Total Pageviews

Friday 1 December 2006

'Branwen' a 'Memory'


Y Cymro - 1/12/06

Ddigwyddodd na rywbeth rhyfedd imi'r wythnos hon. Mi ges i wefr mewn cynhyrchiad theatr Cymraeg! I Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli oedd rhai mynd er mwyn dal perfformiad olaf-ond-un o gynhyrchiad diweddara Llwyfan Gogledd Cymru o ‘Branwen’ gan Ifor ap Glyn a Darach Ó Scolaí. A bod yn onest, roedd gen i ofn wrth ‘yrru draw am Ben Llŷn, a hynny am ddau reswm : yn gyntaf oherwydd y llythyrau a ymddangosodd yn Y Cymro yn cwyno am ‘yr iaith gref’ a’r ail reswm, am fy mod i’n cyd-weithio’n ddyddiol efo Ifor ap Glyn!

Stori gyfoes sydd yn y ddrama am ddau gyfaill o ddyddiau coleg yn Aberystwyth; Mari (Ffion Dafis) sy’n gweithio fel awdures yng Nghymru a’r Seán (Stephen D’Arcy) sy’n awdur yn Iwerddon. Mae’r ddau yn cael eu tynnu ynghyd unwaith eto gan y cynhyrchydd teledu Eifion Bowen (Dafydd Dafis) i gyd-weithio ar fersiwn animeiddiedig o chwedl Branwen. Wrth ddod wyneb yn wyneb, hawdd yw cynnau tân ar hen aelwyd, a daw sawl cyfrinach i’r amlwg, fydd yn effeithio perthynas Seán a’i wraig (Bridin Nic Dhonncha) am byth.

Allwn i’m llai na rhyfeddu at gyd-actio gwych y pedwarawd yma, yn llithro o un olygfa i’r llall, gan fynd â ni ar daith o Gymru i’r Iwerddon ac yn ôl, wrth olrhain eu hanes. Roeddwn i’n dotio at aeddfedrwydd portread Ffion Dafis o’r Mari wyllt, (neu’r ‘Branwen’ chwedlonol), ac yn edmygu gallu Dafydd Dafis wrth orfod adrodd chwedl Branwen yn ei chyfanrwydd wrth Seán, a hynny’n ofer! Cynnildeb ac angerdd Stephen D’Arcy wedyn wrth iddo yntau lithro o’r Wyddeleg i’r Saesneg, er mwyn ceisio achub ei berthynas â’i wraig, ac erfyn am faddeuant gan Mari. Dyma bedwar perfformiad am y gorau imi’i weld ar lwyfan yng Nghymru eleni, a chlod mawr i’r actorion, yr awduron a’r cyfarwyddwyr Ian Rowlands a Darach Mac Con Iomaire am hynny.

Ac o sôn am Ian Rowlands, wel dyma enghraifft arall o’i ddawn arbennig i greu sioe theatrig drwy gyfuno set foel a thaflunio delweddau drwy’r cyfrifiadur arno. Dyma dechneg lwyddiannus welon ni yng nghynhyrchiad blaenorol y cwmni o hanes ‘Frongoch’, ac mae’r cyfanwaith yn llwyddo unwaith eto. Dyma theatr sy’n gwthio’r ffiniau traddodiadol, gan roi gwedd newydd ffres ar lwyfannau Cymru. Dyma’r hyn ddylai fod wrth wraidd ein Theatr Genedlaethol - ffresni a dyfeisgarwch, fel sydd i’w gael yn yr Alban neu Loegr. Gair i gall yn wir…

Ac o ran yr ‘iaith gref’ - oes, mae yma regi, ond roedd y cyfan yn dderbyniol i mi o fewn cyd-destun yr olygfa o wylltineb angerddol rhwng y ddau gyn-gariad. Diolch i’r cwmni am beidio gneud i minnau regi mwy wrth adael y theatr!

Er bod y daith bresennol ar ben, mae sôn am ail-deithio’r cynhyrchiad yn y flwyddyn newydd.

I’r Wyddgrug wedyn, ar gyfer drama wreiddiol arall a hynny gan Gymro o Landrindod, Jonathan Lichtenstein. ‘Memory’ ydi teitl cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru, ac mae’n adrodd hanes cwmni o actorion sy’n cwrdd mewn ystafell ymarfer, wrth baratoi ar gyfer eu cynhyrchiad diweddaraf.

Mae’r ddrama o fewn y ddrama yn cychwyn mewn fflat yn Nwyrain Berlin ym 1990, ble mae ‘Eva’ (Vivien Parry) yn cwrdd am y tro cyntaf â’i ŵyr ‘Peter’ (Lee Haven Jones) sy’n esgor ar yr atgofion trist a dirdynnol am ei hieuenctid yn ystod yr Ail-Ryfel Byd. O Berlin i’r Bethlehem presennol, ac at hanes yr Iddew ‘Bashar’ (Ifan Huw Dafydd) sy’n derbyn ymweliad gan swyddog Palesteinaidd ‘Isaac’ (Oliver Ryan) i’w hysbysu fod y ffin arfaethedig am gael ei godi ar safle ei gartref presennol. Drwy wibio yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy stori, a’r ddau gyfnod, dyma berl o ddrama sy’n gorfodi’r gynulleidfa i feddwl am y presennol a’r gorffennol, drwy gyfres o olygfeydd trawiadol a dirdynnol. Bydd perfformiad Vivien Parry yn aros yn y cof am amser hir, felly’n wir gyda’r cast i gyd. Clod mawr eto i ddewin arall y byd theatr yng Nghymru - y cyfarwyddwr Terry Hands, am greu cyfanwaith sensitif a chofiadwy.

Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan Chapter, Caerdydd yr wythnos nesaf rhwng nos Fawrth 5ed o Ragfyr a Nos Sadwrn y 9fed. Byddwch yno!

No comments: