Total Pageviews

Friday, 10 November 2006

'Jones Jones Jones' a 'Sioe'r Mudiad Ffermwyr Ifanc'


Y Cymro - 10/11/06

Wel am wythnos! Byw oddi cartref yng Nghaerdydd yn paratoi i recordio’r sioe lwyfan JONES JONES JONES yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Dyma sioe a berfformiwyd fel rhan o’r ymgais i dorri Record Guinness y Byd am y casgliad mwya o bobl efo’r un cyfenw, ac fe lwyddasom i wneud hynny gan yn sicr ddyblu a bron threblu’r record bresennol efo 1,224 o Jonesiaid o dan yr unto!

Ar y llwyfan, cafwyd sioe liwgar a theatrig gyda rhai o’n Jonesaid mwyaf cyfarwydd a thalentog gyda Gethin a Gwenllian Jones ynghyd ag Aled Haydn Jones yn cyd-gyflwyno. Uchafbwyntiau’r noson i mi’n bersonol oedd datganiad pwerus John Owen Jones o’r Weddi yn y sioe Les Miserables; Gwyn Hughes Jones a’r gân ‘Nessun Dorma’; dehongliad dramatig o’r gân ‘Dim Gair’ gan Elin Fflur a’i dawnswyr a pherfformiad egniol teulu’r Jonesiaid o Gwmderi (Siw Huws, Arwyn Davies a Shelley Rees) yn canu cyfieithiadau o ddwy gân cwbl briodol - ‘Dyma hi Miss Jones’ (Have you met Miss Jones) a ‘Fi a Musus Jones’ (Me and Mrs Jones). Tammy Jones a Heather Jones wedyn yn swyno’r gynulleidfa efo’i lleisiau melfedaidd, a Mei Jones, John Pierce Jones a Betsan Powys yn cyflwyno rhifyn arbennig o Mastermind Cymru efo Wali (gyda chymorth Mr Picton) yn ceisio ateb cwestiynnau wedi’i selio yn gyfan gwbl y Jonesiaid! Dyma berl o sgript fer gan Mei Jones, wedi’i hadeiladu’n gelfydd a chlyfar, sy’n brawf sicr o dalent Mei fel brenin comedi Cymru. Talent arall gafodd ei brofi ar y noson oedd gallu cerddorol a barddol Caryl Parry Jones wrth iddi gyfansoddi a pherfformio’r gân ‘Mae ‘na Jones bum munud lawr y lôn fy ffrind’ gan wahodd holl Jonesiaid eraill y sioe i’r llwyfan ar gyfer y canlyniad. I gloi’r sioe cafwyd dwy gân gan un o’r Jonesiaid mwya dadleuol a thrawiadol a welais i erioed! Yr anfarwol Grace Jones efo’i sioe lwyfan theatrig a’i dehongliad dadleuol o’r gân ‘Pull up to the bumper’! Doedd perfformiad Grace heb blesio pawb, a sawl un yn teimlo nad oedd hi’n perthyn i’r un sioe â’r gweddill. Digon teg, ond ar ddiwedd y dydd, roedd hi’n ‘Jones’, ac yn haeddu’i lle, ac yn brawf pellach o allu ac amrywiaeth y llwyth rhyfeddol a thalentog yma! Bydd y sioe i’w weld ar S4C ar Dachwedd y 26ain.

Wedi hel y Jonesiaid am adre, daeth y Ffermwyr Ifanc i hawlio’r llwyfan ar gyfer eu Gala arbennig i ddathlu Pen-blwydd y Mudiad yn 70 oed. Dyma sioe oedd wedi’i chreu yn gyfangwbl gan y Mudiad gyda chymorth Stifyn Parri i uno’r cwbl ynghyd. Roedd yma ‘olygfeydd cofiadwy eto o fewn y sioe, ond doedd y cwbl ddim yn llifo cystal fel sioe lwyfan. Un gwendid mawr oedd y ffaith bod rhannau helaeth o’r sioe yn digwydd o flaen prif len du'r theatr oedd yn torri ar rediad y sioe. Gyda set mor effeithiol wedi chreu gan Eryl Ellis, dylid bod wedi defnyddio llawer mwy o’r set, er mwyn creu mwy o sioe lwyfan. Mae recordio sioe theatr ar gyfer y teledu wastad yn broblem; rhaid un ai llwyfannu’r sioe fel sioe theatr gan osod y camerâu oddi ar y llwyfan, neu sefydlu’r ffaith mai sioe deledu sy’n cael ei chreu wedi’i gosod ar lwyfan. Efo’r gynulleidfa wedi talu £25 am docyn i weld y SIOE THEATR hon, allwn i’m credu pan welais i ddyn camera yn llythrennol ddawnsio o gwmpas tair telynores ar y llwyfan. Roedd y gynulleidfa o’m cwmpas yn chwerthin, heb wybod yn iawn os oedd y dyn camera yn rhan o’r ‘act’ ai peidio. Cwbl anfaddeuol.

Rhaid canmol yr amrywiaeth o fewn y sioe yma; o’r tractors i’r cneifio, o’r lleisiau unigol gwych i’r côr undebol, y cyfan eto yn brawf o dalent y Mudiad pwysig a gweithgar hwn. Bydd y sioe hon i’w weld ar S4C dros gyfnod y Nadolig eleni.

No comments: