Total Pageviews

Friday 23 May 2008

Siwan











Y Cymro – 23/5/08

‘Siwan’ – Theatr Sherman, Caerdydd **

‘Mae’r sioe ar ben, a bu’n siom’. Geiriau’r forwyn ‘Alys’ (Lisa Jên Brown), wedi gwylio crogi Gwilym Brewys, yng nghynhyrchiad diweddara ein Theatr Genedlaethol o ddrama ‘fawr’ Saunders Lewis – ‘Siwan’. Dyna’n hollol fy nheimlad innau hefyd, wedi gwylio a gwrando’n astud ar y ddrama dair Act farddonol, hanesyddol a chwbl hudolus hon – yn cael ei rhaffu at ei gilydd yn un cyfanwaith .

Fydd y giwed o gefnogwyr Cefin Roberts yn barod i’m llarpio’n syth gan ddatgan ‘neith yr hogyn na yn Y Cymro fyth licio dim byd wnaiff y Theatr Genedlaethol!’ gan droi bob beirniadaeth yn ddadl bersonol. Ond, bobol bach, mae’n amser i ddoethion byd y ddrama’n Nghymru i ddatgan yn gyhoeddus eu barn. Ydi’r cynhyrchiad yma’n wir yn deilwng o ddrama ‘fawr’ Saunders Lewis? Ai dyma’r gorau allwn ni ddisgwyl gan ein Theatr Genedlaethol a’i filiwn o bunnau y flwyddyn?

Heb os nag onibai, fe gefais fy ‘swyno’n’ wir gan bortread Ffion Dafis o’r ‘Siwan’ urddasol a’i heiliad o wallgofrwydd wrth ganlyn serch; felly’n wir gyda Rhys ap Hywel, a’i bortread cynnil a chynnes o ‘Gwilym Brewys’ wrth doddi calon Siwan, a’i themptio i fradychu’i gŵr, y brenin. Ond methiant eto oedd perfformiad Dyfan Roberts fel ‘Llywelyn Fawr’ a Lisa Jên Brown fel ‘Alys’ – ‘perfformiad’ sylwch, ac nid ‘portread’. Dyma fawredd y ddrama imi - gallu Saunders Lewis i bersonoli’r cymeriadau hanesyddol yma mewn cig a gwaed; drwy roi iddynt bryderon, barn, teimladau ac angerdd, mae’n galluogi ni i rannu’r ac ail-fyw’r eiliad pan ganfu Llywelyn Fawr anffyddlondeb ei wraig, a’r effaith gafodd hynny ar hanes Cymru.

Ond, credais yn wir, fod Dyfan a Lisa Jên, wedi methu mynd o dan groen y cymeriadau, i’r un graddau a wnaeth Ffion a Rhys. Roedd ymddangosiad ‘Llywelyn’ yn yr Act Gyntaf yn chwerthinllyd o wan, ac yn amlwg yn stryglo’n eiriol i greu gwylltineb a siom. Felly hefyd gydag ‘Alys’ wrth weld crogi Gwilym Brewys, oedd yn amlwg yn edrych allan drwy ‘bae window’r’ carchar wrth ddisgrifio’r crogi fel petai hi ar lwyfan Eisteddod yr Urdd yn cystadlu! Roedd yr ystum eisteddfodol o or-lefaru yn or-amlwg, a chollwyd holl gynildeb y munudau enwocaf yma yn hanes y theatr yng Nghymru.

Chefais i ddim fy argyhoeddi o gwbl yn y drydedd Act, ac allwn i’m credu na gweld y dirywiad na hyd yn oed y newid yng nghymeriad ‘Siwan’ wedi blwyddyn o garchar. Fe welais fflachiadau o ddawn Ffion fel yr actores brofiadol ac hyderus yr ydym wedi’i weld dros y blynyddoedd diwethaf, ac iddi hi mae’r diolch am imi roi yr ail-seren i’r cynhyrchiad! Ond eto yma, siomedig oedd ‘Llywelyn’ a’r angen am actor mwy cadarn yn amlwg iawn. (Wnai ddim sôn o gwbl am y ddau gynorthwy-ydd llwyfan prenaidd oedd â rhanau penodol yn y ddrama! – o diar…)

Ond nid ar y cast mae’r bai i gyd. Dwi wedi canmol gwaith cyfarwyddo Judith Roberts o bryd i’w gilydd, ac yn sicr mae ei gweledigaeth o setiau syml, symudiadau meimllyd llawn steil, a’i dawnsfeydd o gario dodrefn o olygfa i olygfa wedi bod yn chwa o awyr iach ar lwyfannau Cymru. Ond, wedi gweld ‘Y Pair’ rai misoedd yn ôl, a ‘Chariad Mr Bustl’ cyn hynny, dyma ni yr un fformiwla eto oedd yn ddiflas, stêl ac undonog y tro hwn. Unwaith eto, doeddwn i ddim yn hoffi’r set o waith Colin Falconer, ac ar brydiau, roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n gwylio cynhyrchiad coleg mewn neuadd ddawns! Doedd y drych enfawr ar gefn y llwyfan a’i deils llwyd clinigol yn ychwanegu dim, at y cynhyrchiad, ac ddim yn cyfiawnhau’r marchnata o ‘gynhyrchiad cyfoes’ yn fy marn i. Does na’m dwywaith fod cerddoriaeth Jay Gleave yn ‘gyfoes’, ond fe ddifethwyd y cyfan ar y diwedd efo’r corws fawreddog o gerddoriaeth glasurol. Yr unig ganmoliaeth i’r ochor dechnegol oedd goleuo cynnil, cofiadwy a chwbl effeithiol Ceri James oedd yn wir yn cynesu ac oeri’r awyrgylch yn ôl y galw.

Gall neb wadu gogoniant geiriau Saunders, fel wnaeth Yr Athro Gwyn Thomas yn y rhifyn gyfredol o ‘Golwg’ ac fel ‘Cysgod y Cryman’ gynt, y deunydd sy’n ddramatig ac nid y cynhyrchiad. Does dim angen athrylith i ddewis na llwyfannu Clasuron Prin y Llwyfan Cymraeg. Gweledigaeth sydd angen, fel y cawsom yn ‘Esther’ gynt. Daw hynny gyda chyfarwyddwyr newydd profiadol a mentrus. Annwyl Fwrdd y Theatr, gweithredwch da chi…

Mae ‘Siwan’ ar daith ar hyn o bryd ac yn ymweld â Riverside Studios, Llundain, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, Theatr y Lyric, Caerfyrddin a Theatr Mwldan, Aberteifi dros yr wythnosau nesaf.

No comments: