Total Pageviews

Tuesday 3 June 2014

Dan y Wenallt ond ymhell uwch y tonnau


Llun Andy Freeman
Ynghanol y môr o danau’r Wenallt eleni, cefais orig tra dymunol yng nghyflwyniad myfyrwyr Yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd. O dan gyfarwyddyd medrus Sêra Moore Williams, llwyddwyd i fynd â ni ar daith ddwyieithog, llawn dychymyg, ac anadlu bywyd ifanc, ffres i’r ‘buggeralL’ o ddrama leisiau, ddifywyd.

Gyda chyfieithiad ‘gwell na’r gwreiddiol’ T James Jones yn gyfeiliant godidog i ddelweddau symudol o donnau’r môr, roedd gwylio ymateb didwyll a sensitif yr un-actor-ar-hugain, yn bwerus tu hwnt.  Wedi’u rhewi yn eu dillad nos, o dan anwes o oleuo cynnes, nes i hud y geiriau eu hudo at draeth o gerrig a chregyn gwyn. Cipiasant ambell i air o enau eu cymeriadau, a’u ffeirio am garreg wen, wrth ddawnsio’n gylch celfydd.

Llun Andy Freeman
Fe’n plymiwyd i ganol y pumdegau, ar gyfer yr ail ddiwrnod, wrth i’r cymeriadau gasglu ynghyd i gyflwyno’r ‘ddrama i leisiau’ i grombil pum meicroffon, oedd yn crogi uwch eu pen. Caewyd llenni’r gofod, er mwyn creu awyrgylch stiwdio radio, oedd yn gweddu’n berffaith i’r darlleniad cyntaf ym mis Medi 1953, cyn marw disymwth Dylan Thomas, ym mis Tachwedd o’r un flwyddyn.

Y meibion oedd yn argyhoeddi fwyaf, gydag hiwmor hyderus Aled Llŷr Thomas a Lloyd James Robling (darpar Bobi a Sami neu Vladimir ac Estragon y dyfodol!) yn felys i’r glust a’r llygad. Cadernid, presenoldeb a llais cyfoethog Lloyd Meredith wrth anwesu’r Rosie Probert gogleddol marw, a atgyfodwyd o waelod enaid angerddol, Mari Elen Jones. Dawn comediol (a darpar ddawnsiwr tap) Trystan ap Owen, wrth gadw’r cyfan i lifo, i gyfeiliant grymus y merched.  Wrth godi, fesul un, i ganu neu gyfarth geiriau’r bardd, llwyddwyd i roi cig a gwaed go iawn, ar sgerbwd sawl un o’r cymeriadau adnabyddus.

Llun Andy Freeman
Ein deffro a’n dadrithio wnaeth ton ola’r cyflwyniad, wrth i realaeth y presennol, a bywydau real yr actorion, ddiferu’n oer uwch ein pen.  Agorwyd y llen ar gyfnod newydd, a delweddau personol o’r presennol yn chwa o awyr iach.  Gyda phob anerchiad annibynnol, crëwyd darlun o Gymru gyfoes ddwyieithog, wrth i bob actor yn ei dro sôn am ei deulu, eu Cymreictod, eu profiadau theatr cyntaf a’u hoff rannau o’r ddrama  i leisiau, a blethodd y cyfan at ei gilydd, yn un flanced gynnes.

O’r nawdeg munud a brofais yn eu cwmni, heb gyllideb, set na stŵr, fe’m hargyhoeddwyd yn llwyr gan theatr greadigol a hudolus.  Tri chyfnod, tair arddull gwbl wahanol. Arbrofi’n ddeallus, heb ddim dangos-ein-hun. Goleuo a sain twt a thaclus, yn anwesu ac yn deffro, yn hytrach na’n boddi a’n bôrio!

Llun Andy Freeman

Llongyfarchiadau mawr i bob aelod o’r cwmni dethol, i’r chwech ar gwblhau eu blwyddyn olaf,  y pedwar o’u hail flwyddyn, a Tirion James ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf. Gwych a chalonogol iawn, iawn

No comments: