Total Pageviews

Friday 25 May 2007

'Cariad Mr Bustl'


Y Cymro - 25/5/07

Roedd hi’n brofiad od iawn camu i Theatr Gwynedd nos Wener ddiwethaf - a hynny yn bennaf am fod taith ein Theatr Genedlaethol, efo’u cynhyrchiad diweddara sef ‘Cariad Mr Bustl’, yn ei anterth. Fel arfer, fyddai’n ceisio gweld y cwmni ar gychwyn eu taith, ond y tro yma, roedd mwy na digon o amser i roi fy nhroed yn y dŵr, a cheisio gwrando ar beth oedd barn y gweddill.

Roedd Gareth Miles eisioes wedi datgan wrthyf ei fwynhad mawr o weld y cynhyrchiad ar lwyfan, a braf hefyd oedd darllen adolygiadau positif gan Lowri Davies ar wefan BBC Cymru’r Byd ac felly hefyd gan Dafydd Llywelyn yn Golwg. Ac wrth sôn am Golwg, allwn i’m peidio cyfeirio at lythyr Emyr Edwards yn canmol perfformiad Jonathan Nefydd i’r cymylau, a’i gymharu ag Anthony Sher yn ‘Kean’ o waith Sartre. A beth amdana i, medda chi? Wnes i fwynhau?

Do, ar y cyfan. Dyma’r AIL gynhyrchiad sy’n deilwng o fantell ein ‘Theatr Genedlaethol’ gydag ‘Esther’ fel y cyntaf. A’r tro yma, fel ag o’r blaen NID Cefin Roberts sy’n cyfarwyddo.
Comedi fohemaidd ydi ‘Cariad Mr Bustl’ sef cyfieithiad Gareth Miles o ddrama Moliere ‘Le Misanthrope’ Mae’n stori syml. Criw o ddynion, o gefndiroedd gwahanol, yn brwydro draws ei gilydd i geisio llaw’r weddw gyfoethog, Selina (Mirain Haf). Yn eu mysg, mae’r dywededig ‘Mr Bustl’ (Jonathan Nefydd) sydd hefyd yn ganolbwynt i’r stori. Wrth iddo bregethu am werthoedd cymdeithas a phwysigrwydd siarad yn blaen, mae’r eironi yn amlwg, ac yn ei ymdrech i ddatgan ei gariad o’r mwyaf tuag at Selina, mae’n canfod ei hun mewn dŵr poeth cyfreithiol.

Y peth cyntaf a’m trawodd oedd symlrwydd godidog set Colin Falconer. Chwe drws gwyn dwbl, mainc wen ar dro a Chandelier modern, i gyd wedi’i gosod ar garped wen hynod o foethus. Diolch Judith am ddangos mawredd symlrwydd. Drwy oleuo hynod o effeithiol gan Iestyn Griffiths oedd yn newid yn ôl teimlad yr olygfa, a’r cameos hyfryd iawn y tu cefn i’r gauze, fe grewyd byd theatrig gweledol ac effeithiol. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac cerddorol pwrpasol, oedd hefyd yn ychwanegu at naws y 1930au. Roedd y gwisgoedd eto’n foethus a chydnaws, ac yn gweddu i’r dim i’r cyfanwaith steilish yma.

Oedd yna wendidau? Oedd, yn anffodus. Er cystal perfformiadau’r tri phrif ŵr bonheddig sef Jonathan Nefydd, Huw Garmon a Dyfrig Morris a chameos cofiadwy Rhian Morgan fel y weddw gyfoethog rwystredig a Llion Williams fel y Gwas, gwan iawn oedd y gweddill. Braidd yn stiff ac adroddllyd oedd Mirain Haf fel y wraig weddw ifanc, ac roedd angen actores dipyn cryfach i gynnal y rhan flaenllaw yma. Roedd angen mwy o urddas fflyrti yn ei chymeriad, yn hytrach na’r caledi hyderus. Siawns, erbyn hyn, bod gennym ddigonedd o actoresau ifanc fyddai wedi bod yn fwy addas? Er cystal ymdrechion Ffion Wyn Bowen fel y forwyn a Clare Hingott fel Elianna, digon disylw oedd eu cymeriadau. Felly hefyd efo cymeriadau Glyn Morgan, Seiriol Tomos a David Evans oedd yn cael trafferth fawr i ynganu’r Gymraeg heb sôn am gynildeb!

Efo’r castio cywir, dyma gynhyrchiad fyddai wedi mynd â’r cwmni i dir uchel iawn. Does neb arall wedi mentro gofyn pam bod merch y Cyfarwyddwr Artistig presennol wedi cael un o’r prif rannau ar draul actoresau llawer mwy profiadol? Ac felly, tawaf innau! Ond mae’n gwestiwn y dylid ei ofyn, ac fel Cwmni Cenedlaethol, y dylwn ddisgwyl safonau uwch.

Cyfoeth cyfieithiad hyfryd Gareth Miles - oedd yn llithro mor rhwydd nes peri i rywun amau os mai cyfieithiad ta ddrama wreiddiol oedd yma, a llwyfanu syml ond llwyddianus Judith Roberts fydd yn aros yn y cof. Er bod y theatrau ddim hanner mor llawn â thaith y ‘Cysgod’ diweddar, eich colled chi yw hynny. Beth sy’n fwya buddiol - theatr lawn ac enw gwael, ta theatr hanner llawn ac enw da...

Mae’r ddrama ar daith tan y 9fed o Fehefin ac yn ymweld nesa â Llundain, Aberystwyth, Yr Wyddgrug ac Aberteifi.

No comments: