Total Pageviews

Friday 18 June 2010

'Fantasticks'


Y Cymro - 18/06/10

O’r llwyddiannus, at y llai llwyddiannus, a’r ddrama gerdd hir ddisgwyliedig, a’r hir dreuliedig ar Broadway, ond fydd yn cau yn Llundain, cwta wythnos wedi’r adolygiad yma ymddangos yn Y Cymro! Sôn ydw’i am y ‘Fantasticks’ sydd wedi ymgartrefu dros dro yn Theatr y Duchess. Dyma ddrama gerdd sydd wedi achosi cryn boen meddwl imi; allai’m dweud mod i wedi ei fwynhau, ac eto tydwi ddim yn ei gasáu chwaith. Drama gerdd hynod o syml, slic, sentimental a bwriadol blentynnaidd yn y bôn, am ddau gariad ifanc, y Romeo (Luke Brady) a’r Juliet (Lorna Want) sy’n byw drws nesa i’w gilydd, gyda’u tadau gwrthgyferbyniol, sy’n cyd-fyw ac yn cyd-gynllunio dyfodol priodasol eu plant. Er ceisio gwahardd y ddau rhag gweld ei gilydd ar y cychwyn, drwy godi wal enfawr yn yr ardd, buan fe dry’r cynllwyn yn llawer mwy sinistr gan drefnu herwgipio’r ddau, er mwyn cryfhau eu serch a’u cariad. Ac yn wir, fe lwydda’r cynllun hyd ddiwedd y rhan gyntaf, ond wedi’r egwyl, mae’r hapusrwydd yn cilio, ac fe dry’r holl lawenydd a’r cariad yn gasineb a phoen, yn artaith ac anobaith.

Wyddwn i fawr ddim am y ddrama gerdd cyn cyrraedd y theatr, dim ond ei bod hi’r ddrama gerdd hira’ i gael ei pherfformio ar Broadway - ers y chwedegau yn ddi-dor. Beth felly sydd mor arbennig amdani? Heb os, roedd y symlrwydd yn apelio, gyda’r actorion i gyd yn rhannu’r driongl o lwyfan y set, a’r elfen bantomeimaidd bron yn cadw’r cyfan yn fyw. Roedd y stori garu yn gweithio, a’r gerddoriaeth o dan arweiniad y gân hudolus ‘Try to Remember’ yn cynnal. Roedd doniolwch y ddau ‘actor’ profiadol, (Edward Petherbridge a Paul Hunter) sy’n fwriadol dros-ben-llestri o ddramatig yn ddiddorol a doniol. Ac eto, doedd y cyfanwaith ddim yn ddigon i’m diddori gant y cant, ac yn sicr ddim yn ddigon i’m denu yn ôl i weld y gwaith dro ar ôl tro.

Blas o’i gyfnod dwi’n credu yw’r brif fantais, sydd o bosib yn perthyn i’w gartref llawer llai ar Broadway, yn hytrach nag ehangder theatr mwy. Fel gyda’r ddrama ‘Enron’, roedd yn llwyddiant ysgubol yma, ac eto’n fethiant trychinebus ar Broadway. Rhyfedd o fyd. Well i minnau lynu at fyd y theatr, a chadw draw o’r meysydd pêl-droed!

No comments: