Total Pageviews

Friday 18 May 2007

'Leaves of Glass'


Y Cymro - 18/5/07

Cryfder unrhyw ddrama ydi medru gwneud imi uniaethu â’r cymeriadau neu’r stori; i gydymdeimlo efo nhw neu i ddeall yn iawn eu pryder neu’r boen. Efallai mai dim ond am rai munudau y digwydd hynny - rhyw atgof pell neu hiraethu byr, ond gall hynny fod yn ddigon i aros yn y cof ymhell wedi cau’r llen. Rhyw brofiad felly ges i wrth wylio cynhyrchiad Theatr y Soho o ddrama Philip Ridley, ‘Leaves of Glass’.

Hanes dau frawd a’u mam sydd yma yn y bôn, er bod gwraig y brawd hynaf yn rhan o’r stori hefyd. Mae Steven (Ben Whishaw) yn ddyn busnes llwyddianus. Ar y wyneb, mae ganddo bopeth - tŷ newydd, gwraig brydferth, a digonedd o arian. Ond yn cuddio o dan y ddelwedd berffaith mae cyfrinachau lu - cyfrinachau fydd yn chwalu’r teulu maes o law. Barry (Trystan Gravelle) yw’r brawd ieuenga’, sydd yn wrthgyferbyniad llwyr â’i frawd hŷn. Yn feddwyn di-waith, mae’n ceisio gwneud enw i’w hun fel artist, ond yn sgil dirywiad ei frawd, mae gwirioneddau’r gorffennol yn newid popeth. Hunan laddiad y tad yn drideg pump oed yw rhan o’r broblem, a hynny yn bennaf oherwydd agwedd ddall y fam (Ruth Sheen). Agwedd sy’n cael ei amlygu dro ar ôl tro yn sgil perthynas stormus Steven a’i wraig Debbie (Maxine Peake).

‘Cyflawnwch drosedd, ac fe dry’r ddaear yn wydr’. Drwy ddyfyniad Wallace Stevens ar glawr y sgript, dyna dderbyn eglurhad am deitl y ddrama. Ond mae yn ei ddyfyniad ystyr llawer dyfnach. Wnai ddim ymhelaethu, rhag chwalu stori’r ddrama.

Un o’r prif resymmau dros ddewis y ddrama hon oedd y ffaith bod y Cymro o Lanelli Trystan Gravelle yn rhan o’r cast. Cefais fy swyno gan berfformiad Trystan yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o ddrama Pinter ‘The Birthday Party’ y llynedd. Unwaith eto, cafwyd portread gwerth chweil ganddo o’r brawd ifanc, yn enwedig felly yn yr olygfa yn y selar, wrth i’r ddau frawd siarad â’i gilydd o’r galon am y tro cyntaf. Dyma’r olygfa a’m swynodd innau. Cefais fy nhynnu i mewn yn llwyr i stori’r ddau yng ngolau’r gannwyll wrth i’r gwir ddod i’r wyneb am ddigwyddiadau yn eu plentyndod. Wrth i’r dagrau gronni yn ei lygaid, mae’n rhaid cyfaddef bod deigryn yn fy llygad innau hefyd.

Roedd portread Ben Whishaw o’r brawd hynaf hefyd i’w ganmol yn fawr - o’r caledwch hyderus ar gychwyn y ddrama, i’w sensitifrwydd truenus yn ei wewyr. Maxine Peake wedyn yn hyfryd i’w gwylio fel y wraig feichiog, yn dioddef llid a balchder ei gŵr, a’r un modd efo Ruth Sheen fel y fam. Pedwar perfformiad yn cyd-weddu a phlethu â’i gilydd.

Ond roedd yna wendidau hefyd yng nghynhyrchiad cyntaf cyfarwyddwr artistig newydd y theatr - Lisa Goldman. Rhaid bod yn hollol onest a chyfaddef ei bod hi wedi cymryd dros awr imi gael fy nhynnu i mewn i stori’r teulu. Mae’n dda o beth nad oedd egwyl yn y ddrama, neu mi faswn i wedi cael hi’n anodd iawn i ddychwelyd, ond rwy’n falch mod i wedi gweld yr awr olaf.

Dim ond efo’r olygfa hyfryd rhwng y ddau frawd yng ngolau’r gannwyll y gwnes i wir deimlo’n rhan o’r stori, ac eisiau gwybod beth oedd eu tynged. Syml iawn oedd cynllun y set - dau lwyfan troi yn bennaf, efo’r dodrefn yn cael ei osod arno tu ôl i’r llen, ac yna ei droi i’w osod yn y man pwrpasol. Ond dibwrpas iawn oedd y sgrin neu’r ffenest fawr yng nghefn y llwyfan, a’r modd y tynnwyd y sgrin ymlaen ar gyfer yr olygfa olaf, gan osod y cymeriadau tu ôl iddo. Doedd hynny’n ychwanegu fawr ddim at yr hyn oedd yn cael ei ddweud na’i awgrymu.

Mae’r cynhyrchiad yma wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn yn y Wasg, gan ennill pedwar seren yn y Sunday Times y Sul diwethaf. Er bod yna bethau i’w canmol, munudau prin iawn oeddynt, mor frau a’r dail gwydr yn nheitl y ddrama. Mae’r ddrama i’w gweld yn Theatr y Soho tan y 26ain o Fai. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.sohotheatre.com

No comments: