Total Pageviews

Friday 15 May 2009

'Wuthering Heights'


Y Cymro – 15/5/09

Gwedd newydd ar hen Glasur oedd ar y fwydlen yr wythnos hon! Cynhyrchiad Cwmni Tamasha sy’n datgan yn hyderus fod ‘Brontë’n mynd i Bollywood’ wrth roi gwedd Indiaidd ar unig nofel Emily Brontë, ‘Wuthering Heights’.

Cafodd y nofel wreiddiol ei gyhoeddi ym 1847, o dan y ffugenw ‘Ellis Bell’, a’i ail-gyhoeddi’n ddiweddarach, wedi’i olygu gan ei chwaer, Charlotte. Plasty ar fryniau anial Swydd Efrog rydd y teitl i’r gwaith, a’r tywydd tymhestlog yn addas iawn i ddisgrifio’r lleoliad a’r gwrthdaro rhwng y teulu sy’n trigo oddi mewn. Carwriaeth serchus amhosib ‘Heathcliff’ a ‘Catherine Earnshaw’ yw’r brif thema, a’i effaith dinistriol, nid yn unig arnynt hwy, ond ar bawb sy’n croesi’u llwybrau.

‘Shakuntala’ ( Youkti Patel ) merch benstiff o danllyd i farsiandwr berlysiau yw’r prif ffocws yn yr addasiad cerddorol yma, draw yn Theatr y Lyric, Hammersmith. Pan ddaw’r tad gartref gyda llanc ifanc, golygus o dlawd, o’r slymiau, mae’n rhaid i’r ddau ddysgu byw o dan yr unto, wrth i ‘Krishan’ (Pushpinder Chani ) gael ei dderbyn yn un o’r teulu. O’r diwrnod cyntaf hwnnw, mae’n amlwg nad yw mab hynaf y teulu, ‘Yusuf’ (Adeel Akhtar) yn fodlon o gwbl gyda’r dieithryn, a buan iawn fe dry’r genfigen yn gasineb.

Wedi marwolaeth sydyn y tad, fe dry’r cyfan yn llanast llwyr, wrth i’r mab afradlon ddychwelyd adref i hawlio’i diriogaeth, ac i ddial am gael ei esgymuno gan ei dad. Caiff ‘Krishan’ ei yrru oddi yno, a buan iawn fe dry sylw ‘Shakuntala’ at y gŵr cefnog ‘Vijay’ (Gary Pillai). Ond tydi angerdd y ddau gariad ddim yn oeri, ac fel ymhob stori garu gref, o Mills and Boon i Bollywood, mae’n rhaid iddynt ail-gwrdd, dro ar ôl tro.

Go brin y byddai unrhyw ysgolhaig wedi cysylltu byd lliwgar Bollywood gyda llymder a moelni, nofel Brydeinig Brontë. Ond dadlau yn erbyn hynny wna’r awdur y ddrama gerdd, sef Deepak Verma, sy’n fwy adnabyddus fel actor yn y gyfres ‘Eastenders’. Wedi llwyddiant y ffilm ‘Slumdog Millionaire’, mae’n haws deal dyddie yma cymhlethdod y gwahanol ddosbarthiadau ym mywyd beunyddiol yr India. Yn syml, does 'na ddim disgwyl i’r tlawd a’r methedig i godi na chymysgu yn uwch na’i statws yn y slymiau. Roedd y freuddwyd o weld bachgen golygus o’r slymiau yn syrthio mewn cariad gyda merch o deulu bonheddig yn thema gyson yn ffilmiau Bollywood y pumdegau a’r saithdegau. O’r angerdd cychwynnol, i’r ffraeo, y gwahanu, y dial ac yna’r dychwelyd, wrth i’r llanc ifanc wneud ei ffortiwn, gan ddod i ail-gyfarfod ei gariad flynyddoedd yn ddiweddarach. O ddatgymalu stori gymhleth Brontë i’r esgyrn sychion, dyma’r union thema sydd yno hefyd. Y cwffio a’r torr-calon dros gariad anghonfensiynol, annerbyniol ond angerddol o danllyd, hyd yr eithaf.

Er cystal oedd set drawiadol, urddasol o dal a moel, Sue Mayes, sy’n cael ei addurno yn ôl y galw gyda phropiau a dodrefn lliwgar addas, i gyd fynd â’r olygfa, roedd yma wacter. Er cystal yr eisin ar y gacen, neu’r perlysiau i addurno’r prydau, di-flas a disylwedd oedd y cynhyrchiad. Y maen tramgwydd mwyaf, a chwbl annerbyniol imi yn bersonol, ar sioe broffesiynol fel hon, oedd y ffaith bod y Cast i gyd yn meimio canu gyda’r trac sain, gyflawn, gerddorfaol. Dwi hyd yn oed yn meddwl imi ddarllen yn rhywle nad yr un actorion, neu gantorion oedd yn perfformio ar y tâp, ac ar y llwyfan! Dadlau yn erbyn hynny wnaeth y cwmni, gan ddatgan fod hynny’n beth digon derbyniol a beunyddiol yn y blocbystyrs Bollywoodaidd, a phwy ydw’i i gwestiynu hynny!

Oherwydd yr elfen ffug yn y canu, daeth hynny’n fwyfwy amlwg yn yr actio a’r dawnsio, ac fe dry’r cyfan yn boli-brennaidd tu hwnt tua’r diwedd. Er bod yna ymdrech go lew i ddod â hiwmor i’r cyfan, a hynny gan fwyaf o’r cymeriad ‘Ayah’(Rina Fatania) - howscipar neu forwyn y teulu, roedd hyd yn oed ei pherfformiad hithau yn rhy felys o felodramatig erbyn diwedd y sioe.

Achubiaeth y cyfan oedd y syniad gwreiddiol; plethu’r ddau fyd diarth, gan roi haen drwchus o’r iaith Hindi, a chonfesiynnau Rajasthan. Roedd y diweddglo yn gofiadwy o deimladwy, wrth i gorff ‘Shakuntala’ gael ei losgi cyn y machlud, yn ôl arfer eu Cred, a’i llwch yn llinyn storïol priodol i’r cyfanwaith.

Os am brofi Bollywood, ymwelwch â www.lyric.co.uk

No comments: