Total Pageviews

Monday 30 September 2024

OLION : Rhan Un: Arianrhod a Rhan Dau: Yr Isfyd (Frân Wen/Pontio/GISDA/Storiel)

Y dewin Gwydion (Owain Gwynn) a'i chwaer Arianrhod (Rhian Blythe) - Rhan Un [llun Craig Fuller]


OLION - Rhan Un: Arianrhod  ****

Dwi 'di bod yn dyheu am weld cynhyrchiad gwir theatrig yn y Gymraeg, ers dyddiau pantomeimiau Cwmni Theatr Cymru, a ddaeth i ben pan oeddwn i’n ddeg oed! A dyma ni, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yn cael ail brofi'r wefr mewn ysblander gweledol a chlywedol, diolch i OLION - Rhan Un: Arianrhod, cynhyrchiad tair-rhan Frân Wen [ar y cyd â Pontio, Bangor, GISDA a Storiel]. 

Er nad oes rhaglen brintiedig i gyd fynd â'r cynhyrchiad, "dyma ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod" yn ôl gwefan Frân Wen. Ac hanes Arianrhod (Rhian Blythe) a gawn, wedi'i seilio ar gefndir Y Mabinogi. Cawn ein cyflwyno i'r prif gymeriad a'i theulu, ei brodyr y dewin Gwydion (Owain Gwynn) a Gilfaethwy (Rhodri Trefor), ei mam Dôn (Sharon Morgan) a Goewin (Mirain Fflur) sydd ddim yn perthyn i'r teulu, ond yn perthyn i'r chwedl [wreiddiol].

Arianrhod (Rhian Blythe) yng Nghaer Arianrhod - Rhan Un [llun Craig Fuller]

Ond y cymeriad canolog i'r cyfan ydi Caer Arianrhod, "yn fwrlwm o ryw a hedonistiaeth ysbrydol ac mae Arianrhod a’i ffrindiau agos - sydd wedi dianc o ryfel cartref - yn paratoi am eclips solar sy’n gaddo gwawr newydd." Gyda diolch i "5 o ddawnswyr [Mischa Jardine, Amber Howells, Julia Costa, Keith Alexander a Harrison Claxton] dan arweiniad y coreograffydd a chyd-gyfarwyddwr [y sioe] Anthony Matsena", agorwyd y sioe mewn ecstasi corfforol a meddwol y Gaer, a'm hatgoffodd o gynhyrchiad o'r Bacchae a welais i yng Ngŵyl Caeredin yn 2007

"Archwilio’r dewrder o fod yn ‘wahanol’ mewn byd anfaddeuol," yw diben y cynhyrchiad, yn ôl cyfarwyddwr artistig Frân Wen a chyd-gyfarwyddwr y cynhyrchiad, Gethin Evans. Ac mae'n amlwg bod trafodaethau lu wedi'u cynnal am ystyr 'bod yn wahanol' mewn gweithdai yn yr ardal. 'Gwahanol' ydi'r Arianrhod hoyw yn yr "ail-ddychmygiad cyfoes" yma; sy'n cael ei threisio gan ei brawd Gilfaethwy ar orchymyn eu brawd Gwydion, wedi iddo wenwyno'r giwed yn y Gaer gyda'i ddoniau fel dewin. Yr un dewin sy'n creu a throi Blodeuwedd yn dylluan, er mwyn creu gwraig i Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod yn Y Mabinogi.

Heb oes nag oni bai, rhan o lwyddiant y cynhyrchiad ydi'r chwa o awyr iach greadigol o allu'r coreograffydd Anthony Matsena, sy'n enedigol o Zimbabwe ond wedi'i fagu yn Abertawe, sy'n codi'r sioe i safon uchel iawn. All neb wadu’r trydan theatrig a grëwyd gan y goleuo, y seinlun, y coreograffi a’r weledigaeth sylfaenol. Gwych iawn. Felly hefyd gyda'r ynys-gaer o set o waith Elin Steele, ynghanol gofod gwag Pontio, wedi'i hamgylchynu gan fur o reiliau haearn oddi fry, oedd yn cyfleu Llys Dôn i'r dim. Trueni mai dim ond un olygfa oedd yno, gan fod presenoldeb dramatig Sharon Morgan yn ei gwisg ddu drwy'r giatiau haearn, yn drawiadol dros ben.


Dôn (Sharon Morgan) yn Llys Dôn - Rhan Un [llun Craig Fuller]

Uchelgeisiol hefyd oedd sgript o waith Angharad Elen a Sera Moore Williams, oedd yn fwriadol lenyddol, i gadw at naws y chwedl wreiddiol. Bu'n llwyddianus, ar y cyfan, er bod ambell i frawddeg yn taro'r glust yn chwithig. Ac er cystal oedd egni brwdfrydig pob actor a dawnsiwr, dwi'n amau mai arddull cyfarwyddo 'sioe gerdd' a barodd imi ofni'r elfen o or-ymdrechu, gor-ystumio a gor-weiddi ar brydiau. Mae cynlideb yn gallu bod yr un mor theatrig â'r seinlun a'r goleuo.

 

Wrth i'r act gyntaf ddod i ben, a chodi'r cynhyrchiad i'w uchafbwynt trydanol a chwbl wefreiddiol, meddyliais mai dyma ddiwedd Rhan Un, felly sioc oedd deall bod yn rhaid i'r gynulleidfa ymadael â'r theatr er mwyn ei osod at "yr ail act".


Madoc (Owen Alun), Heulwen (Mirain Fflur), Seren (Aisha-May Hunte) ac Elan (Chenai Chikanza) yn ail-act Rhan Un [llun Craig Fuller]

Cwta 20 munud ydi’r ail ‘act’ ddryslyd a llawn rhegfeydd, a'i hunig bwrpas ydi cyflwyno Elan (Chenai Chikanza) o Fangor y presennol, sydd angen dychwelyd “i’r parti ar y Pier” gan wahodd ‘plant Annwn' [yr isfyd wedi boddi Caer Arianrhod] i fynd gyda hi. "Miloedd o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac mae disgynyddion Arianrhod yn dal i fyw mewn ofn ar wely’r cefnfor," ydi'r eglurhad ar y wefan, a chawn ein cyflwyno i dri chymeriad arall sef yr Heulwen feichiog (Mirain Fflur) a'i gŵr/brawd? Madoc (Owen Alun) a Seren (Aisha-May Hunte). Mae'r tri yn ymdrechu i gladdu 'Dylan' (Dylan Eil-Don? brawd/gŵr/plentyn?) cyn cael eu tywys o'r isfyd i "brofi’r tir uwchben".


Elan (Chenai Chikanza) yn ail-act Rhan Un [llun Craig Fuller]

Rhaid canmol portread grymus yr actores 16 oed [Chenai Chikanza] o'r cymeriad unigryw Elan, oedd yn dod â gwefr drydanol i'r act ddi-angen yma. Os mai cynrychioli ieuenctid cyfredol Bangor oedd y bwriad, yna mae'r fratiaith a'r rhesu o regfeydd yn argoeli'n dywyll iawn at ddyfodol iaith y Gymru Fydd. Anghyson hefyd oedd ei chymeriad, gan iddi'n amlwg fod wedi derbyn addysg Gymraeg eithaf safonol o wybod am gefndir Arianrhod a'r Mabinogi! Mae'n drueni na chyflwynwyd Elan a'r cymeriadau eraill wedi'r boddi theatrig ar ddiwedd yr act gyntaf, fyddai wedi cynnal uchafbwynt y cynhyrchiad theatrig yma, hyd y diwedd.


OLION - Rhan Dau: Yr Isfyd  **  [* a'r drydedd * am y prosiect cymunedol]


Gethin Evans (cyfarwyddwr artistig Frân Wen) yn egluro golygfa gyntaf Rhan Dau

A dyma ddod at yr Ail Ran oedd i fod i gychwyn ar y pier ym Mangor yn y parti "cwïar ar y pier" dan arweiniad y cymeriad unigryw arall, Maggi Noggi (Kristoffer Hughes). Digwydd bod, roeddwn eisioes wedi cael cyfle i ddarllen braslun o gynnwys OLION - Rhan Dau: Yr Isfyd drwy linc gyfrifiadurol ar bostyn ger Pier Bangor.

 

Cyn dod at yr ail-ran fel cynhyrchiad theatr, rhaid nodi bod y prosiect OLION yn "rhaglen 15 mis o weithgareddau [wedi] ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd [ac] wedi derbyn £252,911 gan Lywodraeth y DU drwy eu Cronfa Ffyniant Gyffredin". Rhan ganolog a phwysig o'r prosiect ydi Gŵyl Adda Fest, a drefnwyd yn ystod y prynhawn ar gae Ffordd Glynne, yn Hirael [ger Pwll Nofo Bangor].


Fel prosiect 'promenade', neu ar gerdded, oedd man cychwyn Rhan Dau, wedi'i gyfarwyddo gan Marc Rees. Roeddwn i eisioes wedi profi y math yma o 'gynhyrchiad theatrig' dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf, gan gynnwys yng Nghymru The Passion ym Mhorth Talbot, Tir Sir Gâr yng Nghaerfyrddin a Raw Material : Llareggub Revistied yn Nhalacharn. Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen asgwrn cefn storïol cryf, a thîm cynhyrchu a chreadigol cryfach!. 


Yn drasig o anffodus, yn dilyn "digwyddiad" ar/ger Pier Bangor yn ystod y prynhawn, bu'n rhaid i Gethin Evans ein hysbysu fel 400 o gynulleidfa ddisgwyliedig, na fyddai'n addas o ran parch, i'r cwmni lwyfannu'r olygfa agoriadol ar y Pier. Yn hytrach, rhoddwyd inni lith ddisgrifiadol brys o'r hyn oedd i fod i ddigwydd, tra bod yr actorion yn sefyll mewn rhes tu cefn iddo yn y maes parcio. Siawns na ellid fod wedi cyfleu'r prif ddigwydd a'r dweud mewn ffordd mwy creadigol? Wedi cwbl, onid byrfyrio a chreu ydi dawn gynhenid pob actor a chyfarwyddwr?


O ganlyniad i golli'r elfen weledol a chlywedol o'r olygfa gyntaf, anodd iawn oedd deall eto, beth oedd bwriad a stori y ddwy awr a hanner a ddilynodd. O ia, 'bod yn wahanol'.  Mae'n anodd bod yn or-feirniadol, gan fod y gymuned leol a'r elusennau yn ran mor annatod o'r cynhyrchiad, ond a bod yn deg â ni fel cynulleidfa, roedd na feiau a bylchau mawr yn ein dealltwriaeth o'r hyn yr oeddem i fod i'w weld, a'i gasglu o'r darnau di-siâp o'r jig-so. Diog ac anfaddeuol ydi dibynnu neu ddisgwyl i'r gynulleidfa ddarllen y syniad ar bapur ac mi ddylai Frân Wen ddysgu o'r camgymeriad enfawr yma.


Yr hyn ddeallais i, o beth weles i, [ac nid o beth ddarllenais i!], roedd y tri cymeriad a welsom yn act 2 o Ran Un [disgynyddion Annwn] yn dychwelyd i Fangor, gyda'r cymeriad Elan. Roedd Elan (Chenai Chikanza) wedi ffoi o'i chartref, a'i mam Gwyneth (Rhian Blythe) [nyrs yn Ysbyty Gwynedd], yn chwilio'n daer am ei merch, drwy gydol y rhan. Ar y pier, yr hyn yr oeddem i fod i'w brofi [a siawns na ellid o leiaf fod wedi rhoi blas inni ohono?] oedd y parti 'cwïar ar y pier', wedi'i drefnu fel "[g]wrthwynebiad i Gŵyl Adda Fest". Yn anffodus, yn weledol, roedd y tri cymeriad [Heulwen, Madoc a Seren] yn edrych fel trychfilod dychrynllyd, y tro cyntaf inni ei gweld yn y byd yma, a mwya'r sydyn, roedd y tri "ar ffo".


Yr ymwelwyr o Annwn yn Rhan Dau


Felly, wrth gael ein hebrwng ar y daith o'r Pier, roeddem i brofi sawl golygfa gymunedol gyda'r bwriad o ychwanegu at y ddrama.  Sylwais ar hen-wr yn rhaffu geiriau tu allan i dafarn, ac am na chawsom gyfle ddigon hir i aros a cheisio synnwyr, [gan ein gyrru ymlaen fel gyrr o wartheg] collwyd ystyr a chyfraniad sawl golygfa. Gwelais ddwy wraig yn dadlau? trafod? poeni? ar lôn y Garth a wedyn tair geneth yn ystumio'n greadigol ar y traeth, heb eto, ddeall yr ystyr storïol. Ymlaen at griw o bobol ifanc yn chwarae? ac yn gefnlen iddynt y geiriau "cewch groeso yma" felly, roedd y gymuned yn barod i roi croeso i'r creaduriaid dychrynllyd yma, er gwaetha'r ffaith bod nhw'n cael dylanwad negyddol ar eu plant? 


Amrywiol olygefydd ar ein taith yn Rhan Dau


Collwyd pob cyfeiriad at, ac unrhyw olwg  [neu o leiaf gorymdaith o Falchder] y "cwïars ar y Pier",  hyd nes dod at Maggi Noggi yn meimio cân Caryl Parry Jones [am dreulio noson gyfan yn recordio cân yn stiwdio Sain, Llandwrog] sef Nos yng Nghaer Arianrhod. Ac wedi hynny, fel Blodeuwedd gynt, diflannodd Maggi o'r cynhyrchiad heb yngan gair o gwbl, a cholli cyfle am linyn storïol cryf 'am fod yn wahanol' ond derbyniol. Onid geiriau olaf Blodeuwedd yn nrama Saunders Lewis yw "Hedaf i Gaer Arianrhod. Caf gan dy chwaer / Groeso anghyffredin i ferch yng nghyfraith."?


Ymlaen â ni at leoliad Gŵyl Adda Fest, a golygfa gyda dialog y tro hwn. Yma gwelsom Gwyneth (Rhian Blythe) yn gweld ei merch Elan (Chenai Chikanza) yn annerch y dorf, tra bod un o'r ymwelwyr dychrynllyd, [Madoc (Owen Alun)] yn cael ei ddal gan yr heddlu? y dorf? y ddinas?. Yn annerch y dorf [ni] oedd yr actor Owain Gwynn, rhyw fath o drefnydd yr Ŵyl? O ail-ddarllen crynodeb o Ran Dau, fe gollwyd sawl llinyn storïol pwysig o'r olygfa agoriadol, dialog fyddai wedi ein cynorthwyo i ddeall pam bod Elan wedi dianc o'i chartref, a pham bod Maggi Noggi yn rhan o'r cynhyrchiad o gwbl?! 


Amrywiol olygefydd ar ein taith yn Rhan Dau

Er tegwch i rai o'r 400 ohonom fu'n ceisio gwneud synnwyr o'r cynhyrchiad, neu'r rhai a dalodd i weld Rhan Un, heb fedru cael tocyn i Ran Dau, dyma'r hadau holl bwysig a fethwyd ei gyfleu yn weledol na'n glywedol o'r olygfa gyntaf. [yn union fel sy'n cael ei nodi ar eu gwefan] "Mae Elan ar y pier gyda’i ffrindiau, yn cwyno am ei mam ac yn ei chymharu â’r Arianrhod ‘drwg’ y mae hi wedi bod yn dysgu amdani yn yr ysgol. Mae Maggi [Noggi] yn croesawu’r bobl ifanc gyda breichiau agored ac mae parti yn cychwyn. Mae Elan yn mynd mewn i siop Maggi -‘Dragwyddoldeb’ - ac yn gwisgo ei gwisg am y noson sy’n gwneud iddi edrych fel Arianrhod 2.0. Yn nghanol popeth, mae Elan yn derbyn galwad gan ei mam, mae hi’n ben boeth ac yn gwthio Elan yn rhy bell - efallai ychydig yn rhy bell yn llythrennol! Mae Elan yn diflannu am ychydig funudau ar ôl disgyn i’r dŵr. Ein amser ni = Mae Elan yn diflannu am ychydig funudau. Yn y byd = Mae Elan yn suddo i waelod Afon Menai ac yn cyfarfod â Madoc, Heulwen a Seren (Act 2 o sioe llwyfan OLION). Mae Elan yn ymddangos o’r dŵr, yn dringo i fyny’r pier, ac mae’n cael ei dilyn gan dri creadur sydd wedi eu synnu gan y byd o’u cwmpas ac sy’n perfformio defod cyfarwydd er mwyn diogelu eu hunain. Maent yn dod ar draws prysurdeb gwyllt a seirennau yr heddlu, felly maent yn penderfynu dianc a chwilio am loches er mwyn cael amser i gynllunio."

Y ddwy olygfa wrthgyferbyniol yn y Nyth a Pwll Nofio Bangor o Rhan Dau

Ar gychwyn y cynhyrchiad, rhoddwyd inni gerdyn ar linyn, oedd yn dynodi lle yr oeddem i fod ar amser benodol. Rhanwyd y gynulleidfa yn ddwy, er mwyn profi dwy olygfa wahanol mewn dau leoliad wrthgyferbyniol. Eto, o beth ddeallais i o'i gweld, golygfa Heulwen (Mirain Fflur) yn rhoi genedigaeth i'w phlentyn yng nghartref newydd a chwaethus Frân Wen sef Nyth, ac wedyn carchariad a rhyddhad y dieithryn Madoc (Owen Alun) mewn golygfa drawiadol gydag Owain Gwynn yn y Pwll Nofio. Mi wnes i fwynhau'r ddwy olygfa, yn enwedig yr un yn y Pwll Nofio, am bod yna rhyw lun o ystyr a chnawd o dan y ddialog oedd yn cael ei gyflwyno. Ac eto, roedd y neges tu cefn i'r dweud 'am fod yn wahanol' yn anneglur.

Ffwndrus a rhwystredigaethus oedd Rhan Dau, yn ei gyfanrwydd, a phlîs peidiwch â bod mor nawddoglyd a disgwyl i ni, fel cynllulleidfa geisio canfod atebion ein hunain, yn y gelfyddyd ddryslyd â gyflwynwyd. Llwyddiant cynyrchiadau tebyg i Tir Sir Gâr a The Passion ydi sgript cychwynol cryf a deallus, sy'n parchu'i chynulleidfa o'r olygfa gyntaf. Ac onid un o gamau sylfaenol unrhyw gynhyrchiad o'r math yma [yn enwedig tu allan] ydi trefnu bod 'contingency plan' a lleoliad-wrth-gefn wrth law, petai'r tywydd yn wael, neu bod ryw "digwyddiad" annisgwyl yn chwalu'r gobeithion gwreiddiol? O'n i'n meddwl bod yn rhaid darparu'r fath gynllun at ddibenion yr ysweiriant cyhoeddus, er mwyn gwarchod pawb? Efallai bod y Frân Wen wedi bod yn rhy uchelgeisiol y tro hwn, drwy gyflwyno dau gynhyrchiad a gŵyl dros un diwrnod, heb seiliau ddigon cryf i'r Ail Ran.

Er gwaetha'r ddialog druenus, a'r diwedd pawb-yn-caru'i-gilydd-am-byth, roedd yr 'olygfa olaf eto'n ddramatig a theatrig, a hawdd gweld lle y gwariwyd ran helaeth o'r £250,000! Rhaid llongyfarch Frân Wen am anelu yn uchel, ac am eu gwaith canmoladwy o fewn y gymuned. Roedd y mwynhâd ar wyneb y cast lleol o bob oed yn heintus a chalonogol, ond siom blêr gocheladwy oedd Rhan Dau fel cyfanwaith theatrig. Diolch byth bod Rhan Tri: Y Fam, ar ffilm! [yn yr Hydref].


Y diweddglo


 

Friday 20 September 2024

Slave Play - Duke of York Theatre

Dwi 'di gweld digon o theatr erbyn hyn i fod yn eangfrydig; neu dyna o'n i'n credu tan brynhawn ddoe, pan weles i'r ddrama 'ddadleuol' Slave Play.  Rhaid imi fod yn onest a datgan imi deimlo elfennau o'r un ffieidd-dra a wnes i wedi gweld y ddrama Blasted gan Sarah Kane bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.

Ro'n i'n ymwybodol cyn cyrraedd theatr y Duke Of York fod hon yn ddrama sydd wedi codi twrw ymhell cyn iddi agor yma yn Llundain. Wedi cyfnod llwyddiannus ar Broadway a gwobrau theatr lu yn yr UDA, roedd cyhoeddi eu bwriad o gynnal nosweithiau gyda chynulleidfaoedd "Black only" yn boenus o ddadleuol, gan bawb o bob lliw. Dychmygwch wneud yr un peth gyda chynulleidfa croenwyn?! Pwy fydda’r cyntaf i godi twrw wedyn? Heip marchnata bwriadol? Gewch chi benderfynu.
 
"Yn y 'MacGregor Plantation' mae'r 'Old South' yn fyw o hyd," dywed deunydd marchnata'r ddrama; "Mae 'na wres yn yr awyr, yn y caeau cotwm ac ym mhŵer y chwip. Ac eto, nid haul yw popeth melyn... tybed?" Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl. Yn fwriadol. Glywes i awgrym nad oedd y ddrama na'r cynhyrchiad yn cyd fynd â'r disgwyliadau Prydeinig am ddrama gyfnod, 'rymus. Ac felly, dyna pam y mentrais i'w gweld.
 


Wrth gyrraedd y theatr, mae cynorthwyr y swyddfa docynnau yn gosod sticeri Starbucks ar lens camerâu ein ffonau symudol. Dim byd newydd yn hynny, gan i'r un peth gael ei wneud sawl gwaith o'r blaen, er mwyn diogelu cyfrinedd y cynhyrchiad (ac yn y pen draw, i warchod noethi'r prif gymeriadau). Camu wedyn i'r theatr, ac wynebu llwyfan llawn o ddrychau enfawr, fel ein bod ni, y gynulleidfa, yn cael ein hatgoffa mai adlewyrchiad ohonom ni fel cymdeithas (croenwyn?) sydd yma. Eto, dim byd newydd. A rhaid nodi, mewn matinee bnawn Mercher ym mis Medi, mai gwyn oedd o leiaf 85% o'r gynulleidfa. Roeddwn i'n falch iawn o gwmni'r ddwy ddynes groenddu oedrannus, oedd yn mwynhau eu hufen iâ wrth fy ochor, cyn i'r cynhyrchiad gychwyn.
 
Chwalwyd yr holl ddisgwyliadau yn fuan iawn. Fe gychwyn y ddrama gyda thair senario wahanol; morwyn groenddu mewn gwisg gyfnod yn sgubo'r llawr, cyn cael ei herio gan ei meistr croenwyn. Herio ta fflyrtio? Dyna'r amwysedd bwriadol. Fe orffennir yr olygfa gyda'r ddau yn ymgodymu mewn cyfathrach rywiol amlwg, wedi i'r meistr ddefnyddio termau sarhaus i'w chyfarch. Yn yr ail olygfa, cawn ein cyflwyno i ddau gymeriad hanesyddol arall, mewn gwisgoedd cyfnod; y dywysoges croenwyn sydd eto yn herio (ta fflyrtio?) ei gwas, sy'n ymddangos yn groenwyn, ac mae'r olygfa hon hefyd yn diweddu mewn cyfathrach rywiol, wahanol i'r arferol! Ai ddim i fanylu, dim ond awgrymu mai hi oedd â'r grym y tro hwn, gyda chymorth pidyn plastig du!. A pharhau wnaeth y thema yn y drydedd olygfa, ond gyda dau ŵr bonheddig y tro hwn; y gwas ffarm croenwyn a'r meistr o ffermwr croenddu. Yma eto, mae yma herio (ta fflyrtio?) sydd, fel da chi'n disgwyl, yn diweddu mewn gweithred rywiol arall, gyda'r gwas croenwyn yn llyfu bŵts lledr y ffarmwr, tra bod yntau'n amlwg yn cyrraedd uchafbwynt o gyffro rhywiol. Comedi ta sioc fwriadol?
 
Doedd gen i ddim syniad be aflwydd o'n i 'di talu i'w weld!. Gyda llaw, gwell imi nodi (er budd yr Eisteddfod Genedlaethol!) mai dramodydd croenddu o'r Amerig, Jeremy O.Harris sy'n gyfrifol am y gwaith, sy'n digwydd bod yn hoyw hefyd. Pam crybwyll hynny? Wel, am ei fod yn rhan annatod o'r holl genadwri sy'n cael ei wthio allan i'r gynulleidfa Brydeinig. Cenadwri sy'n ceisio (ac yn methu yn ôl mwyafrif o'r adolygwyr yma yn Llundain) i'w egluro yn ail-ran y ddrama; ail ran ar bapur yn unig, gan nad oes toriad rhwng y ddwy ran, ac felly carcharir y gynulleidfa yn ein lle am dros ddwy awr!



Gan fod y cynhyrchiad yn dod i ben ymhen tridiau, fyddai ddim yn chwalu amwysedd y ddrama drwy ddatgelu mai gweithdy mewn grŵp seicoleg, yw'r tair golygfa a welwyd gyntaf. Gweithdy i gyplau priod cymysg, er mwyn eu helpu gyda phroblemau rhywiol. Torrir ar y romp hanesyddol gan y waedd "Starbucks" - 'gair saff' yr arbrawf seicolegol, cyn i'r ddwy seiciatrydd ifanc, un yn groenwyn, a'r llall yn groenddu, ddod i ail-osod y llwyfan. Dwy, gyda llaw, sydd mewn perthynas ramantaidd â'i gilydd. Wrth greu hanner cylch o gadeiriau melyn yn eu deuoedd, rhydd gyfle i'r cyplau a welwyd yn y rhan gyntaf i newid i'w gwisgoedd cyfoes, cyn ymuno yn yr (hanner) cylch.
 
Falla mai dyma'r fan imi gyfaddef mod i'n ffan fawr o'r gyfres deledu Americanaidd Couples Therapy gyda Dr Orna Guralnik, sydd i'w weld ar y BBC yma'n Mhrydain. A dyma'r senario sy'n cael ei gyflwyno yn yr "awr" nesa, wrth i'r ddwy seiciatrydd geisio dehongli'r "ffantasïau rhywiol" a welwyd yn y rhan gyntaf. Ffantasïau sydd i fod i ddatgelu'r elfennau negyddol oddi mewn i'r priodasau cymysg, ond sy'n troi'n ffars gymysglyd greulon. Codi hwyl ar yr holl broses o therapi sy'n cael ei gyfleu i gychwyn, gyda'r ddwy arweinydd yn defnyddio'u sgiliau therapi eithafol i geisio cael pawb yn y cylch i rannu eu teimladau a'u hofnau a'u dyheadau. Yr elfen fwyaf sy'n cael ei drafod ydi'r syniad o "white privilige" a pha hawl sydd gan y gwynion i drin y duon yn eilradd. Ydi, mae hi'n hen ddadl ac yn un sy'n haeddu triniaeth sensitif, ond yn anffodus, tydi'r ddrama hon ddim yn helpu'r achos.
 
Brafado (hoyw?) y dramodydd a'm trawodd i fwya'; y gor-drafod bod pidynnau'r duon yn fwy na'r gwynion, ac felly yn eu gosod uwchlaw, yn nhermau rhywiol. Aneglur ac anghyson ydi teimladau'r cymeriadau i gyd, heblaw'r ergyd olaf bob tro, mai bai ni'r gwynion ydi popeth!. 



Es i weld y ddrama er mwyn dysgu, er mwyn profi er mwyn gwrando, ond dychwelais (mi fentrai) gyda chenadwri wrthgyferbyniol i'r hyn a fwriadwyd. Oes, mae yna gic go hegar yn yr olygfa olaf un, a honno'n olygfa boenus a phryderus, nad oes dim byd yn newid i bobol groenddu.  Ond am weddill y ddrama, yr elfen o sioc heb foeswers sy'n aros. Sioc er mwyn sioc er mwyn comedi, sydd mor wahanol i'r ffieidd-dra addysgiadol a phwerus yng ngwaith Sarah Kane, neu Mark Ravenhill, sy'n holi'r dramodydd yn y rhaglen. 
 
Mae angen dramâu sy'n trafod profiad pawb yn y byd, waeth beth fo lliw eu croen neu'i crefydd, neu'r iaith sy'n dod o'u genau. Mae yna le sicr i angerdd a gwylltineb a sgrechfeydd o dyma'n-profiad-ni-felly-gwrandewch. Ac heb os, ar y llwyfan yw un o'r llefydd mwyaf grymus i wneud hynny. Ond mae'n rhaid i'r deunydd fod yn ddeallus i bawb, yn ddeallus ac addysgiadol, nid yn fygythiol a gor-ymosodol. Mae lliwio pawb â'r un brwsh yr un mor beryglus a'i anwybyddu. 
 
Yr unig rai ar eu traed ar ddiwedd y ddrama oedd y 15% o'r gynulleidfa groenddu, ar wahân i'r ddwy gymdoges a fu wrth fy ochor, a adawodd y theatr ar ôl awr a hanner.