‘Haf a ddaeth i draeth y dre’...’, ac er gwaetha’r tywydd, does 'na’m dwywaith fod bwrlwm Eisteddfod yr Urdd wedi swyno trigolion Sir Conwy a thu hwnt.
Fel un o’r Sir, mi wn yn iawn am y cyfoeth o dalent lleisiol a’r doniau perfformio sydd wedi’i fagu yn yr ardal, a hynny’n bennaf drwy’r eisteddfodau lleol a’r Gwyliau Dramâu blynyddol. Roeddwn i mor falch o glywed am ddyfodiad yr ysgol ddrama ‘Cipio’r Cyfle’, wedi’i leoli yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac sydd bellach yn ail flwyddyn ei fodolaeth. Dyma’r union beth sydd ei angen ymhob Sir yng Nghymru, gyda chefnogaeth ariannol gref iddynt, rhag inni eu colli, fel y digwyddodd i brosiect ‘Anterliwt’ yn Sir Ddinbych. Mae angen eu hybu, felly hefyd gyda’r cwmnïau dramâu cymunedol, sy’n cynhyrchu deunydd o safon uchel - llawer uwch, weithiau, na’r hyn a welais gan ein Theatr Genedlaethol hyd yma!
Yn anffodus i mi, ac i Fyd y Ddrama yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n amlwg nad oes gan y cwmni hwnnw bellach affliw o ddim diddordeb mewn hybu’r cynlluniau lleol yma (ar wahân i gyn-aelodau o ysgol ddrama ddigon tebyg yn ochrau Bangor!) nac ychwaith mewn hyfforddi a sicrhau parhad y to ifanc sy’n ysu am gael gweithio ym maes theatr. Dwi wedi fy synnu'r wythnos hon, gyda’r nifer uchel o Gymry ifanc sy’n ymddiddori ym myd y theatr a cherddoriaeth, sy’n ysu am ‘adael Cymru, a mynd i weithio yn Llundain. Mae hynny’n bennaf oherwydd diffyg gwaith yng Nghymru, ond hefyd y diffyg gweledigaeth a’r diffyg doniau creadigol i’w cadw yma, er mwyn ail-danio eu brwdfrydedd yn y theatr.
A brwdfrydedd, cyfoeth lleisiol ac egni hudolus criw ifanc yr ardal â’m swynodd innau nos Sul diwethaf wrth wylio sioe Ieuenctid yr Eisteddfod, ‘Hedfan’. Cyfieithiad o’r nofel (a’r addasiad i ddrama gerdd) ‘Feather Boy’ gan Peter Tabern a Nicky Singer, Don Black a Debbie Wiseman oedd y sioe, gafodd ei lwyfannu ar lwyfan enfawr a swnllyd, y Pafiliwn. Fel un sydd wedi cyfansoddi sawl drama gerdd yn y gorffennol, mi wn yn iawn pa mor anodd ydi canfod deunydd addas ar gyfer yr oedran yma, ac i greu cymeriadau a stori sy’n galluogi’r criw ifanc i actio’n naturiol, heb bersonoli pobol hŷn.
Hanes ‘Robat Nobel’, (Tomos Wyn Williams) bachgen tawel sy’n cael ei fwlio yn yr ysgol gan gymeriadau tebyg i ‘Niker’ (Rhys Owain Ruggiero) ac sy’n datblygu perthynas gyfeillgar gyda gwraig oedrannus ‘Edith Sorrell’ (Alys Owen Davies) yw hanfod y stori ddwys yma. Wrth i salwch ‘Edith’ waethygu, cryfhau wna perthynas y ddau, wrth i ‘Robat’ ddod i ddysgu mwy am gefndir a breuddwydion yr hen wraig, a thrwy hynny i ganfod ei hyder ei hun.
Gyda’r fath ddeunydd sensitif, a’r golygfeydd emosiynol a grëwyd gan Lowri Hughes, y cyfieithydd a’r cyfarwyddwr, nid Pafiliwn yr Eisteddfod oedd y man cywir i’w llwyfannu. Roedd angen gofod llawer llai a tawelach er mwyn gwneud teilyngdod â’r gwaith. Yn bersonol, a heb amharchu dawn Alys fel actores, hoffwn i fod wedi gweld actores brofiadol, o’r oedran cywir, yn portreadu’r hen wraig, er mwyn ychwanegu at y dwyser, a’r gwrthgyferbyniad rhwng y cenedlaethau. Ond roedd gallu lleisiol ac actio’r prif gymeriadau, ynghyd â dawn amhrisiadwy’r cyfarwyddwr cerdd, Annette Bryn Parri, yn ddigon i gynnal y sioe, ac i’w throi yn llwyddiant.
A llwyddiant hefyd oedd y sioe agoriadol, ‘Noson Ola’r Prom’ o waith y brenin comedi Mei Jones, a’r frenhines gerddorol Caryl Parry Jones. Dyma sioe liwgar, llawn egni, wedi’i goreograffi’n gelfydd gan Gary Lloyd, ei gynllunio gan Martin Morley a’i gyfarwyddo’n gerddorol gan Christian Phillips. Yma eto, un o lwyddiannau’r sioe imi, oedd cynnwys actorion hŷn fel Gwyn Vaughan Jones ac Eilir Jones oedd yn codi’r sioe i lefel uwch, a’u dawn i ddiddori cynulleidfa, a’u profiad helaeth ar lwyfan yn amlwg. Hiwmor a chlyfrwch geiriol Mei Jones, wedi’i amseru’n berffaith i danio’r ergydion doniol o enau Eilir Jones oedd gogoniant y gwaith, ynghyd â gallu’r criw i greu holl naws, hwyl a helynt y chwedegau.
Dim ond gobeithio’n wir y daw’r ‘haf i draeth y dre’’ erbyn diwedd yr wythnos lyb hon!
No comments:
Post a Comment