Y Cymro 01/11/13
Wythnos arall yn nes at y dolig, a
llyfr newydd arall wrth erchwyn y gwely. Newydd dderbyn copi o gyfrol ddiweddara Emyr Edwards o dan yr enw addas ‘Perfformio’ a hynny o wasg a fu’n
hynod o gefnogol i fyd y ddrama, ers ei gychwyn, sef Carreg Gwalch. Mi fyddai’n cynnig adolygiad llawn o’r
gyfrol, unwaith fyddai wedi mynd drwyddi, ond cefais flas mawr eisoes am
olrhain y testun yn ôl i ddefodau’r Groegiaid a doniau’r Cyfarwydd. Celfyddyd y
gyfrol yw dweud syml, deallus Emyr Edwards, heb arlliw o’r dangos-eu-hunain
academaidd, sy’n bla gan rai Gweisg Prifysgol, erbyn hyn. Da iawn yn wir. Dylai fod ar restr Siôn Corn
pob un ohonoch!
Llun Keith Morris |
A sôn am anrhegion, wel mi gefais
i wledd annisgwyl ond hynod bleserus yng Nghwmni’r Frân Wen, a’u perl o sioe
‘Dim Diolch’ yn yr oruwch ystafell anghysbell, yng Nghlwb y Rheilffordd, Bangor
yr wythnos diwethaf. Er colli’r dechrau, roedd yr hyn a welais yn fedrus o
felys i’r llygaid a’r glust, gan dri actor ifanc dawnus a thri thechnegydd
diwyd a mwy ifanc, os rhywbeth – Kelly Hodder, Claudia Bryan-Joyce a Morgan
Evans!
Llun Keith Morris |
Angerdd ac emosiwn Carwyn Jones
a’m cydiodd fwyaf, wrth fyw pob golygfa o fywyd unig, diddiolch, yr ysgolhaig
gwyddonol George Price, ac roedd ei lygaid dyfriog tywyll ar ddiwedd y sioe, yn
brawf o’i daith theatrig unigryw. Felly hefyd gyda didwylledd Martin Thomas a
Ceri Elen, a fu’n cyd-actio ag ef, wrth ddod â’r holl gymeriadau amrywiol at ei
gilydd.
Llun Keith Morris |
Wnâi ddim sôn llawer am strwythur
y sioe, o waith Iola Ynyr ac wedi’i gyfarwyddo’n ddawns daclus gan Ffion Haf,
un o’r cywion cyfarwyddo diweddara o nythaid hyfforddiant Elen Bowman, a’r
Theatr Genedlaethol, rhag imi ddifetha naws feddyliol brydferth y cynhyrchiad!
Ond drwy weledigaeth syml ond cwbl effeithiol y cynllunydd Erin Maddocks, i
greu set gyfan o hen gabinetau ffeilio a lampau amrywiol, ynghyd â thaflunio
deallus a dramatig Rob Spaul, dyma un
o’r cynyrchiadau gorau imi weld yng Nghymru ers tro.
Llun Keith Morris |
Siom enfawr oedd darganfod ar y
diwedd nad yw’r gyllideb yn ddigonol i’w theithio ymhellach na Wrecsam,
Caergybi a Llanrwst. Mater y dylai’r Cyngor y Celfyddydau ei ‘werthuso’ gan
weithredu yn sydyn iawn, gyda’r gobaith y gallwn ninnau tu hwnt i Gymru, hefyd
brofi symlrwydd llwyfannu a mentergarwch a’m hatgoffodd o ddyddiau cynnar Theatr
Bara Caws. Gwreiddioldeb, gweledigaeth a chyd-weithio y dylid ei gefnogi ymhob
ffordd posib, a hynny heb fod angen am Ganolfan Gelf ddrudfawr a’i
lol.
Wilbert Lloyd Roberts ar safle adeiladu Theatr Gwynedd |
Ac o sôn am lol a diffyg
cefnogaeth, cefais ateb hynod o swta a drist gan Arwel Gruffydd, arweinydd ein
Theatr Genedlaethol, ynghylch fy nghais iddo yntau, a’r cwmni i gefnogi’r
ymgyrch i enwi theatr newydd Pontio, ar ôl arloeswr a sefydlydd y theatr ym
Mangor, Wilbert Lloyd Roberts. “…er ein
bod yn cydnabod ac yn deall cryfder teimladau ar y mater hwn, nid yw'n briodol
i ni fel sefydliad ymyrryd ym mhenderfyniad sefydliad arall ar fater nad yw'n
gyfrifoldeb i ni,” medd Arwel, gan ychwanegu,
“Rydym yn parchu penderfyniad awdurdodau Prifysgol Bangor ac yn edrych
ymlaen yn awr at agoriad Canolfan Pontio ac at lwyfannu sawl cynhyrchiad yn y
theatr dros y blynyddoedd nesaf.”
Siom yn wir. Theatr Genedlaethol
heb yr hawl i ‘ymyrryd’ na mynegi barn, ar fater sydd mor agos at garedigion y
Theatr drwy Gymru. Pa ddiben ei gael, os felly? Pam ddim dyrchafu Bara Caws,
Frân Wen, Sherman, Arad Goch neu Glwyd, at statws Cenedlaethol llwfr, di-lais a
di-ddiben amlwg, hyd yn hyn?.
‘Mae angen Theatr Genedlaethol ar
y Cymry am eu bod yn genedl,’ yn ôl dadl Gareth Miles, fel y dyfynna Emyr
Edwards yn ei gyfrol newydd, ‘…Ond mae’r sawl sy’n mynnu y dylai Cymru feddu ar
Theatr Genedlaethol am ei bod hi’n genedl yn darostwng y theatr i fod yn
llawforwyn i’w ddaliadau gwleidyddol ef ei hun. Cymru yw Cymru ac mae’n rhaid
ei chymryd fel y mae, ac nid fel y dymunem iddi fod.’, meddai’r Bnr Miles. Felly llestr gwag disglair ond distaw yw
dymuniad yr ‘athronwyr academaidd’ mewn cwpwrdd gwydr o Theatr Genedlaethol,
tra bod y Cymry yn parhau i droi yn yr un cylchoedd gwenwynig saff, heb dorri
tir newydd, na symud ymlaen?
Os nad oes cefnogaeth i’w gael gan
ein cyrff theatrig cenedlaethol, mi
dawaf innau ar fy nghri. Gobeithio bydd
bob un sy’n camu drwy gyfoeth drysau enwogrwydd rhyngwladol ‘Theatr Bryn
Terfel’, gan gynnwys Arwel, Bryn, Elen ap Robert a’r Athro John Hughes yn cofio’r
sarhad a’r diffyg parch a ddangoswyd at freuddwyd, gweledigaeth a gwaith caled
y gŵr a fu’n gyfrifol am sefydlu’r theatr ym Mangor, heb sôn am greu cwmni ac
actorion blaenllaw i serennu yno. Boed eich egwyddorion mor ddisglair â’ch
egos! Amen.
Mae ‘Dim Diolch’ (teitl addas
iawn!) ar daith drwy fis Tachwedd gan ymweld â Blaenau Ffestiniog (4 a 5),
Caergybi (7), Llanrwst (11 a 12),
Llandudno (13), Pwllheli (19 a 20), Bala (21),
Llangefni (25), Bae Colwyn (28).
No comments:
Post a Comment