Total Pageviews

Friday 5 March 2010

Ateb yn ôl (eto!)

Y Cymro 05/03/10

Wedi misoedd o dawelwch, yn fwriadol felly, mentrais yn ôl i dudalennau’r Cymro i fynegi barn ar gynhyrchiad olaf y Theatr Genedlaethol, o dan arweiniad Cefin Roberts. O be welai o’r adolygiadau eraill o ‘Y Gofalwr’, doedd fy llith beirniadol ddim yn bell o’r farn gyffredinol. A dyma ddod at lythyr damniol y Bnr Huw Roberts, Caernarfon yn Y Cymro’r wythnos diwethaf (rhifyn 26 Chwefror). Mae’n dda fod fy nghefn i’n ddigon llydan dyddiau hyn, i dderbyn holl saethau gwenwynig gan y Cofi cas!

I ddarllenwyr cyson Y Cymro, fe wyddoch nad dyma’r tro cynta’ imi gael fy meirniadu am feiddio deud pethe cas am y Theatr Genedlaethol! Trist o beth yn yr unfed ganrif ar hugain! ‘Wedi cael llond bol ar y sgwennu plentynnaidd... a chwerthinllyd’ oedd ei gŵyn cyntaf, cŵyn y medrwn innau daro’n ôl ato yntau, wedi darllen ei lythyr cyfan! ‘Cynnig truenus i greu pennawd’ oedd ei ymosodiad nesaf, am imi feiddio dweud bod y Theatr Genedlaethol wedi gwastraffu saith miliwn o bunnau dros y saith mlynedd o siom diwethaf! Barn bersonol oedd y datganiad hwnnw - mae gan bawb ryddid i ddatgan hynny, os nad ydi cyfraith y Cofi cas yn erbyn hynny hefyd!

Siom yn wir a gefais i (bron) bob tro gan arlwy’r Theatr, a dyna pam y dewisais i beidio mynd i weld rhai o’r cynyrchiadau diwethaf, gan gynnwys ‘Ty Bernanda Alba’ na ‘Tyner yw’r Lleuad heno’, gan nad oeddwn i’n dymuno ychwanegu at y feirniadaeth oedd eisoes yn corddi. Tydwi erioed wedi cytuno gyda phenodiad Cefin, a heb weld dim i gyfiawnhau hynny. Sawl drama (neu ddramodydd) newydd a gafwyd yn sgil gwario’r fath arian? Sawl cynhyrchiad sydd wedi tanio trafodaeth danbaid ar Wleidyddiaeth Cymru, neu sydd wedi rhoi gwedd newydd ar hen chwedl, stori neu ddigwyddiad? Sawl cynhyrchiad sydd wedi rhoi llwyfan i enwau mawr, byd y Theatr yng Nghymru, neu sydd wedi gwthio ffiniau’r theatrig mewn modd y bydd pawb yn cofio amdano am amser hir? Falle y gall y Bnr Roberts gynnig esboniad o ‘werth’ y gwario a fu, ar y Drasiedi Fawr o gychwyn y Theatr Genedlaethol Gymraeg?

Tybed os mai hwn yw’r un ‘Huw Roberts’ a fu’n ceisio’n ddyfal i gysylltu â mi, nôl yn 2007, er mwyn datagn ei gefnogaeth i fy sylwadau ar y Theatr Genedolaethol, ond ei fod, ‘oherwydd natur ei swydd’ yn rhy llwfr i ddweud hynny’n gyhoeddus?

‘Hunandwyll’ yw’r ymosodiad nesaf, a’r awgrym fy mod i’n ceisio ‘portreadu fy hun fel arbenigwr ar Pinter’, am fy mod i ‘wedi gweld cynhyrchiad o’r ddrama yn Llundain’. Does ryfedd fod y Cofi cas wedi hurtio’n llwyr, gan ei fod yn amlwg heb ddarllen fawr ddim ar fy ngholofn yn Y Cymro dros y tair blynedd diwethaf! Cyfaddef fy mod i’n ffan mawr o waith Pinter wnes i, yng nghyd destun ‘Y Gofalwr’, felly hefyd ar raglen Y Celfyddydau ar BBC Radio Cymru, wythnos ynghynt. Petai’r Bnr Roberts wedi treulio mwy o amser yn DARLLEN fy ngeiriau, yn hytrach nag weld beiau, falle y byddai wedi gweld fy adolygiad o ‘The Birthday Party’ ac ‘Old Times’ (Mai 2006), ‘Being Harold Pinter’ (Chwefror 2008), ‘The Lover’ ac ‘The Collection’ (2007) heb sôn am ddarllen pob drama o’i eiddo, ac wedi gwylio sawl fersiwn teledu ohonynt, a chael y cyfle i gwrdd â’r dyn ei hun, cyn ei farw ym 2008. Falle fod hyn yn rhoi mymryn mwy o hawl imi feiddio rhannu fy sylwadau, ac yn fwy o reswm i’r Bnr Roberts ymarfer un o ddoniau mwyaf Pinter, sef saib hir o dawelwch!

‘Er mwyn ennill edmygedd fel adolygwr rhaid medru dangos profiad’ meddai wedyn; wel sut mae mesur ‘profiad’ hoffwn i wybod? Ydi ymweld â’r theatr ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos ddim yn ddigon? Ydi adolygu dros 300 o gynyrchiadau fymryn nes at y lan? Ydi gweithio o ddydd i ddydd gyda chyfarwyddwyr, cynllunwyr a choreograffwyr gorau’r Wlad, neu reoli 18 o gynyrchiadau theatr bob blwyddyn yn golygu dim? Neu beth am sefydlu cwmni drama pan yn 13oed, ymweld â’r theatr ers yn ddeg oed neu ddarllen cannoedd o gyfrolau am hanes y ddrama yng Nghymru, yn ddigon ganddo? Faint o’r ‘priodoleddau’ yma sy’n perthyn i’r Bnr Roberts tybed?

A’r insylt mwyaf, yw’r hen hen ddadl ‘blentynnaidd’ a ‘chwerthinllyd’ a defnyddio dau derm y bydd y Cofi cas yn hen gyfarwydd â hwy, sef y ddadl o ‘feirniadu’ yn ‘bersonol’. Am imi feiddio deud gair cas am rywun, yna mae’r ddadl yn ‘bersonol’ yn hytrach na’n ‘greadigol’. Rybish llwyr, a dyna yw gwendid a melltith fwyaf y Theatr yng Nghymru. Yr angen am feirniadu a thrafodaeth gyhoeddus yw’r iachâd sydd angen arnom. Diolch i’r Cymro am gael yr hyder i gyhoeddi erthyglau sy’n codi trafodaeth, fel dwi’n gobeithio y bydd llythyr dienw am y ‘Theatr yn methu cyrraedd targedau cynulleidfaoedd’ a welwyd o dan ymosodiad pitw y Cofi cas, yn ei wneud!

Mae gennym, yn y cwmni Theatr Genedlaethol, obaith a photensial am chwip o lwyfan creadigol a gwleidyddol; y cyfan sydd angen yw dwylo a meddwl medrus a phrofiadol i gyflawni’r cyfan, gyda Bwrdd o arbennigwyr i’w cefnogi. Rhaid cychwyn eto gyda lleisiau a meddyliau agored; anghofio’r ffars a’r Drasiedi a fu, gan greu gwir Gwmni Cenedlaethol sydd â dyfodol y Theatr Gymraeg wrth ei wraidd, yn hytrach na stabal i ego’s personol ac ail-gyflwyniadau syrffedus o ddyddiau a fu. Petai’r Bnr Roberts yn deffro o’i drwmgwsg, ac yn mentro i’r Ŵyl yng Nghaeredin, neu i lwyfannau llai Llundain, falle y byddai’n gweld pa mor druenus o dila oedd gweledigaeth Cefin, hyd yma.

Roeddwn i wedi gobeithio adolygu perfformiad rhagorol Connie Fisher yng nghynhyrchiad teithiol o ‘The Sound of Music’ a welais yn Nhŷ Opera Belfast, tros y penwythnos, neu berfformiad godidog y Cymro Roger Rees yn ‘Waiting for Godot’ yn yr Haymarket, a welais yr wythnos diwethaf, ond diolch i’r Bnr Roberts, amddiffyn fy hun yn hytrach nag adolygu y bu hi’r wythnos hon. Cynhyrchiad hir ddisgwyliedig o’r dilyniant i ‘Phantom of the Opera’ dan yr enw ‘Love Never Dies’, cynhyrchiad newydd o ‘Ghosts’ Ibsen, ‘Private Lives’ Noel Coward a chynhyrchiad Daniel Evans o ‘An Enemy of the People’ yw’r arlwy yr wythnos hon; ydi hynny’n ddigon am un wythnos Mr Roberts...?

No comments: