Total Pageviews

Friday 17 November 2006

Edrych mlaen...


Y Cymro - 17/11/06

Wythnos i gael fy ngwynt ataf oedd yr wythnos ddiwethaf, a thrwy hynny rhoi’r cyfle imi gadw llygad ar y cynhyrchiadau sy’n parhau i deithio dros y misoedd nesaf, yn ogystal ag ambell i gynhyrchiad newydd sydd ar fin agor.

Un cynhyrchiad dwi heb gael y cyfle i’w weld hyd yma ydi cynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o ddrama Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí o’r enw ‘Branwen’. Cariad ar draws môr yr Iwerddon ydi disgrifiad y cwmni o’r ddrama dairieithog hon, gyda Ffion Dafis, Dafydd Dafis, Stephen D’Arcy a Bridin Nic Dhonncha yn y cast. Wedi perfformiadau yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf, bydd y cwmni yn ymweld â Theatr Elli, Llanelli ar y 18fed o Dachwedd, ac yna Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar yr 22ain gan orffen eu taith yn Theatr Ardudwy, Harlech ar y 24ain.

Ac o sôn am ddrama sydd ar fin gorffen ei thaith, at ddrama sy’n cychwyn crwydro Cymru'r wythnos hon. Comedi newydd gan Valmai Jones ydi ‘Actus Reus’ sy’n cael ei lwyfannu gan Theatr Bara Caws. ‘Murder Mystery’ ydi’r ddrama wedi’i gosod mewn gwesty anial, gyda chriw o actorion yn ymweld â’r gwesty a chael eu dal o fewn dirgelwch llofruddiaeth go iawn. Mae’r cast yn cynnwys Sue Roderick, Eilir Jones, Maldwyn John, Dyfan Roberts, Jonathan Nefydd a’r awdures ei hun, Valmai Jones. Bydd y ddrama’n agor yn Neuadd Goffa Amlwch ar Nos Fawrth, 21ain o Dachwedd cyn mynd draw am Langefni ar yr 22ain, Blaenau Ffestiniog ar y 23ain a Theatr Gwynedd, Bangor ar y 24ain a’r 25ain. Bydd y cwmni ar daith tan yr 16eg o Ragfyr.

Mae’r bwrlwm o ddramâu yn parhau yn Theatr Clwyd gyda chynhyrchiad Terry Hands o’r ddrama ‘Memory’ gan y dramodydd o Gymru, Jonathan Lichtenstein. Ymysg y Cymry yn y cast mae Ifan Huw Dafydd a Lee Haven-Jones. Mae’r cynhyrchiad i’w weld yno tan y 25ain o Dachwedd.

Ac o sôn am Terry Hands, un cynhyrchiad roddodd wir wefr imi oedd ei gynhyrchiad ef o ddrama Peter Schaffer, ‘Equus’ nôl ym 1997. Roeddwn i wrth fy modd o glywed bod yna gynhyrchiad newydd o’r ddrama bwerus hon yn mynd i agor yn y West End fis Mawrth nesaf. Ymysg y cast fydd seren ffilmiau Harry Potter - Daniel Radcliffe a Richard Griffiths, o dan gyfarwyddyd Thea Sharrock ac wedi’i gynhyrchu gan David Pugh a Dafydd Rogers.

Parhau i agor hefyd mae’r dramâu cerdd newydd yn Llundain, a phleser mawr fydd cael bod ymysg y cyntaf i weld ‘The Sound of Music’ fydd yn agor yn swyddogol yr wythnos yma yn Theatr y London Palladium. Er bod y sioe wedi colli dau o’u prif actorion, a hynny cyn iddi agor hyd yn oed, mae’n argoeli i fod yn sioe lwyddiannus gyda’r Gymraes Connie Fisher yn swyno’r beirniaid efo’i hyder a’i dawn gerddorol.

Sioe arall sydd newydd agor ydi fersiwn lwyfan o’r ffilm enwog o’r 80au ‘Dirty Dancing’ . Mae’r sioe, sy’n cynnwys yr holl hits cerddorol o’r ffilm i’w gweld yn Theatr Aldwych ar hyn o bryd.
I ffans o waith JRR Tolkien, bydd y fersiwn lwyfan o ‘Lord of the Rings’ yn agor yn Theatr Frenhinol Drury Lane ar y 9fed o Fai 2007.

Siom fawr oedd clywed yr wythnos hon bod y cynhyrchiad ‘Bent’ gydag Alan Cumming i gau ar y 9fed o Ragfyr, a hynny pum wythnos yn gynnar. Os am wefr gofiadwy, mynnwch eich tocynnau yn awr.

Ac i gloi, rhaid sôn am y sioe ddiweddara i swyno’r West End sef cynhyrchiad newydd Trevor Nunn o Glasur Gershwin, ‘Porgy a Bess’. Wedi costio tair miliwn o bunnau, gyda chast o 40 a cherddorfa o 20, mae Nunn wedi gwneud gwyrthiau i droi’r opera bedair awr yma yn sioe gerddorol dwy-awr-a-hanner. Mae’r sioe i’w gweld ar hyn o bryd yn Theatr y Savoy.

No comments: