Total Pageviews

Friday 15 June 2007

Eisteddfod yr Urdd 2007


Y Cymro - 15/6/07

Wedi wythnos o gystadlu - ac o dderbyn y wobr gyntaf neu gael cam, mae Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 bellach ar ben. Mae’r stondinwyr fel y cystadleuwyr wedi hir fynd adref, a’r pebyll yn prysur gael eu dymchwel, a’u pacio ar gyfer Sir Conwy 2008. Wedi wythnos hynod o lwyddianus o ran yr Urdd, beth sy’n aros yn y cof o ran byd y ddrama?

Wel, fe gawsom fonolog a dramodydd newydd yn sgil Manon Wyn Williams o Rosmeirch, Ynys Môn. Llongyfarchiadau mawr iddi hi ar ei llwyddiant, gan edrych ymlaen yn fawr at gael darllen ei gwaith. Braf hefyd oedd gweld dramodydd arall - a gipiodd y Wobr hon y llynedd, Ceri Elen Morris yn ennill Y Fedal Lenyddiaeth ar y pnawn Llun, a hynny am y tro olaf yn hanes y Fedal. Da iawn iddi hi, gan erfyn arni i barhau i gyfansoddi ar gyfer y llwyfan, yn ogystal â chyfoethogi ein llên.

A dyna’r llu fu’n cystadlu ar y cystadlaethau llwyfan ar nos Sadwrn - yn cynnwys y bythol-boblogaidd Unawd allan o Sioe Gerdd a Gwobr Goffa Llew. Am y tro cyntaf eleni, fe rannwyd yr Unawd o Sioe Gerdd yn ddwy gystadleuaeth, a hynny oherwydd oedran a’i phoblogrwydd. Meinir Wyn o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon gipiodd y Wobr Gyntaf yn yr oedran fenga, a hynny efo’i datganiad hynod o emosiynol o’r gân ‘Dy Garu Di o Bell’ o’r ddrama gerdd ‘Er Mwyn Yfory’. Dyma gân sy’n cael ei chanu hyd syrffed y dyddiau yma yn y gystadleuaeth hon, a mawr erfyniaf ar gystadleuwyr y dyfodol i ddewis caneuon eraill sy’n cynnig mwy o sialens iddynt. Mae digonedd o ganeuon addas at bob llais yn cael eu cyfansoddi bob blwyddyn, ac mae’r broses o geisio caniatad i ddefnyddio cyfieithiad Cymraeg ohonynt yn hawdd iawn. Felly, does dim esgus. Dwi wedi gofyn i’r Urdd ystyried cyhoeddi cyfrol ohonynt, fydd o gymorth mawr i’r cystadleuwyr a’r hyfforddwyr. Plîs gwnewch, fel bod PAWB yn cael yr un cyfle i ddewis caneuon sy’n fwy o sialens. Yn ail ar y gystadleuaeth yma, oedd Siôn Ifan o Ysgol Bro Myrddin a ganodd ddatganiad arbennig iawn o gyfieithiad Tudur Dylan Jones o ‘Cadair Wag wrth Fyrddau Gweigion’ o’r Sioe Gerdd ‘Les Miserables’. Siôn hefyd oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y fonolog ar yr un noson, efo perfformiad cofiadwy iawn o gyfieithiad Rhiannon Rees o waith Ian Rowlands - ‘Marriage of Convenience’. Roeddwn i mor falch o weld Siôn yn derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod a Gwobr Talent BBC Radio Cymru ar y nos Sadwrn. Da iawn yn wir.

Ac at y rhai hŷn, a Glesni Fflur o Lanuwchllyn yn cipio’r Wobr gyntaf efo’i datganiad o’r gân ‘Dagrau’r Glaw’ o’r sioe gerdd ‘Plas Du’. Yn bersonol, roeddwn i’n anghytuno efo Deiniol Wyn Rees y beirniad, ac yn teimlo bod Anni Llŷn o’r aelwyd newydd-anedig Y Waun Ddyfal, Caerdydd a’i chyfieithiad o’r gân ‘Ti yw Fy Myd’ o’r sioe gerdd ‘The Scarlet Pimpernel’ wedi cael cam mawr. Felly hefyd efo Eirlys Myfanwy Davies o Lanelli, oedd eto’n canu ‘Dy Garu Di o Bell’.

Cwbl haeddiannol wedyn oedd dyfarnu Gwobr Goffa Llew i wyneb cyfarwydd, sef Manon Wyn Williams oedd yn ychwanegu at ei llwyddiant yn gynharach yn yr wythnos. Rhaid cyfaddef fy mod i’n bryderus iawn o weld bod Manon wedi dewis i bortreadu’r hen wraig ym monolog Llinos Snelson - ‘Miss Jôs y Post’, ond o’i hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan hyd y diwedd, cefais fy argyhoeddi’n llwyr gan ei pherfformiad penigamp. Felly hefyd wrthi iddi berfformio’r darn gwrthgyferbyniol o ddrama Manon Steffan Ross - ‘Mae Sera’n Wag’ , a’r dagrau yn cronni yn ei llygaid cyn yngan yr un gair.

Perfformiadau hynod o gry’ a chofiadwy, a gobeithio yn wir fod sawl cwmni theatr yn gwylio talent amlwg i’r dyfodol. Pobol fel Manon ddylai bod ar ein llwyfannau - pobol sydd â’r gallu i bortreadu cymeriadau o bob oed a phrofiad. Un gair o gyngor wrth ddarpar gystadleuwyr, fel y mynegais wrth Manon dro yn ôl yn Theatr Gwynedd, dewiswch ddarnau sy’n golygu rhywbeth ichi. Darnau sy’n eich galluogi i uniaethu â’r cymeriad a’r hyn sydd ganddo neu ganddi i’w ddweud. Anghofiwch ‘Esther’, ‘Blodeuwedd’ a ‘Siwan’, darllenwch yn eang, mynychwch y theatr, darllenwch ddramâu newydd a dewiswch rywbeth sy’n wirioneddol yn eich cyffwrdd. Dyna’r ffordd i geisio’r wobr gyntaf, ac nid i gael cam...!

No comments: