Total Pageviews

Friday, 9 May 2008

Bryn Gobaith


Y Cymro – 09/05/08

Wel, mae’n rhaid imi gychwyn fy llith yr wythnos hon yn ymateb i’r bonheddwr ‘D.H.Jones’ o’r ‘Bontnewydd, Caernarfon’ am ei lythyr sarhaus yn Y Cymro yr wythnos diwethaf, o dan y penawd ‘Gormod o Lundain’. Llythyr barodd i’m calon suddo, a bod yn onest, a llythyr – i’r rhai na brynodd y rhifyn ddiweddara, yn gofyn y cwestiwn ‘pam fod Y Cymro yn caniatau i Paul Griffiths adolygu dramau Llundain sydd a dim byd yn berthnasol i Gymru?’ Cwestiwn ddigon teg ar yr olwg gynta, a chwestiwn i’w ateb gan f’annwyl Olygydd efallai, ac nid y fi! Ond, fe aeth y bnr Jones ymlaen i gyhoeddi’n dalog bod y ‘nifer o Gymry cyffredin sydd eisiau gwybodaeth am Theatr Soho yn brin iawn’ a bod fy ngholofn yn ‘wastraff arian a gofod yn y papur’. Dyna chi neis ynde! Braf gweld bod bobol Bontnewydd yn meddu’r ddawn brin i siarad ar ran trwch o boblogaeth ‘gyffredin’ Cymru! Yna celpan arall, o bin gwenwynig y bnr Jones, yn awgrymu y dylwn i ‘gyfranu at bapurau Lloegr megis ‘The Stage’ ac ati’ petawn i’n dymuno ‘arddangos ei wybodaeth o’r sin Seisnig’, os nad ydi hyn ‘yn rhy bell o’i gyrhaeddiadau’.

Rheidrwydd, dwi’n credu, ydi ymateb i’r fath ensyniadau cas. Yn gyntaf, hoffwn wahodd rhagor o ddarllenwyr ‘cyffredin’ Y Cymro i ymateb i’r llythyr hwn, i weld os mai gwir yw honiad y Bnr Jones am weddill o’i gyd-Gymry ‘cyffredin’. Yn fy mhrofiad i, chefais i ddim ond canmoliaeth gan bawb y cwrddais â nhw am eu haddysgu am yr hyn sy’n digwydd ar lwyfannau Llundain dros y ddwy flynedd diwethaf. Mi wn bod sawl un wedi bod draw yn Llundain – ie, Mr Jones, ac yn Theatr Soho hefyd, yn gweld dramâu wedi i mi sôn amdanynt, ac wedi mwynhau. Mae’r ffaith bod sawl actor ac awdur ifanc wedi diolch imi am adolygu dramâu beiddgar a gwahanol, sydd wedi agor eu llygaid i bosibiliadau’r theatr, hefyd yn amhrisiadwy. Felly gyda fy nghyfaill Bethan Gwanas, a fynychodd y Theatr Genedlaethol gyda mi, tra ar ymweliad diweddar yn Llundain, ac a gafodd ei synnu gan y modd y llwyfanwyd y ddrama, ac a roddodd wedd newydd iddi hithau ynglŷn â phosibiliadau eang y llwyfan.

A do, Mr Jones... mi dderbyniais ddigon o wahoddiadau gan amrywiol gylchgronnau yn gofyn am adolygiadau, ond mi wrthodais, gan fy mod i’n credu’n gryf bod angen addysgu’r gynulleidfa Gymraeg – gyffredin neu ysgolhaig, am yr hyn sy’n digwydd tu fas i Gymru. Onid trwy ddarllen gwaith llenorion o Loegr a thu hwnt y dysgodd lawer o Gymry eu crefft i gyfansoddi, yn yr un modd ag y dysgodd ein hartistiaid am arddull beintio’r Meistri gweledol. Beth am ein cantorion byd enwog? Onid mewn colegau yn Lloegr a thu hwnt y bu iddynt hwythau ddysgu eu crefft? Os bu angen erioed i addysgu ein hactorion llwyfan, ein dramodwyr a’n cyfarwyddwyr, credwch chi fi, rwan ydi’r amser.

Ac i gadw’r Bonwr Jones a’i gyd-Gymry ‘gyffredin’ yn hapus, mi es i draw i Neuadd Llanofer, yng Nghaerdydd i weld cynhyrchiad Cwmni Glass Shot o’r ddrama ‘Bryn Gobaith’ . Cwmni a sefydlwyd gan yr awdur-gyfarwyddwr Gruffudd Jones a’r actor ifanc Rhys Miles Thomas. Cwmni y mae’n rhaid imi’u canmol am fynd ati yn annibynnol i gynhyrchu dramâu ar liwt eu hunain, a i ennill nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, Noson Allan ac Age Concern.

Drama am unigrwydd henaint o waith Gruffydd Jones ydi ‘Bryn Gobaith’, gyda Dora Jones yn portreadu gwahanol gyfnodau ym mywyd y prif gymeriad sef ‘Megan’ neu ‘Anti Megan’ i’r ail gymeriad yn y ddrama, ‘Dafydd’ (Dafydd Dafis). O’r cychwyn cyntaf, fe lwyddodd Dora yn ei phortread cynnil o’r ‘Anti Megan’ oedrannus, ond braidd yn rhy gynnil ac undonnog oedd y cyfan am awr a hanner o ddrama llawn atgofion o Gommin Greenham i’r Cartref Preswyl. Doedd y sgript ddim yn helpu yn hynny o beth, ac roed dgwir angen trydydd cymeriad yn y ddrama. Yr un amlwg i’w gynnwys fyddai ei mab, ‘Geraint’ oedd yn ffrwyth llawer o’r gwrthdaro rhwng ei gefnder ‘Dafydd’, fel y clywsom yn yr e-byst, y llythyrau a’r galwadau ffôn y bu Dafydd Dafis yn eu rhaffu drosodd a throsodd. Roedd gennai biti drosto erbyn y diwedd, ac yn dyheu am roi iddo actor arall er mwyn medru cyfathrebu â rhywun ar y llwyfan.

Roedd y set, a’i bum fflat golau, yn gymysg o fframiau gwag yn adlewyrchu gwacter a phellter teuluol Megan a’r awgrym (cynnil eto) o ffens Comin Greenham yn effeithiol, felly hefyd gyda goleuo Iestyn Griffiths. Priodol iawn hefyd oedd y gerddoriaeth achlysurol oedd yn cynhesu’r geiriau – ond yn y geiriau roedd y broblem. Yn wahanol i ddrama Povey, ‘Fel Anifal’, a ‘Defi’ a ‘Mair’ yn dyheu am ddianc o gysgod y Foel, y bu’r ddau yn gymaint ran ohono gydol eu hoes, welais i ddim yr un dyfnder yng nghymeriad Megan, a’i hawydd i aros ym ‘Mryn Gobaith’.

Clod a gobaith yn wir i’r cwmni am fentro, a chyda llai o daith a mwy o gymeriadau, dwi’n siwr y byddai’r ddrama wedi gweithio yn well. Bydd ‘Bryn Gobaith’ i’w weld yn Neuadd Soar, Merthyr Tudful heno a Neuadd Gymunedol Castell Newydd Emlyn nos yfory.


No comments: