'Hanes teulu, tynged ffarm' yw'r hedyn sy'n cael ei blannu ar wahoddiad Theatr Genedlaethol Cymru i brofi cyfoeth Tir Sir Gâr. 'Mewn undeb mae nerth', medd yr hen air, ac mae hynny i'w weld yn amlwg yn ffrwyth llafur y criw creadigol fu'n aredig a medi'r cynhaeaf o gynhyrchiad cofiadwy hwn.
Yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, mae'r profiad yn
cychwyn, o dan do sied fuarth cyfoes ble y plethwyd bocsys o neon llachar â
bara brith a phaned boeth. Gair o groeso gan yr MC Marc Rees, yn ein hannog i
wylio'r sgrin fideo fawr, a'i ddeuddeg delwedd i'w canfod ar y daith ddirgel.
Bob delwedd a'i arwyddocâd pryfoclyd fel 'egin', 'addysg' neu 'llafur'.
Yn ei ail gyflwyniad (diangen a diddychymyg dramatig) ar
y bws o'r Neuadd i'r Amgueddfa, fe ddywedir wrthym fod dwy stori am eu gosod
ger ein bron, ffuglen a ffaith. Am deulu Bryn (Dewi Rhys Williams) ac Anne
Jenkins (Rhian Morgan) ac am fyd 'amaeth a aeth'.
Ymlaen â'r daith ar droed, heibio i dractor a rhagor o
ddelweddau i godi chwilfrydedd cyn ein caethiwo yng nghegin fferm Pen Cerrig,
a'n cyflwyno i'r teulu trist oddi mewn. 'Arwel' (Siôn Ifan) y mab anhapus a
blin a arhosodd adre, 'Non' (Lucy Hannah) unig obaith ifanc y fferm a'r mab
hynaf 'Celyn' (Gwydion Rhys) sy'n dychwelyd o ddinas Llundain ar drên drwy
ymson trawiadol dros ben.
Parhau wna'r perlau o ymsonau gydol y daith a phob un yn
gymysg o'r dwys a'r doniol. Poen hiraethu'r fam wrth anwesu llwch ei llafur,
neu ysfa am ryddhad 'Non' o'r negyddol sy'n boddi ei breuddwydion. Salwch meddwl
cynnil ond clyfar y ferch hynaf, 'Luned' (Catherine Ayers) sy'n dyheu am
awyrgylch glinigol lân yr archfarchnad fawr na budreddi caled y fferm farw. Un
o gryfderau'r gwaith heb os yw sgript gyhyrog a barddonol Roger Williams wedi'i
gyfarwyddo'n sensitif tu hwnt gan y 'cyfarwyddwr theatraidd' Lee Haven Jones.
Fel gyda chynhyrchiad blaenorol y cwmni o 'Y Bont', mae'n
debyg y bydd rhai yn grwgnach y dylid fod wedi cyflwyno'r gwaith ar lwyfan
theatr foethus. Er imi annog y cwmni i beidio llwyr anghofio'r canolfannau
perfformio pwysig hyn, mae dewis i leoli'r digwydd yn yr Amgueddfa y tro hwn,
yn amlwg o berthnasol a phriodol.
Fe'n rhannwyd yn ôl lliw'r pecynnau am ein gwddf, a'n
tywys trwy Amgueddfa o atgofion y teulu, gan geisio dal a deall arwyddocâd y
delweddau a'r cyflwyniadau 'dawns' yn y wledd weledol. Cefais i, a sawl un
arall, ein boddi braidd gan rai o'r delweddau gan geisio'n galed i weld neu
wneud synnwyr o'r sain a'r symud. Trueni na chawson ymateb barddonol un o brif
feirdd Sir Gâr, I ddwysau'r ddelwedd ac i briodi'r llun a'r llwyfan.
Heb os, mae Tir Sir Gâr yn torri tir garw a gwreiddiol
iawn, ac yn sicr yn dir newydd i genhedlaeth fwy ifanc na mi. I'r rhai hŷn
ohonoch, mae adlais sicr yma o sioeau cynnar Brith Gof, ar ddechrau'r nawdegau.
Os ydi'r profiad wedi'ch cyffroi, yna mae'n werth ceisio gweld un o
gynyrchiadau meistri'r grefft, Cwmni Punchdrunk, y bues i'n ddigon ffodus i gyd
weithio â nhw ar 'The Masque of the Red Death' ble y trawsnewidiwyd Canolfan
Gelfyddydau Battersea yn set wefreiddiol i straeon tywyll Edgar Allan Poe.
Rhaid canmol Y Theatr Genedlaethol am fentro , a llwyddo,
ar y cyfan i fynd â ni ar daith storïol, emosiynol heriol iawn. O drydan
diffuant y dagrau ym mhortreadau actorion i'r neges glir am beryglon yr Oes
Gyfoes ar gadernid teulu a chymdogaeth, a'n hetifeddiaeth. Mynnwch eich sedd ar
y bws da chi, a dathlwn ddiolchgarwch eu cynhaeaf cyfoethog. Tir Sir Gâr, Tir
Sir Garu!
Mae'r cynhyrchiad i'w weld tan 27 o Ebrill. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com
Mae'r cynhyrchiad i'w weld tan 27 o Ebrill. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com
No comments:
Post a Comment