Total Pageviews

Friday 27 April 2007

'Equus'


Y Cymro - 27/4/07

Cadw llygad ar y llwyfan yn Llundain fyddai dros yr wythnosau nesaf gan gychwyn efo cynhyrchiad sydd newydd gyhoeddi yr wythnos hon ei fod yn cau ar y 9fed o Fehefin. Nid dyma’r tro cyntaf i’r sioe ‘EQUUS’ fod yn y newyddion - roedd hi’n hawlio’r penawdau cyn iddi gychwyn hyd yn oed! Y prif reswm am hyn oedd y ffaith bod Daniel Radcliffe, sy’n fwy cyfarwydd fel seren y ffilmiau Harry Potter, yn ymddangos ar y llwyfan yn gwbl noeth!
Does dim dwywaith bod y ffaith yma wedi gwerthu sawl sedd yn Theatr y Gielgud ers cychwyn y sioe rai wythnosau yn ôl, ond roeddwn i’n awyddus i’w gweld hi am resymau eraill. Dyma un o fy hoff ddramâu. Byth ers imi weld cynhyrchiad theatrig ohoni dan gyfarwyddyd Terry Hands yn Theatr Clwyd ddeng mlynedd yn ôl, fe ddaeth y ddrama yn ffefryn, ac fe ail-daniwyd fy niddordeb ym mhŵer a chyfoeth y theatr.

Mae’r ddrama a gyfansoddwyd gan Peter Shaffer wedi’i selio ar stori wir a ddigwyddodd yn swydd Suffolk, dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Wrthi yn teithio ar hyd lôn wledig gyda chyfaill iddo oedd Shaffer, pan aethant heibio i stabl geffylau. Daeth stori i gof ei gyfaill am drosedd erchyll a glywodd amdani mewn parti yn Llundain. Ni chofiai lawer, ond am y ffaith i fachgen ifanc ddifa ceffylau drwy ddryllio eu llygaid. Roedd hyn yn ddigon o ysbrydoliaeth i Shaffer, ac yn ei eiriau ei hun “Roedd yn rhaid imi greu byd meddyliol er mwyn gallu dirnad y weithred hon”.

Lleolir y rhan helaeth o’r ddrama mewn Ysbyty Meddwl yn Ne Lloegr ble mae’r seiciatrydd Martin Dysart (Richard Griffiths) yn cael ei berswadio i dderbyn y bachgen dwy-ar-bymtheg oed - Alan Strang (Daniel Radcliffe) fel claf. Mae’r bachgen wedi’i swyno gan geffylau - yn wir, mae’r swyn yn troi’n addoli, wrth iddo droi’r ceffylau yn dduwiau. Drwy gyfres o olygfeydd byr, mae perthynas yn datblygu rhwng y ddau, sy’n peri i Dysart ail-ystyried ei yrfa a’i bwrpas mewn bywyd. Cawn ein cyflwyno i rieni Strang sef Frank (Jonathan Cullen) a Dora (Gabrielle Reidy) ynghyd â’r ferch brydferth Jill Mason (Joanna Christie) sy’n gweithio yn y stablau ac sy’n hudo’r Strang i gael rhyw efo hi. Y weithred hon sy’n peri i’r bachgen ifanc gyflawni’r drosedd.

Yr hyn sy’n arbennig am y ddrama yw’r ffaith mai chwe actor sy’n portreadu’r ceffylau, a hynny mewn modd cwbl drawiadol. Drwy gynllunio arbennig John Napier - a fu’n gyfrifol am gynllunio’r cynhyrchiad gwreiddiol gyda llaw, nôl ym 1973, mae gan bob actor benwisg metal o benglog ceffyl, ynghyd â phedolau uchel. Mae gofyn i’r actorion efelychu symudiadau’r ceffyl, ac mae’r chwech ohonynt yn llwyddo i wneud hynny’n effeithiol iawn.

Uchafbwynt y ddrama, heb os, yw’r drosedd o ddifa’r ceffylau sydd yn gwbl erchyll. Er cystal oedd yr olygfa hon yn y cynhyrchiad yma, mae’n rhaid imi fod yn onest a chyfaddef imi gael llawer iawn mwy o wefr yng nghynhyrchiad Terry Hands yn yr Wyddgrug. Yr hyn a gafwyd yno oedd rubanau coch yn llygaid pob penwisg oedd yn cael eu tynnu wrth i’r bachgen ifanc ddryllio’r llygaid, a hynny i gyfeiliant sgrechiadau arteithiol y ceffylau. Dyma un olygfa wnâi fyth mo’i anghofio. Ond yn y cynhyrchiad presennol, bylbiau golau sydd ymhob penwisg, a rheiny yn cael eu diffodd wrth i Strang fynd o stabl i stabl. Fel y gallwch fentro, doedd hynny ddim hanner mor theatrig â’r ddelwedd flaenorol.

Roedd perfformiad a phresenoldeb Richard Griffiths ar y llwyfan drwy gydol y ddrama i’w ganmol yn fawr iawn. Dysart sy’n ein tywys drwy’r stori, ac o’r herwydd, mae gan yr actor waith anodd o draethu i’r gynulleidfa. Cefais fy argyhoeddi’n llwyr gan ei berfformiad, ac yn wir roeddwn i’n gallu cydymdeimlo efo fo ar ddiwedd y ddrama. Mae’r un peth yn wir am Daniel Radcliffe sydd mor ifanc, ac eto wedi profi heb os fod ganddo’r gallu i gynnal un o’r rhannau anodda sydd ar gael i berson ifanc yn y theatr.

Er bod y cynhyrchiad yma yn dod i ben yn Theatr y Gielgud, mae sôn bod y ddrama yn mynd ar daith, ond yn anffodus nid efo’r cast presennol. Richard Fleeshman sydd ar hyn o bryd yn y gyfres Coronation Street fydd yn camu i esgidiau Radcliffe, er bod yntau wedi cytuno i ail-gydio yn yr awenau ar gyfer cynhyrchiad o’r ddrama ar Broadway yn ystod Haf 2008. Am y tro, beth bynnag, mae ganddo chi’r cyfle i weld y cynhyrchiad presennol am fis go lew, a chredwch fi - mae’n werth ei gweld.

No comments: