Y Cymro – 04/03/10
Mae’r patrwm o ddenu ‘seren’ o raglen deledu neu ffilm yn parhau i fod yn fformiwla lwyddiannus yma yn Llundain, ac yn sicrhau gwerthiant uchel rhag blaen i gynhyrchiad newydd. Kim Cattrall o’r gyfres ‘Sex in the City’ ydi’r ysglyfaeth diweddara i gyrraedd y West End, yng nghomedi clasurol Noël Coward, ‘Private Lives’ yn Theatr Vaudville ar y Strand.
Drama am ddau gwpl sy’n cyrraedd yr un gwesty, ar eu mis mêl, yw’r stori graidd, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf, diolch i ddialog llithrig a llawn llysnafedd Coward, nad ydi’r bywyd priodasol mor berffaith â’r disgwyl i’r naill na’r llall. Wrth i ‘Elyot’ (Matthew Mac Fadyen) a ‘Sybil’ (Lisa Dillon) ymddiddan ar eu patio moethus yn Normandi, Ffrainc, yn ddiarwybod iddynt, mae cyn wraig ‘Elyot’, ‘Amanda’ (Kim Cattrall) yn ymddiddan gyda’i gŵr newydd ‘Victor’ (Simon Paisley Day ) ar y patio drws nesa! Wedi adnabod ei gilydd, mae’r cyn ŵr a gwraig yn ceisio’u gorau i berswadio eu partneriaid newydd i adael y gwesty rhag blaen, ond er gwaetha’r crefu, buan y sylweddolwn nad oes fawr o ddyfodol i’r ddau gwpl. ‘Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd’ medd yr hen air, ac erbyn diwedd yr act gyntaf, mae yma danllwyth o goelcerth angerddol a’i wres yn ddigon i ddenu pawb yn ôl i’r ail act!
Fflat moethus Amanda ym Mharis yw lleoliad yr ail act, a rhai dyddiau yn ddiweddarach, mae’r angerdd a’r hen gecru yn amlwg. Cytuno i anghytuno mae’r hen gariadon, a’r naill fel y llall yn gorfod defnyddio’r term “sollocks” fel modd i dawelu’r dadlau ffyrnig - y dadlau a roddodd y diwedd ar eu priodas dair blynedd, ac a barodd i’r ddau fod arwahan am bum mlynedd! Ynghanol y dadlau, ar ddiwedd yr ail act, mae Victor a Sybil yn cyrraedd, i ganfod y llanast rhyfedda yn y fflat, a’u partneriaid yng ngyddfau’i gilydd.
Wedi’r fath adeiladwaith, braidd yn dila oedd y drydedd act, wrth i Coward geisio dod â’r cyfan i ganlyniad taclus. Trwsgl oedd y cyfan imi, a’r awgrym fod ‘Sybil’ a ‘Victor’ bellach yn dilyn yr un patrwm yn syrffedus o gyfleus. Gorddibyniaeth ar y cyd-ddigwyddiadau oedd fy mhrif broblem efo’r ddrama, ynghyd â hiwmor gor Brydeining Coward, wrth i ddwsinau o linellach bachog lithro oddi ar dafodau melfedaidd Mac Fayden a Cartrall.
Cryfder y cynhyrchiad oedd set odidog, art deco Rob Howell, yn enwedig yn yr ail act, wrth gyfleu holl foethusrwydd y fflat modern ym Mharis, efo’i soffa ar dro a’i danc pysgod hynod o ddiddorol a ffasiynol. Roedd safon actio'r pedwar cymeriad hefyd yn uchel iawn dan gyfarwyddyd Richard Eyre.
Rhaid cyfaddef bod y gynulleidfa hŷn, Brydeinig eu naws, wedi llwyr fwynhau’r cyfan, ac yn glanna o chwerthin dro ar ôl tro. Ond i fachgen o Ddyffryn Conwy, sy’m cweit yn gwerthfawrogi clyfrwch Coward, un jôc yn ormod oedd y cyfan imi.
Mae ‘Private Lives’ i’w weld yn y Vaudville tan Mai 1af. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.nimaxtheatres.com
No comments:
Post a Comment