Mae’n
bleser gen i gyhoeddi, nad wyf yn gachgi! Wel, i fod yn fanwl gywir, nad wyf yn
ffan o waith y dramodydd dros ben Brydeindod, Noël Coward. Wedi gweld sawl drama o’i eiddo yn y gorffennol, yr un themâu ac yn eu sgil, yr un hen jôcs
rhonc ymhlith y dosbarth uchel (dybiedig) yn Nauddegau’r ganrif ddiwethaf.
Felly, pam mentro (a gwario tro ma!) i’r Gielgud, i weld cynhyrchiad ‘newydd’
o’i gomedi arallfydol, ‘Blithe Spirit’?
Mae’r
ateb yn syml, er mwyn ychwanegu enw’r Fonesig ddiweddara i gamu ar lwyfan Llundain,
i’m rhestr hir o brofiadau theatr byw. O Mirren i Dench, Suzman i Smith, dwi di
bod yn lwcus iawn o fedru ‘anadlu’r un gwynt theatrig’ â sawl enw ‘mawr’, ac er
nad yn gwbl argyhoeddedig bob tro, o’u dawn i lefaru (Mirren a Redgrave yn
enwedig!) mae eu gwylio ar lwyfan, gwta ddwy neu dair rhes o’ch blaen, yn
drydan byw. Oeddwn i am gael yr un wefr o weld y Fonesig Angela Landsbury, yn
ei 88 mlwydd , a minnau wedi bod yn gymaint o ffan o’r glasur o gyfres, ‘Murder
She Wrote’?!
Mi gesh i wefr, ar un llaw, wrth gael fy siomi ar y llall. Un o
briod alluoedd unrhyw actor gwerth ei halen (neu’i urddas), yw medru llefaru yn
glir ar lwyfan, nes taro sylw’r sedd uchaf un, yng nghefn y balconi. Does dim
ots os mai gweiddi ta sibrwd yw’r dasg, fe ddylai trydan eu trydar danio’r
dychymyg a deffro pob blewyn. Yn
anffodus, cyn i’r clir weledydd unigryw ‘Madame Arcati’ gamu ar y llwyfan i
gyfeiliant bonllef o gymeradwyaeth cwbl haeddiannol, roedd y clychau pryderus
yn canu’n glir. O boptu’r llwyfan, yn
gwbl ddisylw hyd y foment honno, roedd dau seinydd segur. Doedd dim o’i hangen, yn gwbl amlwg ar
Charles (Charles Edwards) a Ruth (Janie Dee), gŵr a gwraig sydd wedi estyn
gwahoddiad i’r clir weledydd ecsentrig i’w cartref moethus am noson o ‘adloniant’.
Ond, yn sydyn reit, wedi anadlu trwm a marimba’r mwclis, fe gafodd llais
eiddil (siomedig) yr actores enwog, ei chwyddo hyd eithafion y galeri.
A minnau gwta ddwy res o’r llwyfan, allai ddim ond ag awgrymu mai
blinder, y gwth o oedran, neu flynyddoedd o waith teledu oedd yn gyfrifol am y
chwyddo angenrheidiol hyn. Yn waeth fyth, a synnwn i ddim am yr un
rhesymau, dwi’n eithaf sicr bod y ddau gylch o wallt cringoch dros ei
chlustiau, yn cuddio clustffonau yn ogystal, er mwyn bwydo’r geiriau colledig,
rhag amharu ar rediad y ddrama. Siom fawr imi, gan imi ddisgwyl gwefr o’i
chlywed yn llenwi’r gofod, lle bu ei mam hefyd, mae’n debyg, yn serennu.
Does dim dwywaith fod ganddi ddawn drydanol i danio’r cymeriad, ac
roedd pob ebychiad, anadl, golwg a symudiad yn werth ei brofi, yn enwedig yn
hurtrwydd y dawnsio codi swyn. Ond gyda
sawl actor llawer fengach, oedd â’r gallu i daflu ei llais i ben arall y stryd,
heb ymdrech yn y byd, roedd gwendid y fonesig yn boenus o amlwg.
Ynghanol y gwendidau storïol o’r ddwy ‘ysbryd’ o wraig sy’n
gwrthod ymadael â’r byd hwn, ac yn poenydio’r gŵr, roedd strwythur ac
adeiladwaith comedïau clasurol Coward, yn gwbl amlwg. Maen nhw’n werth eu gweld, petai ond i ddysgu
am gynildeb plannu a medi’r hadau’r stori, sut i gyflwyno’r plot a’r
ddaearyddiaeth drwy eiriau, a sut i ddod a phob llinyn stori ynghyd, ar gyfer y
diweddglo (dros ben llestri) daclus.
Yn y newyddion bore ma, mae dyhead y Fonesig i ddychwelyd i Lundain, wedi gwyliau byr, er mwyn serennu unwaith eto ar lwyfan. Mae’r sioe yn
siŵr o werthu, a bydd y gynulleidfa yn siŵr o dyrru. Efallai y gwelwch chi’r
cachgi yma hefyd, yn eistedd bellach yn ôl y tro hwn, er mwyn medru derbyn
rhith y cyfan, a chadw’n dawel!
No comments:
Post a Comment