‘Gan ddechrau yn y dechrau’n deg’ ddewisiodd T James Jones, (wedi penbleth hir), yn ei
drosiad newydd o Dan y Wenallt, sydd ar fin ei gyhoeddi eleni, a’n bwrw ni'n
syth i'r 'noson o wanwyn' ym mhentref chwedlonol Dylan Thomas, Llareggub. Tra'n
ei gyfweld yng Nghei Newydd, am ei drosiad 'gwell na'r gwreiddiol' rai
blynyddoedd yn ôl, cyfaddefodd wrthyf
mai yno y seiliwyd y ddrama i leisiau unigryw, sy'n bla dros ein gwlad, ar hyn o bryd. Yno hefyd, oherwydd y strydoedd cul sy'n suo tua'r môr a'r hafan o gei cysurus,
y lleolwyd yr addasiad ffilm enwog gyda Richard Burton a Ryan Davies yn
serennu.
Sioc felly
oedd clywed National Theatre Wales, yn cyhoeddi'n dalog mai yn Nhalacharn y
seiliwyd y cyfan, yn eu digwyddiad diweddara, 'Raw Material - Llareggub Revisited'.
Yr artist Marc Rees a'r sgriptiwr (ynghyd â bod yn rheolwr Gwesty'r Browns yn y
pentref) Jon Treganna, yw 'awduron' y gwaith, er fy mod i dal i geisio canfod
stori a 'drama' heb sôn am theatr, yn y cyfan. Falle mai trigolion Talacharn a
roddodd ysbrydoliaeth i’r cymeriadau gwreiddiol, ond doedd fawr o ysbrydoliaeth
yn yr hyn a welais i ar achlysur dathlu canmlwyddiant geni’r bardd.
Wedi hunlle o
siwrne i gyrraedd, erbyn unarddeg ar fore Sadwrn (yr unig ddiwrnod o'r tri
dewis oedd yn ymarferol o Lundain, ar drafnidiaeth gyhoeddus rhwng y Sul a Gŵyl
y Banc), roedd gen i ddwy awr segur, wedi gorfod dal y bws o Gaerfyrddin am
0825 y bore. Cerdded ar fin y traeth, a chodi sgwrs gyda'r bore godwyr lleol,
a'u cŵn, sawl un yn rhan o'r sioe, medde nhw. 'Fuo ni wrthi am dri mis' medde
un wraig, gan gyhoeddi'n dalog ei bod hi a'i gŵr yn ‘gasglwyr cregyn gleision’,
yn y sioe. 'Mae 'na lot o newid wedi bod', ychwanegodd, 'a tyda ni ddim yn
gneud be oedd fod yn wreiddiol, am nad oedd y cwmni wedi derbyn caniatâd i
ddefnyddio'r ddrama', medda hi'n ddiniwed. Dyma ddechrau da, meddwn innau, gan
edrych ymlaen at weld y ddau, mewn cymeriad, yn hwyrach yn y dydd.
Ym mhatrwm
arferol y sioeau promenâd yma, cawsom ein hebrwng i wylio ffilm ddeg munud, ar
sawl sgrin teledu, a hynny roddodd gychwyn i'r digwyddiad ddwy awr a hanner,
bregus a ffwndrus hon. Wedi prolog byr am Dalacharn ar ffilm, cawsom ein
cyflwyno i'r postmon lleol a ddaeth a pharsel i'r prif gymeriad 'Voyce'
(Russell Gomer) oedd yn byw yn y tŷ/sied gerllaw, o fewn muriau'r amgueddfa
barhaol. Sgathru ar ei feic wnaeth y dieithryn blêr, a'i farf llaes a'i gap
gwlân, a mwclis o allweddi amrywiol yn canu'n swnllyd wrth symud. Yn ôl a ni
i'r ffilm, eto, wrth wylio taith ar y beic, drwy strydoedd y pentref, a chael
blas o rai o'r cymeriadau, yr oeddwn wedi gobeithio'u gweld, o fewn yr hyn oedd
i ddod.
O'r cwt
cyntaf i'r ail gwt, drwy strydoedd cul y pentref, ar gais y cymeriad 'Roy Ebsworth-Williams' (Charles
Dale), yr ail actor profiadol oedd yn rhan o'r digwyddiad. Wedi cyrraedd, cael
gair o groeso ganddo a'i gwmni teithio dychmygol 'Thomas Centenary Tours' a'u
fflyd o 'super elite coaches'. Wrth annerch y dyrfa, derbyniodd sawl neges
destun ar ei ffôn symudol, (dyfais theatrig hen ffasiwn a gwan iawn) oedd fod i
awgrymu bod y cymeriad yn cael perthynas cudd, ac yn methu ein tywys ymhellach,
am fod ganddo ddêt. Rhoddwyd map yn llaw bawb oedd yno, a'n cynghori i
ail-gwrdd o flaen y neuadd goffa, ymhen dwy awr. Wedi canu gweddi Eli Jenkins,
gan rai o gasglwyr cregyn y pentref, allan â ni, i ryddid ein dychymyg.
Oherwydd y niferoedd helaeth (rhan fwyaf ohonynt yn gyfeillion i'r cwmni, neu
Gyngor y Celfyddydau - does ryfedd fod y tocynnau cyhoeddus yn brin!!) methais
â gweld y lleoliadau cyntaf, gan ddilyn cyngor y dieithryn i grwydro fel ag y
mynnem, gan ddilyn y map.
Ymlaen â mi
am y môr, a dod i'r orsaf fws, ble y cyrhaeddais ynghynt. Yno roedd mur o
ffotograffau amrywiol o hen gartref, gwag a blêr. Yn cadw llygad ar yr
arddangosfa roedd gŵr lleol, a roddodd wybod imi mai yn y cyflwr yma, y
daethpwyd o hyd i'r tŷ. Ni allodd egluro imi pwy oedd yn byw yn y tŷ na ymhle
oedd ei leoliad, ac felly ymlaen aeth fy nhaith, fawr callach. Sied arall oedd
y lleoliad nesaf, a bwi yn crogi a siglo nôl a blaen o flaen sgrin enfawr yn
dangos ffilm o adar yn hedfan. 'Time passes' meddyliais oedd y bwriad
celfyddydol, heb weld arlliw o ddrama na stori. Ynghrog ar y mur oedd amlen oren
gyda’r llythrennau ‘T.E.N’ arno a gofynnais i geidwad y bwi os allwn i ei agor,
gan ddisgwyl cliw, cyngor neu gerdd. 'Croeso iti", meddai'r gŵr bonheddig,
'ond cwbl weli di, ydi copi o'n trwydded perfformio dros dro!', oedd ei ateb
diffuant. Ymlaen â mi i'r sied nesaf, a chlywed trac sain o Bob Dylan yn canu
'shelter from the storm' wrth wylio hwyl wen yn cael ei chwythu gan ffan. Dim
drama, na stori, na chymeriad byw, eto.
Rhag eich
diflasu, soniai ddim rhagor am gynnwys gweddill o'r siediau, dim ond datgan nad
oedd yr un undyn byw, oddi mewn iddynt. Odisa'r castell hynafol, roedd chwe
sied ynghlwm o dan yr enw 'Corrugation St', a thair tylluan fyw ar dennyn, ar
draeth o gregyn gleision, yn dystion mud ac ofnus i fontage o ddelweddau benthyg o raglen llawn enwogion y BBC.
Wedi dod ynghyd
i flaen y Neuadd Goffa, heb fedru cwblhau’r daith yn yr amser a roddwyd, cawsom
ein hail gyflwyno i’r Voyce, oedd yn cerdded o gylch yn neuadd, wrth aros i
weddill y dyrfa gyrraedd. Erbyn hyn, roedd yntau, fel ninnau yn edrych ar goll
yn llwyr, fel un o gymeriadau drama enwog Pirandello yn chwilio am awdur neu
stori. Wedi oedi hir, cyrhaeddodd cerbyd
gan dynnu sied arall o’i ôl, gyda’r geiriau ‘Fish and Chips’ yn fflachio mewn
neon bob ochor i’r ffenest fechan. Wedi
derbyn ei bryd, eisteddodd Voyce ar fainc bren gerllaw, ac ail ymddangosodd ein
tywysydd hefyd, oedd, erbyn hyn, yn feddw gaib, dan ganu cân arall, gan un o
gymeriadau pentref chwedlonol ‘Dillon’ Thomas.
Ddeallais i ddim beth oedd y cynnwrf na’r cysylltiad rhwng y ddau, ond
fe gafodd y tywysydd ei hebrwng oddi yno, heb reswm pellach am fodolaeth y cymeriad.
Dyfais theatrig, wan a dibwys arall, a fethodd yn llwyr.
Wedi cludo’r
Voyce llwglyd o gylch y Neuadd Goffa gan bedwar gŵr lleol, (oedd yn cynnwys yr
artist Marc Rees gyda llaw) fe ail ymddangosodd gyda mwgwd papur mache o
‘Dillon’ Thomas ar ei ben, cyn diflannu unwaith eto am y trydydd tro, a’r gwŷr
lleol erbyn hyn, yn cludo arch bren, a’i osod oddi mewn i’r sied ‘pysgod a
sglodion’ a’i gludo ymaith i’w angladd, i gyfeiliant gweddi Eli Jenkins
(unwaith eto!) gan y trigolion lleol.
Cawsom ein harwain i ddilyn yr orymdaith angladdol, a minnau yn mawr
obeithio cael ein tywys at lan bedd y bardd, yn y fynwent gerllaw. Ond siom
eto. Yn ôl i’r cwt sinc, a’r dyrfa niferus erbyn hyn wedi’i stwffio fel sardîns
i dun, er mwyn gwylio delweddau ar ffilm (unwaith eto) o angladd y bardd, cyn i
drigolion y pentref gael eu cyfle, gwta ddeng munud, i adrodd (a hynny gyda
chopïau o’r sgript yn eu dwylo) detholiad o’r ddrama i leisiau gwreiddiol.
Roedd y cyfan yn edrych yn embaras o amatur, ac yn gneud jôc o’r ‘Laugharne Players’ sydd wedi bod yn llwyfannu’r ddrama yn flynyddol ers 1958 . Cywilydd
enfawr ar Marc a Jon, ac i’r Theatr Genedlaethol am ganiatáu'r fath olygfa.
Wrth ymadael,
roedd bara a chocos yn cael ei weini ar fwrdd gerllaw’r fynedfa, a hyd yn oed
taswn i wirioneddol wedi bod isho blasu’r cynnyrch (lleol?), roedd yna lawer
gormod ohonom imi fedru cyrraedd y bwrdd, heb sôn am y bwyd, ac felly mynd yn
ôl am y bws, yn fwy digalon nag erioed, heb ddeall bwriad na diben y
‘digwyddiad’ (celfyddydol?) dybiedig yma.
Gyda
brwdfrydedd lleol enfawr, fel y profais ym Mhorth Talbot gyda chynhyrchiad
arall o eiddo’r NTW, a misoedd o waith ‘lleol’ yn yr ardal, roeddwn i wedi
disgwyl llawer mwy o’r ‘cynhyrchiad theatrig’ yma. Sawl tro yn ystod y daith, sylwais ar staff y
Theatr Genedlaethol, gan gynnwys yr arweinydd artistig yn arwain y beirniaid
theatr Genedlaethol, gan gynnwys Susannah Clapp o’r Observer, a Karen Price o’r
Western Mail (oedd ddigon bodlon i deithio i Dalacharn ar gyfer y digwyddiad
yma, ond a ddewisodd beidio mynychu’r WYTHNOS o ŵyl theatr Agor Drysau yn Aberystwyth!). Roedd ei ‘hadolygiad’ o’r digwyddiad ar-lein o fewn awr i ddiwedd y sioe, yn canmol y cwmni, fel arfer,
heb sôn o gwbl am wendidau amlwg y cyfan.
Hollol di duedd, wrth gwrs!
Ar wahân i’r
doliau bychan o’r cymeriadau, wedi’u gwau gan un o drigolion y pentref, oedd
i’w gweld hwnt ac yma o gylch y daith, doedd dim gwerth celfyddydol nac yn sicr
theatrig, i’r digwyddiad costus, siomedig hwn. Gyda’r fath leoliad bendigedig,
brwdfrydedd lleol, corneli cudd dramatig (fyddai wedi medru cynnal cameos
bendigedig o’r cymeriadau presennol – fel y cigydd a welsom yn tasgu’r gwaed ar
y lôn yn y ffilm), byddai’r cwmni wedi medru creu digwyddiad DRAMATIG hynod o
gofiadwy, yn hytrach na’r hunan gelfyddyd nawddoglyd siomedig a gawsom.
No comments:
Post a Comment