Total Pageviews

Friday 8 May 2009

'Under Milk Wood'




Y Cymro – 8/5/09

Trigolion Llarreggub sy’n cael fy sylw'r wythnos hon, a hynny cyn belled o arfordir Cymru ag sydd bosib! I Theatr y Royal & Derngate yn Northampton y bu’n rhaid mynd i wylio a gwrando ar ‘ddrama i leisiau’ Dylan Thomas.

Cefais fy swyno gan ‘Under Milk Wood’ ers pan oeddwn i'n blentyn, wedi gweld cyfieithiad a chynhyrchiad llwyfan Eigra Lewis Roberts yn fy mhentref genedigol sef Dolwyddelan, ar ddiwedd y saithdegau. ‘Dan Gesail Bryn Llaethog’ ddewisodd Eigra i alw’r gwaith, gan nad oedd cyfieithiad ‘gwell na’r gwreiddiol’ T James Jones, ‘Dan y Wennallt’, yn addas ar gyfer actorion Gogleddol Dyffryn Conwy. Cynhyrchiad o recordiad George Martin yn 1988 yw’r llinyn mesur wedi hynny, gyda neb llai na Anthony Hopkins fel y prif lais, a chyfraniadau gan gantorion fel Tom Jones a Bonnie Tyler. O’r eiliadau cynta’r cynhyrchiad, wrth i donnau’r môr, doddi i’r brif alaw, hiraethus o leddf, mae’n anodd iawn peidio diffodd y tâp, gan fod y cyfan yn hudo’r gwrandäwr i agosáu gan adael i amser lithro heibio. Tipyn o sialens felly i guro’r recordiad perffaith yma, yn fy nhyb i.

Y brif dasg i unrhyw gwmni sydd am fentro mynd i’r afael â’r ‘clasur’ hwn, yw llwyddo i droi’r llefaru yn lluniau; i roi bywyd yn y berfau, i atgyfodi’r ansoddeiriau ac i anwesu’r cyfan gyda thrac sain gyfoethog sy’n allweddol i lwyddiant mynegiant barddonol Dylan Thomas. O donnau’r môr i donau’r emynau, o gri’r gwylanod i’r babanod, o’r ysgol i’r dafarn, rhaid i’r cyfan blethu’n gelfydd o amserol gyda geiriau’r actorion. Canmoliaeth sicr felly i Elena Peña a Dafydd James, Cymro a Sbaenes sydd wedi ffurfio cwmni newydd o’r enw ‘Soñarus’ - plethiad o’r gair Sbaeneg am ‘freuddwydio’ a’r gair Cymraeg ‘soniarus’. Roedd eu cyfraniad cyfoethog i’r cynhyrchiad cyn bwysiced â’r pum actor profiadol ar y llwyfan.

O gresiendo cerddorol ‘Organ Morgan’ i dawelwch lleisiau boddiedig y morwyr yn hunllefau ‘Captain Cat’, cyflwynwyd y cyfan yn slic fel cynfas gynnes i anwesu datganiad cofiadwy (a chystal â Hopkins ei hun) o’r ‘Prif Lais’ gan Aled Pugh. Dyma actor ifanc sydd â dyfodol disglair iawn o’i flaen. Roedd hynny’n amlwg pan welais ei bortread o ‘Ryan’ yn nrama Povey, ‘Life of Ryan and Ronnie’ yn 2006. Mae ei bresenoldeb a’i fynegiant ar lwyfan yn hudolus, a’i ddatganiad o farddoniaeth arglwydd yr ansoddeiriau , yn berffaith. Llwyddodd i droi’r cymeriad yn llawer mwy na’r ‘Llais’, a thua diwedd y ddrama, wrth i’r dagrau gronni yn ei lygaid dyfriog, aeth iâs oer i lawr fy nghefn, wrth imi sylweddoli fod yntau hefyd yr un mor unig, drasig a chaeth â gweddill o’r gymeriadau’r pentref.

Pedwar actor ar ôl felly, a’r pedwar yn gyfrifol am bortreadu’r pentref cyfan, drwy allu meistrolgar yr ensemble i newid eu gwisg a’r colur o fewn eiliadau i’w gilydd. Matthew Bulgo, o Abertawe’n wreiddiol, yn taro deuddeg, dro ar ôl tro, wrth droi ei gorff tal a main i bortreadu amrywiaeth o gymeriadau fel y gweinidog barddonol ‘Eli Jenkins’, y ‘Nogood Boyo’ direidus, y ‘Mr Pritchard’ llywaeth a’r ‘Organ Morgan’ gogoneddus o gerddorol. Arwel Gruffydd wedyn a’i ddawn amhrisiadwy i chwistrellu bywyd i gymeriadau hŷn a thywyll y gwaith fel y breuddwydiwr dall ‘Captain Cat’, y meddwyn ‘Cherry Owen’ a’r darpar lofrudd ‘Mr Pugh’ a’i gynlluniau i wenwyno’i wraig. Sara Harris-Davies, a’i blynyddoedd o brofiad meistrolgar ar lwyfan yn anadlu bywyd a ffresni i gymeriadau benywaidd lliwgar y pentref gan gynnwys y ‘Rosy Probert’ a ‘Polly Garter’, ‘Mrs Ogmore Pritchard’ a ‘Mrs Pugh’. Ond seren y sioe imi, oedd gallu artistig a chorfforol Katy Owen a lwyddodd i oleuo’r llwyfan gyda’i hamrywiol bortreadau o lu o gymeriadau o bob lliw a llun, bob siâp ac oed. O’r hynafol ‘Mary Ann Sailors’ sy’n cyhoeddi’n dalog ‘I'm eighty-five years three months and a day!’ i’r ‘Gwennie’ eiddil a phlentynnaidd, sy’n casglu’r ceiniogau wrth geisio cusanau.

Yr hyn sy’n gosod y cynhyrchiad yma arwahan i gynyrchiadau arferol o’r ddrama leisiol hon, yw gallu cyfarwyddo a gweledigaeth unigryw absẃrd y Gymraes ifanc Adele Thomas. Camp fwyaf Adele yw troi’r llefaru yn lluniau trawiadol, a hynny drwy gaethiwo ei hactorion yn eu dillad isaf o’r cyfnod priodol, a’u hamgylchynu gyda muriau o resi dillad lliwgar ac amrywiol o boptu’r llwyfan. Fry uwchben mae’r gefnlen foel, gydag ychydig o oleuadau trwsgl y dafarn a phâr o esgidiau coch, yn hofran rhwng daear a’r nef, yn aros i rywun eu hachub, fel cymeriadau’r pentref.

O’r bedd agored ynghanol y llwyfan, cyflwynir inni amrywiaeth o gymeriadau sydd hefyd yn diflannu i’r dyfnderoedd yn ôl y galw. Defnyddir yr holl gonfensiynau theatrig i’w llawn botensial wrth i blu, a phunnoedd a hyd yn oed afon o laeth ddiferu o’r gofod uwchben y llwyfan, cyfanwaith o waith y cynllunydd Hannah Clark a Goleuo Lizzie Powell, sy’n rhoi’r eisin hanfodol ar y gacen ben-blwydd cwbl briodol, i ddathlu pen-blwydd y Theatr yn 125 mlwydd oed.

Cynhyrchiad cofiadwy, teimladwy, a chaboledig tu hwnt gan Gymry meistrolgar a phrofiadol. Gresyn bod yn rhaid teithio i Northampton i’w weld! Heidiwch yno da chi, nid yn unig i’w cefnogi, ond i brofi gweledigaeth unigryw o Glasur Cymreig.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.royalandderngate.co.uk

No comments: