Total Pageviews

Friday 24 November 2006

'The Sound of Music'


Y Cymro - 24/11/06

‘Ar ddiwedd y sioe, oeddech chi’n falch o fod yn Gymro?’, holodd Nia Roberts ar raglen ‘Hywel a Nia’, bore dydd Gwener ddiwethaf. Oeddwn, mi oeddwn i’n falch, wrth adael Theatr y Palladium yn Llundain, wedi gweld yr ail-berfformiad swyddogol o’r sioe ddiweddara i agor yn y West End, ‘The Sound of Music’. Yn falch iawn, a hynny am fod Connie Fisher o Sir Benfro yn serennu fel prif gymeriad y sioe - ‘Maria von Trapp’.

Roedd hi’n fraint hefyd cael eistedd yn y Palladium - a chof da am y sioeau teledu enwog ar y Suliau a gafodd eu recordio yno flynyddoedd ynghynt efo sêr fel Bruce Forsyth a Jimmy Tarbuck. Dyma’r ail-dro imi fod yno, gan imi gael gwefr debyg o weld ‘Chitty Chitty Bang Bang’ rai blynyddoedd yn ôl. Er nad oedd gofyn i Connie hedfan dros y gynulleidfa, fel y car enwog yn y sioe honno, roedd disgwyl iddi ddringo’r mynydd uchel sy’n rhan allweddol o set effeithiol Robert Jones, ac sy’n pwyso 8 tunnell gyda llaw! Priodol iawn felly, ar gychwyn y sioe, ydi gweld Connie mewn pwll o olau ar ben y mynydd, yn barod i swyno’r gynulleidfa wrth ddatgan ‘bod y bryniau i gyd yn fyw efo sain cerddoriaeth’…

Ac mae’r bryniau hynny wedi bod yn canu’r gerddoriaeth ers bron i hanner cant o flynyddoedd, byth ers i Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein dderbyn gwahoddiad i gyd-weithio efo Howard Lindsay, Russel Crouse a’r actores Mary Martin, ar ddrama lwyfan ar hanes bywyd Maria von Trapp, a’i theulu o gantorion ifanc. Gwireddu breuddwyd wnaeth Andrew Lloyd Webber a David Ian wedyn, wrth dderbyn caniatâd i lwyfannu cynhyrchiad newydd o’r sioe eleni, a hynny gyda chymorth y gyfres deledu ‘How do you solve a problem like Maria’ i ddewis y brif gantores. Wedi wythnosau lawer o ddadlau a phleidleisio, a sawl beirniad theatr yn bytheirio at y fath beth! - fe gafodd y broblem ei ddatrys, ac fe gawsom seren newydd ym mhresenoldeb Connie.

Nid tasg hawdd oedd camu i esgidiau Julie Andrews, sydd wedi bod yn enwog fel ‘Maria’ byth ers i fersiwn ffilm o’r ddrama gerdd gael ei wneud ym 1965, ond mae Connie yn llwyddo. Drwy aeddfedrwydd ei hactio naïf, a’r hyder lleisiol sy’n sicr o darddu o’i phrofiad eisteddfodol yng Nghymru, dyma berfformwraig sydd yr un mor gartrefol ar lwyfan neu ar fynydd! Clod hefyd i’r gantores opera Leslie Garrett sy’n portreadu’r ‘Mother Abbess’ yn y Lleiandy, sydd â llais digon uchel i chwythu pob owns o lwch o gorneli’r theatr! Sêr eraill y sioe yw’r saith o blant - sy’n portreadu teulu y Von Trapp; pob un yn hyderus wrth ganu’r caneuon sydd mor ganiadwy i bawb fel ‘Do-Re-Mi’, ‘Edelweiss’ a ‘Goodbye’. Yr unig wendid oedd y tad - Capden Georg von Trapp, sy’n cael ei bortreadu gan Alexander Hanson, yn dilyn ymadawiad Simon Shepherd wedi dau berfformiad yn y cyfnod rhagweld. Yn bersonol, tydi perfformiad Alexander Hanson ‘ddim yn gweithio’ chwaith, ac mae dirfawr angen actor llawer mwy profiadol, golygus ac enwog er mwyn tegwch i Connie, ac i gadw’r safon. Ac o sôn am safon, canmoliaeth fawr i’r corws neu’r ensemble sy’n cynnwys y gantores o Gymru, Elen Môn Wayne. Achos arall o falchder yn y sioe arbennig hon, a ffaith arall i’m hatgoffa, pam y bues i ar fy nhraed am gyhyd yn cymeradwyo’r cast, ar ddiwedd y sioe.

Balchder ddwedoch chi…? Bravo ddweda’ i! Am fwy o fanylion, neu i weld a chlywed clipiau o’r sioe, ymwelwch â www.soundofmusiclondon.com

No comments: