawb a phopeth, heb son am y gost ddynol a chreulon.
Llwyfannwyd y cyfan yn gyfoes, o dan gyfarwyddyd Sam Mendes gyda set o ddrysau caeedig Tom Piper yn ddwfn o gysgodion goleuo Paul Pyant. Tafluniwyd delweddau a geiriau pwrpasol ar y muriau moel i gyfeiliant môr o ddrymiau oedd yn cyfleu pŵer, nerth ac ofn y brenin i’r dim.
Gwnaed yn fawr o’r comedi a’r ffaith mai jôc o frenin mewn gwirionedd oedd Richard III. Hawdd oedd gweld mwynhad Spacey wrth daflu llinellau bwriadol o ddoniol Shakespeare i’r gynulleidfa. Doedd dim dianc i fod, a’i dranc yn anorfod, wedi’r holl ddrygioni. “A horse! a horse! my kingdom for a horse!” oedd ei gri olaf, cyn ei ladd ar faes y Gad.
Tair awr o adloniant ac addysg pur, a phrofiad unwaith mewn oes oedd bod yno.
Yn anffodus, mae Richard III wedi dod i ben yn yr Old Vic.
No comments:
Post a Comment