Total Pageviews

Friday 29 November 2013

'Mojo'

Y Cymro – 29/11/13 

Dychmygwch gael eich clymu a’ch crogi, ben ei wared, am dros ddeng munud ar lwyfan theatr yn Llundain – a hynny o flaen cast o wynebau cyfarwydd â phrofiadol. Dyna yw’r her sy’n wynebu’r llanc ifanc, penfelyn golygus, dwy ar hugain oed, Tom Rhys Harries o Bontcanna, yn y ddrama lwyddiannus ‘Mojo’.

Strydoedd cefn tywyll a pheryglus Soho, ym mhumdegau cythryblus y ganrif ddiwethaf, yw cefndir drama gyntaf Jez Butterworth, a ddaeth i enwogrwydd wedi hynny, am ei ddrama ‘Jerusalem’.  Wedi’i gyfarwyddo gan Ian Rickson, a thîm llwyddiannus fu’n cyd-weithio â’i gilydd ar sawl cynhyrchiad, dyma ddrama gyhyrog, dywyll am drais y gangiau a’r clybiau tanddaearol, oedd yn rheoli Llundain, yn y cyfnod yma. 


Yn cadw cwmni i’r Cymro ifanc ar lwyfan Theatr Harold Pinter ger Leicester Square, mae rhai o wynebau cyfarwydd byd y ffilmiau a theledu ar hyn o bryd – dyna ichi ben dyn hunan dewisedig y gang, ‘Mickey’ (Bradley Coyle) sy’n fwy cyfarwydd fel ‘Bates’ ar goridorau tanddaearol Downton Abbey, na strydoedd tywyll Llundain; y llipryn pengoch ‘Sweets’ (Rupert Grint) sy’n troedio’r llwyfan am y tro cyntaf wedi ffarwelio â ‘Ron Weasley’, o’r ffilmiau Harry Potter; Colin Morgan a’i berfformiad trydanol fel ‘Skinny’ ac sy’n diosg mantell ‘Merlin’, o gyfres y BBC, a’r ‘Q’ newydd, yn ffilmiau James Bond, ac un fu’n rhannu llwyfan â’r Fonesig Judi Dench yn ddiweddar, Ben Whishaw, fel y ‘Baby’ fregus a beryglus, sy’n gorfod dod i delerau â llofruddiaeth ei dad, sef perchennog y clwb.

Daniel Mays sy’n serennu, yn byw bob ystum ac anadl y cymeriad ‘Potts’, ac sydd ofn cysgod ei hun, heb sôn am ‘lyn cysgod angau, wrth i’r ddrama dywyll a threisgar, ddidrugaredd, gyrraedd diwedd ei thaith.


Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol yn y Royal Court ym 1995, does dim amheuaeth o gwbl am allu cymeriadu Butterworth – a chreadigaethau y mae’r cast cyhyrog yma wedi’u portreadu’n gwbl wych. O gamau dawns gyntaf ‘Silver Johnny’ (Tom Rhys Davies) ar gychwyn y ddrama, hyd drasiedi’r diweddglo, mae’n gynhyrchiad cofiadwy iawn, er nad yn hawdd ei wylio mewn mannau, yn gwbl werth yr ymdrech.

Yn enedigol o Gaerdydd, ac wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, aeth Tom yn ei flaen i astudio drama yng Ngholeg Cerdd a Drama,  Caerdydd, gan ddewis anwybyddu colegau drama Llundain. “Roedd Caerdydd yn fy siwtio i’n iawn,” meddai’r actor sydd wedi’i weld efo Minnie Driver yn ffilm Marc Evans, ‘Hunky Dory’, ac wedi hynny ar deledu yn y gyfres ‘Parade’s End’. “O’r eiliad y camais i mewn i’r Coleg, roedd y lle yn teimlo’n iawn”, ychwanegodd. 

Wedi’r profiad ar y ffilm, cafodd ei dderbyn gan yr un asiant â Minne Driver, sydd wedi’i arwain at sawl cyfle gwirioneddol gwerthfawr, ac sy’n brawf pendant o’i allu fel actor. Methais â’i weld yng nghynhyrchiad y Menier o ‘Torch Song Trilogy’ y llynedd, ond mi fûm yn ffodus iawn o’i weld yng nghynhyrchiad roc a rôl y Crucible, Sheffield o ddrama Alan Bennett, ‘The History Boys” cyn yr haf eleni.  Er nad oedd Tom erioed wedi gweld y cynhyrchiad gwreiddiol o’r ddrama, cafodd brofiad cofiadwy iawn yn gweithio efo cyfarwyddwr y cynhyrchiad egniol a cherddorol, Michael Longhurst, o dan arweiniad artistig dewinol Daniel Evans.


“Yng Nghaerdydd mae’n ngwreiddie i, ac ers bod yma yn Llunden, rwy’n teimlo’n angerddol iawn dros Gymru”, cyfaddefodd wrthyf, wrth geisio rhwydo sgwrs ffôn, rhwng twneli’r rheilffordd o Gaerdydd i Lundain. “Ma Cymru yn wlad mor greadigol. Ma pwll o dalent da ni, y Cymry Cwmrag, ac fe dyle safon gwaith Cymru fod yn uwch nag yw e”, datganiad y mae’n rhaid i minnau, gytuno cant y cant ag ef. 

Nid beirniadu yw ei fwriad, ond consyrn gwirioneddol am weld safon uwch, ar lwyfannau Cymru. “Yn Llunden, ma nhw wastad yn cwestiynu popeth,” meddai, “a dyw e byth ddigon da.” 

Ac yntau wrthi’n ffilmio golygfeydd yng nghyfres gomedi Caryl Parry Jones i S4C yn ystod y dydd, mae’n cyfaddef fod y daith yn ôl i Lundain i wneud y sioe bob nos, yn flinedig iawn.  Gyda ffilm arall newydd ei gadarnhau'r wythnos hon, dwi’n hyderus iawn y gwelwn ni lawer mwy o’r llanc addfwyn, dymunol hwn, ar lwyfan a theledu Cymru. 

Profiad “anhygoel” i Tom ydi cael bod yng nghwmni tîm mor brofiadol, ac “ma cael dy hongian upside down am ddeg munud, wyth gwaith yr wythnos, yn wers dda o stamina unrhyw actor!”, ychwanegodd.

Mae ‘Mojo’ i’w weld yn Theatr Harold Pinter tan 25ain o Ionawr. Mwy drwy ymweld â www.mojotheplay.com


No comments: