Total Pageviews

Friday 28 May 2010

'Peter Pan'




Y Cymro 28/05/10

Wedi blynyddoedd o wylio a gweithio ar sawl cynhyrchiad, dwi di penderfynu o’r diwedd, mod i’n casáu stori J.M.Barrie, ‘Peter Pan’. Cynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban fu’n gyfrifol am bennu’r ddedfryd, er bod eu cynhyrchiad lliwgar, dramatig a cherddorol yn dra diddorol. Gwendid y cyfan oedd y deunydd craidd.

Does dim dwywaith fod y stori hudolus am y bachgen ifanc sy’n gwrthod tyfu, ac yn fythol ifanc, wedi swyno darllenwyr a chynulleidfaoedd ers blynyddoedd. Does gen i ddim yn erbyn y syniad craidd, gan fod pob un ohonom yn ceisio cwffio henaint, yn mynnu cadw’r ysbryd yn ifanc, ond yr elfen pantomeimaidd wirion sy’n fy nrysu a’m gwylltio. Y ‘gelyn’ Capten ‘Hook’ a’r ‘dylwythen deg’ ‘Tinkerbell’, y crocodeil a’r cwffio, a’r famol ‘Wendy’ a’i thŷ bach twt a’r sanau bondigrybwyll! Grrrrrrrr!

Mae pob cynhyrchiad llwyfan o’r stori yn ceisio gogwydd newydd. O droi’r cyfan yn stori gyfoes, neu yng nghyd-destun yr Albanwyr, ar y cyd a’r Barbican yn Llundain, hawlio’r stori yn ôl i’r Alban, a daearu’r cyfan o gwmpas Pont Rheilffordd Forth yng Nghaeredin. Yr hyn mae’r dramodydd David Greig wedi ceisio’i wneud, yw canolbwyntio ar y flwyddyn 1890, pan roedd y bont ar fin ei chwblhau, a blwyddyn cyn nofel gyntaf Barrie. Yn ôl yr hanes, drwy gymorth nifer fawr o blant y cwblhawyd y gwaith, ac felly dyma greu’r byd cywir ar gyfer y ‘plant coll’ yn y stori wreiddiol.

Mae teulu’r Darlings yn ymweld â’r maes adeiladu, ac mae ‘Mr Darling’ (Cal MacAninch) yn prysur egluro pwysigrwydd y bont i’w blant ‘Michael’ (Tom Gillies), ‘Wendy’ (Kirsty Mackay) a ‘John’ (Roddy Cairns). Yn amlwg yn yr olygfa gyntaf mae’r gweithwyr ifanc, sy’n llenwi’r llwyfan a’r bont, ac yn taflu’r rivets poeth i’w gilydd (a gyfleuwyd yn grefftus iawn drwy allu theatrig y ‘cynllunydd delweddau’ Jamie Harrison) yn perthyn i fyd ‘Neverland’. Mae yma hefyd chwarae â thân, sy’n arwain yn gyfleus iawn at gyflwyno mwy o hud delweddol, yn ddiweddarach yn y sioe.

Ond, dyna ni. Wedi’r olygfa gyntaf wrth y bont, ryda ni yn ôl yn y stori wreiddiol, ac yn y llofft, ble y daw ‘Peter Pan’ (Kevin Guthrie) i ymweld â’r teulu, drwy hedfan (neu yn yr achos yma cerdded i lawr y Proseniwm!) i’r llofft. Oedd, roedd ganddo acen yr Alban gyfoethog, fel y cast cyfan, ond dyna’r cwbl oedd yn weddill o’r daearu Albanaidd. Wrth gyrraedd ‘Neverland’, roedda ni nôl yn y ‘Pantoland’, oni bai am kilt ‘Hook’ (Cal MacAninch)!

Yn weledol, roedd y cynhyrchiad yma yn dra gwahanol i’r arferol, gan fod y testun yn llawer mwy tywyll, a’r ‘Hook’ fron-noeth, benfoel a thatŵs drosto yn edrych yn ddychrynllyd, ond yn methu dianc rhag byd y Panto. Roedd y ‘Tinkerbell’ ddel arferol hefyd yn absennol, ac yn ei lle, pelen o dân oedd yn hedfan ar draws y llwyfan, ac yn cyfathrebu drwy sŵn y fflamau cras. Roedd yma lawer mwy o gwffio a lladd, a ‘Peter Pan’ ei hun yn oeraidd, unig, yn methu perthyn i fyd y plant, na gadael i ‘Wendy’ ei gyffwrdd. Ond dro ar ôl tro, er gwaetha ceisio creu byd tywyll i’r oedolion, roedd y stori’n mynnu tynnu’r cyfan yn ôl i fyd plant, i fyd ffantasi yn hytrach na realaeth.

Eto, i angori’r elfen Albanaidd, roedd y gwaith yn llawn o alawon ac offerynnau traddodiadol yr Alban, gyda ‘Mrs Darling’ (Annie Grace) yn ymddangos hwnt ac yma, i hiraethu’n gerddorol am ei phlant.

Dwi’n hoff iawn o waith y cyfarwyddwr John Tiffany, byth ers gweld ei ‘Blackwatch’ llwyddiannus y llynedd. (Cynhyrchiad fydd yn teithio unwaith eto yn yr Hydref) Ac er gwaethaf ei ymdrechion i greu byd gwahanol a’i driciau llwyfan theatrig, y pennaf wendid imi oedd y llinyn trwchus oedd yn sownd i gefn ‘Peter Pan’ drwy’r cyfan! Iawn, dwi’n derbyn bod yn rhaid iddo hedfan, ond siawns y gellid fod wedi bod yn llawer mwy cynnil gyda hyn.

Ymateb cymysg felly i brif gynhyrchiad yr NTS eleni fu’n hynod o uchelgeisiol, ond a ddisgynnodd rhwng dwy stôl, a dau fyd, a rhwng hedfan a boddi.

Mae ‘Peter Pan’ i’w weld yn y Barbican, Llundain tan y 29ain o Fai. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.nationaltheatrescotland.com

No comments: