Total Pageviews

Friday 11 May 2007

'A Midsummer Night's Dream'



Y Cymro - 11/5/07

Dwi am fynd â chi i’r India'r wythnos hon, a hynny drwy gymorth yr arch-ddramodydd Shakespeare!. ‘Breuddwyd Noswyl Ifan’ yw’r ddrama, theatr unigryw'r ‘Roundhouse’ yn Llundain yw’r lleoliad, ond mae hanes y cast yn ddrama ynddo’i hun…

Ar gais swyddfa Llundain o’r Cyngor Prydeinig y daeth y cynhyrchiad hwn i fod, a hynny nôl yn 2004. Gofynnwyd i’r cyfarwyddwr theatr Tim Supple i ymweld ag India, a chyfarfu yntau â chyfarwyddwyr, perfformwyr, cynllunwyr, technegwyr, cynhyrchwyr yn ogystal ag ymweld â sawl lleoliad. Fe welodd berfformiadau anhygoel mewn theatrau trefol, strydoedd llychlyd a choedwigoedd chwyslyd. Dewiswyd ‘Breuddwyd Noswyl Ifan’ fel y ddrama, a phenderfynwyd y byddai’r holl griw a’r cast o dras Indiaidd a Sri Lanka. Allan o’r cannoedd o bobl dalentog a welwyd ar y daith, dewiswyd 60 i ddod i Mumbai am wythnos i gyd-weithio ar theatr arbrofol. Er mai prin iawn oedd dealltwriaeth Supple o draddodiadau ac ieithoedd yr India, buan iawn y daeth ‘geiriau Shakespeare i flodeuo mewn deialogau rhwng y Saesneg a’r Malayalam; Tamil a’r Hindi; Gujuranti a’r Sinhala; Marathi a’r Kannada’. Gan fod yr India yn genedl amlieithog, roedd Supple am i’r cynhyrchiad efelychu hynny.

Wedi mis anodd o drin a thrafod, dewiswyd yr 22 perfformiwr a’r tîm creadigol oedd am lwyfannu’r fenter fawr hon. Roedd ganddynt bedwar mis i gynllunio taith wyth wythnos o’r India. Treuliodd y cwmni ran helaeth o’r cyfnod yma efo’i gilydd - yn cyd-weithio o naw'r bore tan naw'r nos. Gwahoddwyd arbenigwr ar ddringo atynt i rannu ei brofiad ac i ddysgu’r criw, a buan y daeth y 22 yn 23!. Wedi wythnosau lawer o broblemau o ddilyw i ‘alar i greisus fiwrocrataidd, fe lwyfannwyd y gwaith a hynny mewn theatr wedi’i adeiladu dros-dro ynghanol gerddi canolfan gelfyddydol yn Delhi. Bu’n llwyddiant ysgubol. Ymlaen â’r daith gan sicrhau'r un llwyddiant yn Mumbai, Chennai a Kolkata. Gwahoddwyd y cynhyrchiad i Stratford-upon-Avon, ac ymlaen wedyn i Lundain.

Mawredd y cynhyrchiad imi oedd yr elfen weledol liwgar sy’n swyno’r llygaid. O’r pridd coch ar y llawr i’r wal bapur enfawr ar ffrâm Bambŵ sy’n gorchuddio cefn y llwyfan. Drwy’r wal y daw’r perfformwyr i’w llwyfan, a buan iawn mae’r wal yn diflannu a’i weddillion fel gwe pry-cop, sy’n ddelwedd hynod o drawiadol. Drwy gampau’r perfformwyr o ddawns i gymnasteg, mae stori garu enwog Shakespeare am anturiaethau pedwar o gariadon a chriw o actorion amatur mewn coedwig olau leuad, yn dod yn fyw drwy’r holl synhwyrau.

Er na ddeallais fawr ddim o’r ddialog, hyd yn oed rhannau o’r Saesneg ar brydiau, mae cynhyrchiad yn llwyddo, am fod yma synnwyr theatrig cryf - o’r gerddoriaeth, i’r set i’r goleuo. Allwn i’m llai nag edmygu doniau corfforol y cast - a hynny o bob oed, wrth iddyn nhw blethu’i cyrff o dwll i dwll yn wal, neu ddringo’r llenni coch, a chreu ynddynt wely a chuddfannau fry uwchben y llwyfan. Roedd yma hefyd fwynhad yn amlwg ar wyneb bob un, a’r mwynhad hwnnw i’w weld yn amlwg ar ddiwedd y ddrama, wrth dderbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa lawn yn Llundain.

Er bod eu hymweliad â’r Roundhouse wedi dod i ben, mae’r cynhyrchiad yma’n teithio dros y misoedd nesaf gan ymweld â Theatr y Swan yn Stratford-upon -Avon tan y 19eg o Fai, ac yna Theatr y Watford Palace, Theatr Richmond, Theatr Gŵyl Malvern, Theatr Frenhinol Newcastle, Theatr Frenhinol Caerfaddon, Playhouse Rhydychen, Theatr y Kings Caeredin, Canolfan Lowry, Manceinion a Theatr Frenhinol Plymouth. Mwy o wybodaeth ar gael oddi ar WWW.DREAMONSTAGE.CO.UK

No comments: