Dwi’n cofio sgwrsio, dro yn ôl,
gyda’r dramodydd (ifanc) James Graham, wedi gweld sawl drama wleidyddol
drawiadol, o’i eiddo. Fe gyfaddefodd ei fod yn casáu cael ei alw’n ‘ifanc’, gan
gredu’n gryf na ddylai oedran fod yn ystyriaeth, wrth drafod gwaith dramodydd.
Cytuno wnes i, gan ryfeddu at ei ddawn o fedru deall gwrthdrawiadau gwleidyddol
Tŷ’r Cyffredin ym 1974 yn y ddrama ‘This House’ a chreulondeb teyrnasiad
Thatcher yn ‘Little Madam’, digwyddiadau ymhell cyn ei eni yntau yn 1982.
Un o’r rhesymau pam imi ddewis
gweld cynhyrchiad diweddara’r sied goch, ar ystlys bryfoclyd y National
Theatre, oedd i weld gwaith Polly Stenham, dramodydd ‘ifanc’ arall, a anwyd ym
1986. Wedi llwyddiant ysgubol ei drama gyntaf ‘That Face’, a hithau gwta
ddeunaw oed, roeddwn yn awyddus iawn i wybod beth oedd ganddi i’w ddweud am y
byd sydd ohoni, yn ei drama newydd ‘Hotel’.
Yr ail reswm, am fod y Cymro
penfelyn Tom Rhys Harries yn portreadu mab y teulu cymhleth, oedd wedi dewis
gwyliau mewn gwesty ar ynys bellennig, er mwyn osgoi sylw’r wasg yn Lloegr. Fe
gydiodd y ddrama o’r cychwyn cyntaf, a hynny’n bennaf oherwydd dialog llithrig,
llawn llysnafedd y fam (Hermione Gulliford) oedd o’i cho’ gyda’i gŵr (Tom
Beard) am ei fod wedi’i ddal gan y Wasg, am yrru lluniau anweddus i ferch
ifanc, dros y Wê. Ynghanol y
cyfrinachau, roedd sawl awgrym storïol arall, ynghylch eu merch bedwararddeg
oed, (Shannon Tarbet), ac fe’m daliwyd gan we’r stori, am gadael yn ysu am
wybod mwy.
Ond, yn debyg iawn i ddrama
ddadleuol Sarah Kane, ‘Blasted’, daeth tro (annisgwyl iawn imi) wedi cwta ugain
munud, o’r wythdeg munud dyrys hwn, a drodd y ddrama deuluol yn dymestl dywyll,
dreisgar am drasiedi’r gwrthdaro yn Kenya.
Ai ddim i fanylu am drywydd y stori, na dadlennu'r hyn sy’n digwydd, ond
drwy draethu gor-bregethwrol y forwyn ‘Nala’ (Susan Wokoma) fe gollais
ddiddordeb yn hanes y teulu, a’m swynodd mor gelfydd ar gychwyn y
cyfan.
Mi fûm yn pendroni’n hir pam na
chydiodd gweddill y ddrama fy nychymyg a’m cydymdeimlad, er imi fod ar erchwyn
fy sedd, wrth wylio’r dinistr ar y llwyfan.
Yn wahanol i ‘Blasted’ neu ddramâu gwleidyddol Graham, roedd gormod yn
cael ei drafod yma. Fe’m gadawyd yn boddi wrth lan pwll nofio’r gwesty, a’m
hymennydd yn ceisio synnwyr a stori. Roeddwn hefyd yn siomedig bod yn rhaid
cael drama arall am ‘gyn aelod o’r Llywodraeth Brydeinig’ (ffug) oedd wedi
gorfod ffoi rhag artaith y Wasg, wedi iddynt eu gorfodi i adael eu swydd. Ond y
diffyg mwyaf, dwi’n meddwl, oedd diffyg gallu'r dramodydd (ifanc), dosbarth
canol Prydeinig i ddeall cyd-destun a gwleidyddiaeth gymhleth Kenya. Nid sylw nawddoglyd mo hynny, ond onestrwydd
pur, wedi bod yn dyst i ddramâu newydd gan wyth dramodydd ifanc o Dde’r Affrig
yn y Royal Court yn ddiweddar, a’u geiriau emosiynol yn codi’n naturiol o’u
profiadau amrwd.
Heb os, Tom oedd y cryfaf o lawer,
ymysg y cast cymysg hwn, a’i bresenoldeb golygus, yn drydan byw yn goleuo’r
llwyfan unwaith eto, fel y profais yn y ddrama ‘Mojo’, dro yn ôl. Cafwyd
llwyfannu dinistriol diddorol, a’r fflamau byw yn eironig ddigon, wedi gorfod
ail-gychwyn y ddrama gwta ddeng munud o’r cychwyn, am bod larwn tân y Theatr
wedi tarfu ar yr olygfa gyntaf! Profiad newydd arall i’r (hen) ddramodydd hwn!
‘Fyddai’n sgwennu drama er mwyn
ceisio deall y ddadl’, meddai James Graham, gan roi’r ymchwil helaeth o’r
neilltu, a gadael i’r cymeriadau siarad a thrafod. Cyngor doeth a difyr iawn,
a’i ddawn i ffrwyno a pheidio gor gymhlethu’r cyfan, yw allwedd ei lwyddiant.
Cyngor da iawn i unrhyw ddramodydd, ifanc neu beidio.
Gallwch fynychu’r ‘Hotel’ yn y National
Theatre tan yr 2il o Awst. Mwy o fanylion ar eu gwefan, neu tocynnau dydd o 10
y bore am gyn lleied â £12.