Total Pageviews

Friday 5 June 2009

'A Doll's House'



Y Cymro – 5/6/09

Mae clec y drws ar ddiwedd y ddrama ‘Tŷ Dol’ gan Ibsen yn un o’r digwyddiadau mwyaf dramatig ym myd y theatr. Heb os, fe newidiodd feddwl cynulleidfaoedd y cyfnod, gan agor y drws ar feddylfryd newydd yn yr Oes Fictoria. Roedd agwedd a phenderfyniad prif gymeriad y ddrama, y fam a’r wraig ‘Nora’, i adael ei gŵr a’i theulu yn dipyn o glec, a honno’n glec sydd i’w deimlo hyd heddiw.

Addasiad Zinnie Harris o glasur Ibsen yw cynhyrchiad diweddara'r Donmar Warehouse, a chynhyrchiad roeddwn i’n ffodus iawn o fedru cael tocyn i’w weld. Mae’r ddrama wreiddiol wedi’i dreisio yn ôl rhai beirniaid, gan fod yr addasydd wedi ail leoli’r ddrama yn Llundain ym 1909 yn hytrach na Norwy 1879. Aeth ‘Nora Helmer’ yn ‘Nora Vaughan’ (Gillian Anderson) a’i gŵr ‘Torvald’ yn ‘Thomas’ (Toby Stephens). Cael ei thrin fel dol mae’r ‘Nora’ blentynnaidd gan ei gŵr busnes hunanol, a phan ddaw cysgodion a chyfrinachau ddoe yn ôl i ysgwyd y teulu, mae’r ‘llygoden fach’ yn troi’n deigr ffyrnig, gan frathu’i gŵr a newid eu byd.

Llwyddiant yr addasiad yw lleoli’r cyfan ynghanol gwleidyddion Llundain, a sawl llinell am onestrwydd yn denu môr o chwerthin yn yr hinsawdd bresennol. Llithrodd y llinellau slic o enau’r actorion mor rhwydd â’r arian i goffrau’r gwleidyddion. Roedd ambell i air fel ‘sod’ a ‘testicles’ yn anghyffyrddus o anaddas yn y cyfnod dan sylw, ond fe weithiodd yr addasiad yn fy marn i.

Gillian Anderson fel ‘Nora’ yw prif atyniad y cynhyrchiad, a’r cynulleidfaoedd yn heidio yno i weld seren y gyfres ‘X Files’ yn dod ag urddas a phortread hynod o gofiadwy o’r cymeriad unigryw yma. Roedd hi’n fraint ei gwylio, yn enwedig wrth i’w chymeriad newid o’r naïf i’r nerthol, o’r hudol i’r ymosodol, a’r cyfan er mwyn ei gŵr, sy’n hunanol ddall i’r cyfan. Felly hefyd gyda pherfformiad Toby Stephens fel y gŵr sy’n cyd weithio’n berffaith gyda’r foneddiges Anderson. I ychwanegu at y cast cryf mae’r cyn ‘Dr Who’ Christopher Eccleston fel y cyn wleidydd ‘Neil Kelman’ sy’n portreadu’r cyfreithiwr drwgdybus ‘Krogastad’ yn y gwreiddiol. Twyll a blacmel er mwyn ceisio adennill ei enw da yw prif fwriad ‘Kelman’, ac mae’r ffaith bod ‘Nora’ wedi benthyg arian ganddo er mwyn helpu’i gŵr yn fêl ar ei fysedd. Doedd portread Eccleston ddim yn taro deuddeg cystal â’r ddau arall, er iddo wella yn y drydedd act wrth i ddiwedd taclus nodweddiadol Ibsen ddod â’r cyfan ynghyd.

Hoffais yn fawr set drawiadol Anthony Ward drwy leoli’r digwydd yn y llyfrgell Fictorianaidd hanner gwag, gyda’r bocus o lyfrau blith draphlith a’r goeden Nadolig moel yn drawiadol iawn. Roedd defnyddio mynedfa’r theatr fel prif ddrysau’r ystafell yn effeithiol iawn, yn enwedig felly gyda chymorth goleuo Hugh Vanstone a’i gysgodion yn ddigon i yrru ias oer i lawr fy nghefn.

Symlrwydd cynhyrchiad Kfir Yefet oedd yn apelio ac addasiad modern Zinne Harris yn ychwanegu at rwyddineb y gwrieddiol. Mae ‘A Doll’s House’ i’w weld yn y Donmar tan y 18fed o ‘Orffennaf. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.donmarwarehouse.com

No comments: