Total Pageviews

Wednesday 27 May 2009

'Ffawd'


Y Cymro – 29/05/09

Wrth i Fae Caerdydd gael ei foddi yn y môr o goch, gwyn a gwyrdd, achubais ar y cyfle o fedru dianc i lawr yr M4, ac ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, er mwyn gweld cynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid y Mudiad, sef ‘Ffawd’ yng Nghanolfan y Mileniwm.

Dwi di bod yn edrych ymlaen ers tro i weld y sioe hon, byth ers clywed y sôn cyntaf amdani yn ystod seremoni cyhoeddi’r Eisteddfod dros flwyddyn yn ôl. ‘Noa’ oedd y teitl bryd hynny, ac o sylwi mai ‘Ffawd’ oedd y teitl bellach, roeddwn i’n edrych ymlaen am weld cynhyrchiad cyfoes o’r epig Feiblaidd. Yn sicr roedd llwyfan Canolfan y Mileniwm yn ddigon mawr i gynnal yr holl anifeiliaid heb sôn am yr arch a’r dymestl. Roedd y ffaith bod beirdd, awduron a chyfansoddwyr amlwg y genedl ynghlwm â’r prosiect hefyd yn gynhyrfus, a thîm creadigol cryf i dynnu’r cyfan ynghyd.

Ond, mae’n amlwg fod blwyddyn yn amser hir, ac am ryw reswm, hysbys ai peidio, diflannodd ‘Noa’ a’r ‘Beibl’, ac fe gyflwynwyd stori gyfoes am deulu gwledig yn delio gyda torrbriodas, newid hinsawdd, melinau gwynt a dihirod byd busnes. Pynciau cyfoes heb os, ac ymgais gref gan Siwan Jones, Catrin Dafydd a Tudur Dylan Jones i ddelio gyda themâu sy’n berthnasol iawn i bobl ifanc heddiw. Amgylchynwyd y cyfan gan ddoethineb y ‘Traethydd’ (Ceri Wyn) oedd yn personoli ‘ffawd’ drwy gyfres o ymsonau barddonol am lwybrau bywyd - adlais sicr o’r Corws o gyfnod y Groegiaid.

Cyflwynwyd inni’r teulu, y fam ‘Marion’ (Elliw Mai) a’r tad ‘Dai’ (Garmon Rhys), y plant ‘Dylan’ (Steffan Harri Jones), ‘Cez’ (Ffion Llwyd) a ‘Seimon’ (Tom Rhys Harries), yna’r gŵr drwg, y dihiryn busnes ‘Richard Llywelyn’ (Rhys Owain Ruggiero) sy’n cipio calon y fam, ac yn chwalu’r teulu er mwyn cael meddiant ar y ‘cae top’ er mwyn agor maes carafannau yno. Ond mae gan y tad fwriad arall i’r ‘cae’, bwriad mwy gonest a gwleidyddol gywir, sef i godi melin ynni gwynt, er mwyn helpu’r amgylchfyd ac achub y genedl.

Roedd y cyfan fel pennod o’r gyfres ‘Pobol y Cwm’, wrth i’r da drechu’r drwg dros gyfiawnder teuluol a bydol. Er mwyn ychwanegu ychydig o hiwmor, ychwanegwyd golygfeydd yn y Capel, wrth i’r ‘hen ferched’ a’u ffyn yn eu siwtiau Sul a’u hetiau mohair godi arian i gynorthwyo’r tad i godi’r felin wynt, ac i achub y pentref rhag rhaib byd busnes.

Er cystal perfformiadau bob un o’r cast cenedlaethol, a chyfarwyddo creadigol Carys Edwards i ddod â’r cyfan ynghyd, allwn i’n peidio digalonni o glywed a gweld y deunydd a gomisiynwyd ar gyfer y cwmni. Roedd y sgript yn llawn o gymeriadau stoc stêl, roedd y golygfeydd yn rhy fychan a theledluol i lwyfan y brifwyl a’r gerddoriaeth yn gymysgfa o themâu ac arddulliau mor wahanol i’w gilydd. Roeddwn i wedi syrffedu ar areithiau gor-felys, nawddoglyd y ‘Traethydd’ a mynegiant gor-farddonol ,eisteddfodol, Ceri Wyn yn anaddas i gynhyrchiad fel hwn.

Roedd angen am gymeriadau mwy solet, credadwy a cyfoes yn amlwg. Dwi’n siŵr bod y cwmni ifanc yn crefu am ddeunydd mwy swmpus, dramatig i fynd i’r afael ag o; i gael eu dannedd i fêr esgyrn cymeriad. Petai’r ‘Traethydd’ ddim ond wedi personoli’r cymeriad, ac wedi’r cyflwyno’r geiriau doeth fel un o gymeriadau’r pentref, yn hytrach na’r duw doeth mewn siwt dywyll, byddai’r cyfan wedi asio’n well. Roedd yr un peth yn wir am weddill y cymeriadau, y teipiau amlwg ar lwyfan yr Urdd bellach o’r hen ferched y Capel a’r gweinidog rhwystredig eiddil i’r dyn busnes drwg a’i gynghorwyr dan din.

Collwyd cyfle euraidd i gael chwip o sioe gyfoes gynhyrfus ar lwyfan Canolfan y Mileniwm , ac mae hynny’n bechod mawr. Byddai ‘Noa’ wedi bod yn destun llawer gwell, a’r cyfle i’r criw ifanc drwy goreograffi creadigol i ddefnyddio’u gallu corfforol i bortreadu’r llu o anifeiliaid gwahanol, gan roi i bob anifail ei gymeriad unigryw, wrth wynebu’r storm enbyd ddramatig.

Ond, mae blwyddyn yn amser hir. Digon hir gobeithio i greu prosiect cryfach ar gyfer y dalent ifanc amlwg sy’n ei haeddu.

No comments: