Total Pageviews

Friday 13 July 2007

'Sweeney Todd' a 'Men Without Shadows'




Y Cymro - 13/7/07

Dau leoliad a dau gynhyrchiad cwbl wahanol yr wythnos hon; mawredd Neuadd y Festival Hall ar ei newydd wedd ar gyfer cynhyrchiad hynod o gofiadwy o ‘Sweeney Todd - The demon barber of Fleet Street’ i symlrwydd caeth Theatr y Finborough, ar gyfer drama drawiadol Jean-Paul Sartre, ‘Men without Shadows’.

Pan glywais i ganol mis Mehefin bod Daniel Evans a Bryn Terfel am ddod at ei gilydd i berfformio drama gerdd gofiadwy Stephen Sondheim, ‘Sweeney Todd’, mi wyddwn i’n syth bod noson arbennig iawn o’m blaen. Er mai ond am chwe pherfformiad dros dridiau’ roedden nhw wrthi, roedd y tocynnau fel aur, a’r Festival Hall dan ei sang. I gyfeiliant Cerddorfa Ffilharmonig Llundain a thrwy gymorth Cantorion Maida Vale a myfyrwyr o Ysgol Ddrama Guildford, fe gawsom ein cyflwyno i’r ddrama-gyngerdd hon, efo’r cymeriadau yn actio’r rhannau heb set, ond ambell brop pwrpasol, a goleuo syml ond effeithiol.

Brenin y llwyfan oedd Bryn Terfel a bortreadodd y barbwr barbaraidd yn hynod o drawiadol; yn gymorth iddo roedd Maria Friedman fel y bythgofiadwy ‘Mrs Lovett’, yn llusgo’r cyrff i’w chegin gan ddefnyddio’r cnawd yn gig ynghanol ei pheis enwog! Daniel wedyn fel ‘Tobias’ yn cynorthwyo yng nghegin Mrs Lovett, ac sy’n cael y fraint ar ddiwedd y sioe o ladd y dihiryn. Er bod sawl actor arall yn rhan o’r stori, dyma’r tri a wnaeth argraff fawr arnaf, yn enwedig Maria Friedman a’m swynodd efo’i phortread comig ac eto’n gynnil o’r wrach-wraig ganol oed. Dyma gynhyrchiad arall sy’n brawf pendant o allu lleisiol Daniel Evans, ac roedd ei ddehongliad sensitif o’r gân ‘Not while I’m around’ yn un o uchafbwyntiau’r noson. Gobeithio’n wir y gwelwn ni gynhyrchiad llawn o’r gwaith, efo’r un cast, yn fuan iawn, iawn. Roedd hi’n fraint bod yn Gymro ar ddiwedd y sioe, wrth ymuno â gweddill y Neuadd oedd ar eu traed wrth gymeradwyo. Gwych iawn.

Yn wahanol i ‘Sweeney Todd’, wyddwn i ddim am waith Sartre cyn mynd i weld cynhyrchiad diweddara Theatr y Finborough, yn ardal Earls Court. Dyma un o’r theatrau bychan, uwchben tafarn sy’n britho Llundain ar hyn o bryd, ac sy’n hynod o werthfawr fel man cychwyn i gwmnïau a chynyrchiadau llai. Yma, os chwiliwch chi ddigon gofalus, y mae canfod y perlau ar hyn o bryd, a hynny am chwarter pris y theatrau mwy. Wrth wasgu ein ffordd i fyny’r grisiau, sylwi ar y llu o gynyrchiadau llwyddiannus oedd wedi cychwyn eu taith lenyddol yma, a chael ein cynghori i wasgu at ein gilydd gan fod y cyfan o’r 40 tocyn wedi’i werthu.

Mi gamais i’n llythrennol i mewn i’r ddrama, a chael fy hun ar lawr uchaf tŷ fferm yn Ffrainc ym mis Gorffennaf 1944. Efo’r Rhyfel yn ein hanterth, roedd y milice wedi carcharu pump o’r resistance yn yr ystafell, gan ddisgwyl yr alwad i fynd i’r llawr isaf i gael eu holi a’u harteithio.

Roedd yr awyrgylch yn anhygoel, ac mae’n glod i’r cyfarwyddwr Mitchell Moreno a’r cynllunydd Mamoru Iriguchi am greu'r fath densiwn ac ofn cyn i’r un actor yngan gair.

Mae’n rhaid enwi Charlie Covell a roddodd berfformiad sensitif iawn fel yr unig ferch ymhlith y dynion, a’i hofn a’i dychryn wedi cael ei threisio a’i harteithio. Felly hefyd gan Jamie Lennox fel ‘Henri’, Stephen Sobal fel ‘Sorbier’ a Sam Hodges fel eu harweinydd ‘Jean’ sy’n cael ei garcharu efo nhw, ac sy’n creu'r fath densiwn, sy’n arwain at eu cyfyng gyngor - a ddylent ei fradychu ai peidio?. Yn bersonol, doeddwn i ddim yn teimlo bod perfformiadau’r poenydwyr gystal â’r carcharorion, ac felly roeddwn i’n ei chael hi’n anodd credu yn y golygfeydd rhyngddynt.

Er gwaetha’r angen i faeddu mwy ar y set ac ar ddillada’r carcharorion, mi gefais i’n tynnu i mewn yn llwyr i’w stori, ac mi lwyddais i gydymdeimlo’n llawn â’u sefyllfa, ynghanol y gwres llethol am dros awr a hanner. Profiad arbennig iawn oedd bod yno, ond mae’r sioe bellach wedi dod i ben.

Yr wythnos nesaf, fyddai’n mynd â chi i theatr drawiadol y Globe yng nghwmni Shakespeare a’r Cymro Trystan Gravelle ac i briodas yn Baghdad, yn theatr y Soho.

No comments: