Dwi 'di gweld digon o theatr erbyn hyn i fod yn eangfrydig; neu dyna o'n i'n credu tan brynhawn ddoe, pan weles i'r ddrama 'ddadleuol' Slave Play. Rhaid imi fod yn onest a datgan imi deimlo elfennau o'r un ffieidd-dra a wnes i wedi gweld y ddrama Blasted gan Sarah Kane bron i ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.
Ro'n i'n ymwybodol cyn cyrraedd theatr y Duke Of York fod hon yn ddrama sydd wedi codi twrw ymhell cyn iddi agor yma yn Llundain. Wedi cyfnod llwyddiannus ar Broadway a gwobrau theatr lu yn yr UDA, roedd cyhoeddi eu bwriad o gynnal nosweithiau gyda chynulleidfaoedd "Black only" yn boenus o ddadleuol, gan bawb o bob lliw. Dychmygwch wneud yr un peth gyda chynulleidfa croenwyn?! Pwy fydda’r cyntaf i godi twrw wedyn? Heip marchnata bwriadol? Gewch chi benderfynu.
"Yn y 'MacGregor Plantation' mae'r 'Old South' yn fyw o hyd," dywed deunydd marchnata'r ddrama; "Mae 'na wres yn yr awyr, yn y caeau cotwm ac ym mhŵer y chwip. Ac eto, nid haul yw popeth melyn... tybed?" Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl. Yn fwriadol. Glywes i awgrym nad oedd y ddrama na'r cynhyrchiad yn cyd fynd â'r disgwyliadau Prydeinig am ddrama gyfnod, 'rymus. Ac felly, dyna pam y mentrais i'w gweld.
Wrth gyrraedd y theatr, mae cynorthwyr y swyddfa docynnau yn gosod sticeri Starbucks ar lens camerâu ein ffonau symudol. Dim byd newydd yn hynny, gan i'r un peth gael ei wneud sawl gwaith o'r blaen, er mwyn diogelu cyfrinedd y cynhyrchiad (ac yn y pen draw, i warchod noethi'r prif gymeriadau). Camu wedyn i'r theatr, ac wynebu llwyfan llawn o ddrychau enfawr, fel ein bod ni, y gynulleidfa, yn cael ein hatgoffa mai adlewyrchiad ohonom ni fel cymdeithas (croenwyn?) sydd yma. Eto, dim byd newydd. A rhaid nodi, mewn matinee bnawn Mercher ym mis Medi, mai gwyn oedd o leiaf 85% o'r gynulleidfa. Roeddwn i'n falch iawn o gwmni'r ddwy ddynes groenddu oedrannus, oedd yn mwynhau eu hufen iâ wrth fy ochor, cyn i'r cynhyrchiad gychwyn.
Chwalwyd yr holl ddisgwyliadau yn fuan iawn. Fe gychwyn y ddrama gyda thair senario wahanol; morwyn groenddu mewn gwisg gyfnod yn sgubo'r llawr, cyn cael ei herio gan ei meistr croenwyn. Herio ta fflyrtio? Dyna'r amwysedd bwriadol. Fe orffennir yr olygfa gyda'r ddau yn ymgodymu mewn cyfathrach rywiol amlwg, wedi i'r meistr ddefnyddio termau sarhaus i'w chyfarch. Yn yr ail olygfa, cawn ein cyflwyno i ddau gymeriad hanesyddol arall, mewn gwisgoedd cyfnod; y dywysoges croenwyn sydd eto yn herio (ta fflyrtio?) ei gwas, sy'n ymddangos yn groenwyn, ac mae'r olygfa hon hefyd yn diweddu mewn cyfathrach rywiol, wahanol i'r arferol! Ai ddim i fanylu, dim ond awgrymu mai hi oedd â'r grym y tro hwn, gyda chymorth pidyn plastig du!. A pharhau wnaeth y thema yn y drydedd olygfa, ond gyda dau ŵr bonheddig y tro hwn; y gwas ffarm croenwyn a'r meistr o ffermwr croenddu. Yma eto, mae yma herio (ta fflyrtio?) sydd, fel da chi'n disgwyl, yn diweddu mewn gweithred rywiol arall, gyda'r gwas croenwyn yn llyfu bŵts lledr y ffarmwr, tra bod yntau'n amlwg yn cyrraedd uchafbwynt o gyffro rhywiol. Comedi ta sioc fwriadol?
Doedd gen i ddim syniad be aflwydd o'n i 'di talu i'w weld!. Gyda llaw, gwell imi nodi (er budd yr Eisteddfod Genedlaethol!) mai dramodydd croenddu o'r Amerig, Jeremy O.Harris sy'n gyfrifol am y gwaith, sy'n digwydd bod yn hoyw hefyd. Pam crybwyll hynny? Wel, am ei fod yn rhan annatod o'r holl genadwri sy'n cael ei wthio allan i'r gynulleidfa Brydeinig. Cenadwri sy'n ceisio (ac yn methu yn ôl mwyafrif o'r adolygwyr yma yn Llundain) i'w egluro yn ail-ran y ddrama; ail ran ar bapur yn unig, gan nad oes toriad rhwng y ddwy ran, ac felly carcharir y gynulleidfa yn ein lle am dros ddwy awr!
Gan fod y cynhyrchiad yn dod i ben ymhen tridiau, fyddai ddim yn chwalu amwysedd y ddrama drwy ddatgelu mai gweithdy mewn grŵp seicoleg, yw'r tair golygfa a welwyd gyntaf. Gweithdy i gyplau priod cymysg, er mwyn eu helpu gyda phroblemau rhywiol. Torrir ar y romp hanesyddol gan y waedd "Starbucks" - 'gair saff' yr arbrawf seicolegol, cyn i'r ddwy seiciatrydd ifanc, un yn groenwyn, a'r llall yn groenddu, ddod i ail-osod y llwyfan. Dwy, gyda llaw, sydd mewn perthynas ramantaidd â'i gilydd. Wrth greu hanner cylch o gadeiriau melyn yn eu deuoedd, rhydd gyfle i'r cyplau a welwyd yn y rhan gyntaf i newid i'w gwisgoedd cyfoes, cyn ymuno yn yr (hanner) cylch.
Falla mai dyma'r fan imi gyfaddef mod i'n ffan fawr o'r gyfres deledu Americanaidd Couples Therapy gyda Dr Orna Guralnik, sydd i'w weld ar y BBC yma'n Mhrydain. A dyma'r senario sy'n cael ei gyflwyno yn yr "awr" nesa, wrth i'r ddwy seiciatrydd geisio dehongli'r "ffantasïau rhywiol" a welwyd yn y rhan gyntaf. Ffantasïau sydd i fod i ddatgelu'r elfennau negyddol oddi mewn i'r priodasau cymysg, ond sy'n troi'n ffars gymysglyd greulon. Codi hwyl ar yr holl broses o therapi sy'n cael ei gyfleu i gychwyn, gyda'r ddwy arweinydd yn defnyddio'u sgiliau therapi eithafol i geisio cael pawb yn y cylch i rannu eu teimladau a'u hofnau a'u dyheadau. Yr elfen fwyaf sy'n cael ei drafod ydi'r syniad o "white privilige" a pha hawl sydd gan y gwynion i drin y duon yn eilradd. Ydi, mae hi'n hen ddadl ac yn un sy'n haeddu triniaeth sensitif, ond yn anffodus, tydi'r ddrama hon ddim yn helpu'r achos.
Brafado (hoyw?) y dramodydd a'm trawodd i fwya'; y gor-drafod bod pidynnau'r duon yn fwy na'r gwynion, ac felly yn eu gosod uwchlaw, yn nhermau rhywiol. Aneglur ac anghyson ydi teimladau'r cymeriadau i gyd, heblaw'r ergyd olaf bob tro, mai bai ni'r gwynion ydi popeth!.
Es i weld y ddrama er mwyn dysgu, er mwyn profi er mwyn gwrando, ond dychwelais (mi fentrai) gyda chenadwri wrthgyferbyniol i'r hyn a fwriadwyd. Oes, mae yna gic go hegar yn yr olygfa olaf un, a honno'n olygfa boenus a phryderus, nad oes dim byd yn newid i bobol groenddu. Ond am weddill y ddrama, yr elfen o sioc heb foeswers sy'n aros. Sioc er mwyn sioc er mwyn comedi, sydd mor wahanol i'r ffieidd-dra addysgiadol a phwerus yng ngwaith Sarah Kane, neu Mark Ravenhill, sy'n holi'r dramodydd yn y rhaglen.
Mae angen dramâu sy'n trafod profiad pawb yn y byd, waeth beth fo lliw eu croen neu'i crefydd, neu'r iaith sy'n dod o'u genau. Mae yna le sicr i angerdd a gwylltineb a sgrechfeydd o dyma'n-profiad-ni-felly-gwrandewch. Ac heb os, ar y llwyfan yw un o'r llefydd mwyaf grymus i wneud hynny. Ond mae'n rhaid i'r deunydd fod yn ddeallus i bawb, yn ddeallus ac addysgiadol, nid yn fygythiol a gor-ymosodol. Mae lliwio pawb â'r un brwsh yr un mor beryglus a'i anwybyddu.
Yr unig rai ar eu traed ar ddiwedd y ddrama oedd y 15% o'r gynulleidfa groenddu, ar wahân i'r ddwy gymdoges a fu wrth fy ochor, a adawodd y theatr ar ôl awr a hanner.
No comments:
Post a Comment