Total Pageviews

Friday 3 November 2006

'Bent'



Y Cymro 3/11/06

Mi ddywedais i rai wythnosau yn ôl, bod ambell i sioe y cofiwch amdani am byth. Wel, mae hynny yn berffaith wir am y cynhyrchiad sy’n cael fy sylw'r wythnos hon.

Ynghanol y môr o ddramâu cerdd newydd sy’n agor yn fisol yn Llundain y dyddiau yma, mae ambell berl o ddrama ddadleuol, glasurol neu wreiddiol hefyd i’w canfod. Mae’n hen ddadl ymysg caredigion y theatr ynglŷn â’u barn bod gormod o ddramâu cerdd yn boddi theatrau Llundain, ac yn peri i gynyrchiadau o ddramâu newydd gael eu cadw draw. Dwi’n hanner cytuno â’r farn honno, ond dwi hefyd yn cydnabod gwerth drama gerdd dda sy’n denu sylw cynulleidfa llawer mwy eang, ac yn tanio diddordeb a dychymyg pobol o bob oed ym myd y theatr.

Mae’r ddrama ‘Bent’ gan Martin Sherman, sydd i’w weld ar hyn o bryd yn Stiwdio Trafalgar, wedi’i osod ym Merlin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n adrodd stori ddirdynnol am gwpl hoyw - Max (Alan Cumming) a Rudy (Kevin Trainor) sy’n cael eu gorfodi o’u cartref a’u bywyd bohemaidd i uffern y gwersylloedd carchar. Wrth gael eu cludo ar y trên i Wersyll Dachau, ger Munich, mae Rudy yn cael ei arteithio o fewn clywed Max, ac wrth i’w gorff llesg a gwaedlyd gael ei lusgo yn ôl i’r cerbyd, mae Max yn cael ei orfodi i roi diwedd ar fywyd ei gariad drwy ei labyddio â phastwn y milwyr. Dyma un o’r golygfeydd mwyaf erchyll a dirdynnol imi’i weld ar lwyfan erioed.

Wedi cyrraedd yr uffern yn Dachau, mae Max yn cael ei orfodi i brofi ei rywioldeb - i wadu ei fod yn hoyw, er mwyn achub ei fywyd ei hun. Mae’r dull a orfodwyd arno i wneud hyn yn rhy erchyll i’w esbonio ar dudalennau’r Cymro, ond sy’n wybyddus i haneswyr sydd wedi astudio’r cyfnod. Roedd gweld Alan Cumming yn ail-fyw’r cyfan yn brawf o’i fawredd fel actor; dyma berfformiad bythgofiadwy o deimladwy gan feistr ar ei grefft. Wedi ‘ennill’ ei seren felen, yn hytrach na’r triongl pinc, daw Max wyneb yn wyneb â gŵr golygus arall - Horst (Chris New) a thrwy’r Ail Act, mae perthynas yn datblygu rhwng y ddau wrth gludo pentwr o gerrig o un ochor i’r llwyfan i’r llall. Wrth lafurio ymhob tywydd, mae’r berthynas yn cryfhau, ond heb i’r un o’r ddau gyffwrdd ei gilydd o gwbl. Dyma Act sy’n brydferth o bwerus, ac yn brawf eto o allu Cumming a’i gyd actor Chris New.

Mae cynhyrchiad Daniel Kramer yn werth ei weld, a byddai’n ddoeth i unrhyw gyfarwyddwr neu actor i fynd i weld pa mor effeithiol y gall goleuo gofalus a theimladwy fod, heb sôn am sain ysgytwol a thrawiadol a set syml ond cwbl addas a theatrig.

Allwch chi’m mwynhau sioe o’r math yma; nid dyna’r bwriad, ond mi fedrwn ei werthfawrogi fel darn o theatr ddramatig a chofiadwy. Yn sicr, mae’n gwneud ichi feddwl am yr holl ddioddefaint fu yn y cyfnod hwn, a pha mor werthfawr ydi ein rhyddid.

Gwnaf, fe gofiaf am ‘Bent’ am amser hir sy’n brawf o’i lwyddiant. Prawf hefyd bod yn rhaid mynd i Lundain er mwyn gweld cynhyrchiad sy’n trin y gynulleidfa fel oedolion aeddfed ac nid bodau dwl.

Mae ‘Bent’ i’w weld yn Stiwdio Trafalgar tan Ionawr 13eg.

No comments: